Aer iach

Mae tystiolaeth i brofi bod llygredd aer yn gallu achosi canser, a gwaethygu clefyd y galon a’r ysgyfaint. Rydym angen glanhau ein haer nawr – er lles ein hiechyd a’n planed.

Mae Cyfeillion y Ddaear Cymru yn aelod o Awyr Iach Cymru. Mae gennym 5 blaenoriaeth i Lywodraeth Cymru.

 

1. Strategaeth ansawdd aer gyfansawdd, ar draws y Llywodraeth, sy’n cynnwys:

  • Darpariaeth ar gyfer Rhwydwaith Monitro ac Asesu Annibynnol;
  • Bwrdd Ymgynghorol Cenedlaethol ar Ansawdd Aer, a gadeirir gan Weinidog yr Amgylchedd, sy’n cynnwys arbenigwyr, academyddion a chynrychiolwyr o gyrff anllywodraethol, awdurdodau lleol a sectorau sy’n llygru’n fawr (fel trafnidiaeth ac egni);  
  • Ardal Aer Glân sy’n codi tâl i Gaerdydd, efo gorfodaeth ar Gynghorau Abertawe a Chasnewydd i gynnal astudiaethau dichonoldeb ar gyflwyno ardal aer glân sy’n codi tâl yn eu hardaloedd;
  •  Adolygu prosesau adrodd fel bod gofyn i bob awdurdod lleol (ar y cyd â’r Bwrdd Iechyd Lleol/Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus) baratoi Cynllun Aer Glân, ar sail data gan y Rhwydwaith Monitro ac Asesu Annibynnol, gyda mesurau rheoli digonol wedi’u hadnabod a’u gweithredu;   
  • Ymrwymiad y bydd Cynlluniau Datblygu Strategol, Cynlluniau Lles y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus, ac awdurdodau trafnidiaeth rhanbarthol, yn rhoi ystyriaeth i ansawdd aer;
  • Gofyniad i bob awdurdod lleol ddatblygu strategaeth Cerdded a Beicio efo targedau i leihau canran y teithiau mewn car preifat; Cronfa Aer Glân sy’n targedu cyllid i’r Awdurdodau Lleol hynny sydd â lefelau llygredd aer sy’n gyson uchel neu ormodol. Dylai Llywodraeth Cymru ymchwilio i opsiynau i ran-gyllido’r Gronfa hon drwy fesurau fel codi tâl ar draffig, a Modelau Buddsoddi Cydfuddiannol.

 

2. Cyflwyno cronfa aer glân

Darparu cyllid wedi'i dargedu ar gyfer yr Awdurdodau Lleol hynny sy'n mynd y tu hwnt i lefelau cyson neu lefelau uwch o lygredd aer. Dylai Llywodraeth Cymru ymchwilio i opsiynau i ariannu’r gronfa hon yn rhannol drwy fesurau fel codi tâl am draffig a Modelau Buddsoddi Cydfuddiannol.

 

3. Cyllido cynghorau

Rhoi cyllid i gynghorau roi hwb i fonitro llygredd tu allan i ysgolion a chanolfannau iechyd/ysbytai, fel bod gan y cyhoedd yr wybodaeth angenrheidiol i amddiffyn eu hiechyd.

 

4. Gwella monitro llygredd aer ac ymwybyddiaeth y cyhoedd

Gwella trefn monitro llygredd, ymgyrchoedd codi ymwybyddiaeth a rhybuddion iechyd i’r cyhoedd, fel bod pobl sy’n byw ym mhob rhan o Gymru yn ymwybodol o lefelau llygredd yn lleol, a sut i leihau’r effaith ar eu hiechyd.

 

5. Deddf Aer Glân i Gymru a fyddai’n:

  • Corffori canllawiau Sefydliad Iechyd y Byd ar ansawdd aer;
  • Gorchymyn Llywodraeth Cymru i lunio strategaeth ansawdd aer statudol, pob deng mlynedd;
  • Rhoi dyletswydd statudol ar awdurdodau lleol i fonitro ac asesu llygredd aer yn briodol, a gweithredu yn ei erbyn;
  • Cyflwyno ‘hawl i anadlu’ ble mae’n ofynnol i awdurdodau lleol roi gwybod i grwpiau bregus pan fydd lefelau neilltuol yn cael eu torri.

 

Haf Elgar
Haf Elgar

Dywedodd Haf Elgar, Cyfarwyddwr Cyfeillion y Ddaear Cymru,

“Mae Cymru angen Cynllun Aer Glân clir a chynhwysfawr ac a gefnogir yn ariannol, gan gynnwys Parthau Aer Glân effeithiol er mwyn diogelu pobl rhag llygredd o gerbydau yn ein trefi a’n dinasoedd llygredig. Mae’n rhaid sicrhau system fonitro ansawdd aer gwell yng Nghymru, isadeiledd sy’n galluogi teithio llesol gyda llwybrau cerdded a beicio diogel.

 

Edrychwn ymlaen at gydweithio â Llywodraeth Cymru, y Senedd ac arbenigwyr eraill i ddatblygu’r cynigion hyn fel mater o frys.”

Two girls walking in the countryside

Mae cyflwyno Bil Aer Glân newydd yn foment hanesyddol i Gymru

 

Mae Cyfeillion y Ddaear Cymru ac aelodau eraill o Aer Iach Cymru yn croesawu’r newyddion bod Bil Aer Glân wedi’i gynnwys yn natganiad deddfwriaethol y Prif Weinidog, a gyhoeddwyd heddiw (pumed o Orffennaf 2022).

Find out more

Mum from Cardiff with her son, walking to school

Mai pobl ar yr incwm isaf sy’n anadlu’r aer mwyaf llygredig

 

Dengys gwaith ymchwil newydd gan Gyfeillion y Ddaear, a ryddhawyd gan Awyr Iach Cymru ar y Diwrnod Aer Glân, mai pobl ar yr incwm isaf yng Nghymru yw’r rhai sy’n anadlu’r aer mwyaf llygredig.

Mwy o wybodaeth

Cars and exhaust pipes

Mae elusennau yn annog y Prif Weinidog i gyflymu'r Ddeddf Aer Glân

 

Mae Awyr Iach Cymru wedi ysgrifennu at y Prif Weinidog Mark Drakeford a'r Gweinidogion newydd ar y Newid yn yr Hinsawdd, Julie James a Lee Waters, cyn Diwrnod Aer Glân, yn eu hannog i flaenoriaethu deddfwriaeth aer glân a chyflwyno targedau ansawdd aer uchelgeisiol.

Mwy o wybodaeth

People cycling on a road

Papur gwyn Deddf Aer Glân - ein hymateb

 

Yn Ionawr, lansiodd Llywodraeth Cymru ei phapur gwyn aer glân yn nodi cynlluniau ar gyfer Deddf Aer Glân i Gymru

Mwy o wybodaeth

Picture of cyclist in high viz

Bydd codi tâl ar ddefnyddwyr ffyrdd yn glanhau aer Caerdydd

 

Mae Cyfeillion y Ddaear Caerdydd a Chyfeillion y Ddaear Cymru yn croesawu cynlluniau i ystyried codi tâl ar ddefnyddwyr ffyrdd drwy’r ddinas, fel y nodir ym mhapur gwyn trafnidiaeth Cyngor Caerdydd, sydd newydd ei gyhoeddi

Mwy o wybodaeth