Ambell syrpréis neis yn y strategaeth Mwy nag Ailgylchu!

Published: 13 Mar 2021

Photo of Bleddyn Lake

Gan Bleddyn Lake
Rheolwr Ymgyrchoedd a Datblygu
Cyfeillion y Ddaear Cymru

Mae ‘Mwy nag Ailgylchu – strategaeth i wneud economi gylchol Cymru yn realiti’ wedi’i chyhoeddi bellach gan Lywodraeth Cymru. Yn y blog hwn, mae Bleddyn Lake yn cnoi cil ar yr hyn y mae’r strategaeth yn ei olygu i drigolion Cymru. Mae’n mynd ati i ystyried yr amrywiaeth o gamau cadarnhaol, gan ddatgelu un syrpréis neis iawn…

 

Wel, cafodd strategaeth Mwy nag Ailgylchu Llywodraeth Cymru ei chyhoeddi yr wythnos hon (2 Mawrth 2021). Ond a fydd hi’n gwneud economi gylchol yn realiti yng Nghymru? Bydd, yn fy marn i.

 

Os rhywbeth, mae’r strategaeth hon hyd yn oed yn well na’i hymgynghoriad!

Mae’r llwybr y mae Llywodraeth Cymru yn ei ddilyn mewn perthynas â materion gwastraff wedi bod yn un cadarnhaol iawn yn ystod y blynyddoedd diwethaf, ac mae papur ymgynghori’r strategaeth hon wedi cadarnhau ymhellach y bydd y mentrau cadarnhaol hyn yn debygol o barhau. Weithiau, fodd bynnag, gall strategaethau terfynol fod yn bur wahanol i’w hymgynghoriadau gwreiddiol. Os rhywbeth, mae’r strategaeth hon hyd yn oed yn well na’i hymgynghoriad!

Ceir ambell syrpréis neis (mwy am hyn cyn bo hir!), rhai syniadau arloesol a chydgysylltiedig a llawer o bethau y gallwn gyffroi go iawn yn eu cylch.

Gwyddom ers tro fod Llywodraeth Cymru yn cefnogi’r arfer o gyflwyno pethau fel Cyfrifoldeb Estynedig Cynhyrchwyr, Cynlluniau Dychwelyd Ernes, gwahardd rhai plastigau untro a chodi ffi ar rai eitemau untro (e.e. Treth Cwpanau Coffi).

Gwyddom hefyd fod Cymru wedi cael llwyddiant ysgubol wrth ailgylchu gwastraff domestig ac wrth gasglu a lleihau gwastraff bwyd.

Yn awr, mae’r strategaeth hon yn pennu trywydd ar gyfer ble y mae’r llywodraeth yn dymuno’i gyrraedd, ynghyd â cherrig milltir amrywiol ar y llwybr tuag at ddyfodol diwastraff. Mae hefyd yn ceisio dwyn ynghyd wahanol faterion ac atebion.  

 

Mae gweithredu yn y gymuned yn ganolbwynt cryf

Roedd canol trefi, er enghraifft – hyd yn oed cyn Covid – mewn trafferth. Mae’r strategaeth hon yn anelu at adfywio canol trefi ledled Cymru gyda syniadau arloesol yn ymwneud â defnyddio’r economi rhannu a chynlluniau ailddefnyddio ac uwchgylchu er mwyn creu llu o economïau cylchol lleol. Bydd hyn yn helpu i ysgogi swyddi newydd ac adfywio’r stryd fawr.

Ymhellach, mae gweithredu yn y gymuned yn ganolbwynt cryf, a gobeithio y gwelwn lawer mwy o fentrau fel caffis trwsio, llyfrgelloedd pethau, llyfrgelloedd teganau, compostio cymunedol a chynlluniau rhannu lleol yn dod i’r fei o amgylch y wlad, gyda mwy o gymorth yn cael ei roi i’r mentrau hyn.

Mae yna lu o bethau da yn y strategaeth – gormod o bethau i sôn amdanynt yn fanwl fesul un. Ond un peth da yr hoffwn dynnu sylw ato, gan ei fod yn rhywbeth a allai syrthio trwy’r rhwyd, yw cyhoeddi y byddant yn:

“Adeiladu ar yr arloesi presennol yng Nghymru drwy lansio cystadleuaeth genedlaethol am arloesi i fynd i’r afael â her deunyddiau anodd eu hailgylchu.”

Rydym yn falch fod yr awgrym hwn wedi’i gynnwys yn y strategaeth, oherwydd mae’n debygol o ysgogi llawer o syniadau ac atebion da a fydd nid yn unig yn helpu i ddelio â deunyddiau yma yng Nghymru, ond y gellir eu defnyddio hefyd gan wledydd o amgylch y byd. 

 

Ac yn awr, dyma ni’r syrpréis…

Yn olaf, os oes yna un peth sy’n llwyddo i ddal sylw rhywun ymhlith y myrdd o gamau hynod gadarnhaol yn y strategaeth, dyma fo:

 

“Gosod moratoriwm ar unrhyw ddatblygiadau ynni-o-wastraff mawr wrth i’r cynnydd mewn ailgylchu a’r gostyngiad mewn gwastraff rydym eisoes wedi’u gweld yn golygu na fydd angen unrhyw seilwaith ynni-o-wastraff newydd mawr arnom i ddelio â gweddill y gwastraff a gynhyrchir yng Nghymru.

“Byddwn yn gweithio hefyd â Llywodraeth y DU i archwilio a fyddai cyflwyno treth llosgi yn ddymunol fel dull o gefnogi cynnydd wrth bontio i economi gylchol.”

Mae hyn yn enfawr! Yn aruthrol! Yn y pen draw, mae’n arwydd y bydd llosgi’n dod i ben yng Nghymru. Ni fydd y llosgwyr lu a grybwyllwyd ar gyfer gwahanol rannau o Gymru yn mynd yn eu blaen bellach.

Mae hon yn fuddugoliaeth aruthrol i’r holl gymunedau hynny a ymgyrchodd yn erbyn cynlluniau llosgyddion yn eu hardaloedd, yn ddiweddar a hefyd dros y blynyddoedd.

Dylai olygu hefyd fod cynlluniau i droi hen orsaf bŵer B Aber-wysg yn llosgydd wedi dod i ben. Byddai peidio â bwrw ymlaen â’r cynllun hwn, ar ei ben ei hun, yn arwain at arbed mwy na 1,550,000 o dunelli o CO2 rhag cael eu rhyddhau bob blwyddyn am yr ugain mlynedd nesaf.

Yn amlwg, mae Llywodraeth Cymru wedi gwrando ar y miloedd ohonoch sydd wedi eu boddi ag e-byst yn ystod y misoedd diwethaf, yn mynnu na ddylai llosgyddion fod ag unrhyw le yn strategaeth yr economi gylchol.

Fe weithiodd! Llwyddo fu ein hanes! Diolch o galon!

Wrth gwrs, mae yna lawer mwy i’w wneud eto mewn perthynas â gwastraff ac adnoddau er mwyn helpu i wireddu’r cynlluniau hyn ac er mwyn parhau i ymgyrchu dros gamau eraill. Ond mae’r strategaeth hon yn ddogfen gadarnhaol iawn, ac mae’n ymgorffori cymaint o’r hyn y mae unigolion, cymunedau a sefydliadau wedi bod yn gofyn amdano ers blynyddoedd.

 

A oes yna unrhyw beth arall yr hoffem ei weld?

Eithriadau o ran codi ffi ar fagiau plastig

Credaf fod pob un ohonom yn gwybod bod y ffi ar fagiau plastig yng Nghymru wedi bod yn llwyddiant ysgubol. Mae wedi arbed miliynau ar filiynau o fagiau plastig rhag cael eu cynhyrchu yn y lle cyntaf, gan arwain felly at arbed llawer o allyriadau ynni a hinsawdd (mae’r rhan fwyaf o blastigau’n deillio o olew), a hefyd gwelir lleihad sylweddol mewn sbwriel bagiau plastig ar ein strydoedd, mewn gwrychoedd a choed ac yn arnofio mewn afonydd ac ar hyd ein harfordiroedd.

Yn ôl y strategaeth, bydd yn:

“Adolygu ein ffi arloesol ar fagiau siopa yng Nghymru a gwerthuso a oes modd cymryd camau pellach ar yr eitemau hyn.”

Gwyddom fod yna gynnydd yn ddiweddar mewn gwerthu ‘bagiau plastig am oes’. Mae hyn yn destun pryder, felly mae angen gweithredu pellach. A dyna’r ‘eithriadau’ arbennig i’r arfer o godi ffi – yn ôl pob tebyg, bydd y rhain yn cael eu hailystyried yn awr a bydd y rheolau’n cael eu tynhau.

Mae rhai fferyllfeydd, er enghraifft, yn dal i roi presgripsiynau mewn bagiau plastig, fel y nodwyd rhyw ddeunaw mis yn ôl. Mae’n hen bryd delio ag eithriadau o’r fath a byddant yn esgor ar enillion rhwydd o ran defnyddio llai o adnoddau a lleihau gwastraff.

 

Tecstilau

Mae cyfraniad y diwydiant ffasiwn a thecstilau at allyriadau hinsawdd byd-eang yn rhywbeth a gaiff ei ddeall fwyfwy y dyddiau hyn, gydag oddeutu 10% o allyriadau byd-eang yn deillio o’r sector hwn.

Yn ôl y strategaeth Mwy nag Ailgylchu…

“Mae cynhyrchu cynhyrchion bob dydd – gan gynnwys ceir, dillad a bwyd – yn cyfrif am 45% o allyriadau carbon y byd. Yn ogystal, rydym yn defnyddio mwy o lawer na’n cyfran deg o adnoddau’r ddaear ac mae hyn wrth wraidd yr argyfwng hinsawdd a bioamrywiaeth a wynebwn.”

Ac mae’r strategaeth yn addo’r canlynol:

“Datblygu seilwaith ychwanegol i gasglu ac ailgylchu deunyddiau o gartrefi nad ydynt yn cael eu hailgylchu’n eang ar hyn o bryd, fel cynhyrchion hylendid amsugnol, pren, ffilm blastig, plastig caled, cartonau, tecstilau, matresi, carpedi ac offer trydanol ac electronig gwastraff.”

Credwn fod yna sawl cyfle yn y sector hwn i ni yng Nghymru – o sicrhau bod pethau ymarferol, fel trwsio dillad, yn cael eu cynnwys yn y cwricwlwm cenedlaethol mewn ysgolion; a bod cynlluniau, fel cynlluniau cyfnewid dillad ysgol a dillad chwaraeon, yn cael eu datblygu’n fentrau cenedlaethol; hyd at roi cymorth i Fusnesau Bach a Chanolig yng Nghymru sy’n ymhél â ffasiwn gynaliadwy a sicrhau bod cynlluniau adfywio canol trefi yn cynnwys dillad a thecstilau.

Yn wir, rydym yn llawn cyffro o gael bod yn rhan o gynghrair newydd o grwpiau a busnesau yng Nghymru sy’n dod ynghyd i lunio cynllun cydgysylltiedig yn ymwneud â’r posibiliadau hyn.

 

Bwndeli babanod

Roedd hi’n braf gweld bod clytiau a chynhyrchion mislif wedi cael eu crybwyll yn y strategaeth…

“Rhoi cyngor i ddinasyddion ar yr hyn y gallant ei wneud i leihau gwastraff yn eu cartrefi, gan gynnwys lleihau gwastraff bwyd, compostio gartref, defnyddio clytiau a chynhyrchion mislif y gellir eu hailddefnyddio, defnyddio cynhyrchion y gellir eu hail-lenwi a throsglwyddo eitemau nad oes mo’u hangen arnoch ar gyfer ail oes.”

A hefyd…

“Buddsoddi mewn seilwaith trin, didoli ac ailbrosesu er mwyn mynd i’r afael â deunyddiau blaenoriaeth – gan gynnwys cynhyrchion hylendid amsugnol, offer electronig bach, pren, plastigau, tecstilau, matresi, carpedi a chartonau.”

Un peth y mae fy nghydweithiwr Becky Harford wedi bod yn gweithio arno yw perswadio Llywodraeth Cymru i gyflwyno Bwndeli Cynaliadwy i Fabanod yng Nghymru. Gwyddom fod Mark Drakeford, Julie Morgan a gweinidogion eraill yn y llywodraeth yn awyddus i gyflwyno Bwndeli Babanod yng Nghymru, a chredwn fod hwn yn gyfle gwych i wneud pethau rywfaint yn wahanol ac anelu at rywbeth na welwyd mohono yn unman arall – sef bwndeli cynaliadwy i fabanod. Gellid cael gafael ar y cynhyrchion yng Nghymru, gallai’r cynhyrchion hyn fod yn rhydd o blastig ac, yn bwysicach na dim, gallai’r bwndeli gynnwys clytiau golchadwy.

Gwyddom fod clytiau untro ar hyn o bryd yn cyfateb i oddeutu 10% o wastraff bagiau duon ar gyfartaledd ac y bydd angen newid ymddygiad er mwyn annog rhieni i ddychwelyd at ddefnyddio clytiau golchadwy. Byddai clytiau golchadwy, yn enwedig pe baent yn cael eu cynnwys mewn bwndeli cynaliadwy i fabanod, yn arbed cannoedd o bunnoedd i deuluoedd, yn lleihau gwastraff, yn lleihau’r defnydd o blastig ac yn lleihau allyriadau hinsawdd, a phe bai cynlluniau golchi clytiau lleol yn cael help i sefydlu byddai clytiau golchadwy yn creu swyddi newydd lleol ledled Cymru. Ymhellach, byddai’r math hwn o fenter yn cyd-fynd â chynlluniau i adfywio canol trefi yng Nghymru.

Os ydym eisiau defnyddio llai o adnoddau yn ogystal â delio’n fwy effeithlon â ‘gwastraff’, yna pa gyfle gwell a gawn gyda chlytiau na thrwy gyflwyno bwndeli babanod?We were pleased to see mention of nappies and sanitary products in the strategy

 

Eco-labelu

Roedd hi’n ddiddorol gweld bod gwell labelu wedi’i gynnwys yn y strategaeth…

“Gwella’r wybodaeth sydd ar gael i ddefnyddwyr, ee drwy labelu gwell, er mwyn galluogi pobl i wneud dewisiadau clir i gefnogi cynhyrchion mwy cynaliadwy ac wedi’u hailgylchu.”

Dyma ychwanegiad pwysig iawn at weithredu ar wastraff a defnydd mwy cynaliadwy yn gyffredinol.

Er ei fod rywfaint yn wahanol i’r mesurau a ystyrir ar hyn o bryd, un peth yr hoffem ei weld yw datblygu safon ‘eco-labelu’ neu ‘garbon-labelu’ mewn perthynas â bwyd yng Nghymru.

Pan fyddwn yn prynu peiriant golchi neu oergell, caiff y sgôr effeithlonrwydd ynni ei nodi, felly pam na ellir gwneud hyn gyda bwyd?

Er mwyn rhoi hwb i economi Cymru, dylid cynhyrchu a bwyta bwyd mor lleol â phosibl, a dylid cael pwyslais cryf ar hyn wrth gaffael yn y sector cyhoeddus. Byddai cynllun eco-labelu bwyd newydd a gwirfoddol yng Nghymru, a gâi ei ddatblygu gyda ffermwyr, cynhyrchwyr a grwpiau cymdeithas sifil, yn cefnogi hyn trwy ganiatáu i gwsmeriaid gymharu allyriadau carbon y cynnyrch a brynant, a thrwy hynny gefnogi bwyd a gynhyrchir yn fwy lleol. Nid yw arferion mewnforio ac allforio rhyngwladol dros bellter mawr yn gwneud synnwyr yn amgylcheddol wrth ystyried bwydydd y gellir eu tyfu yng Nghymru, ac ni all arferion o’r fath wrthsefyll problemau yn y gadwyn gyflenwi ryngwladol.

Yn ôl gwaith ymchwil a gynhaliwyd gan yr Ymddiriedolaeth Garbon yn 2019, mae dwy ran o dair o ddefnyddwyr yn cefnogi’r syniad o gael label carbon adnabyddadwy i ddangos bod y cynhyrchion wedi cael eu gwneud gydag ymrwymiad i fesur a lleihau eu hôl troed carbon.

 

Adeiladu a phren

Datblygiad cadarnhaol iawn arall, a rhywbeth na fydd efallai yn ysgogi’r un penawdau â mesurau eraill fel bagiau plastig untro, yw’r canolbwynt ar ddefnyddio ac ailddefnyddio pren a phrynu cynhyrchion sy’n defnyddio adnoddau’n effeithlon.

“Adolygu’r seilwaith sydd ei angen arnom yn erbyn tueddiadau tebygol yn y dyfodol o ran y meintiau a’r mathau o wastraff a gynhyrchir, a thrwy adolygu’n strategol gadwyni cyflenwi a llifoedd angenrheidiol deunyddiau allweddol fel pren sydd eu hangen i gefnogi’r broses o bontio i economi gylchol a charbon isel.”

A hefyd…

“Blaenoriaethu prynu cynhyrchion sy’n defnyddio adnoddau’n effeithlon gydag ôl troed carbon isel. Byddwn yn defnyddio llai o ddeunydd crai ac yn blaenoriaethu defnyddio, er enghraifft, pren a deunyddiau sydd â llawer o gynnwys wedi’i ailgylchu yn ogystal â blaenoriaethu eitemau wedi’u hailddefnyddio a’u hailgynhyrchu yn y nwyddau y mae’r sector cyhoeddus yn eu prynu.”

Ar lefel y gymuned, bydd mwy o gynhyrchion a wneir yng Nghymru trwy ailddefnyddio ac uwchgylchu pren yn ein helpu i gefnogi swyddi lleol, yn creu swyddi newydd ac yn helpu i leihau’r defnydd o bren.

Wrth gwrs, mae yna ddimensiwn arall yn perthyn i hyn hefyd, sef bod defnyddio pren yn berthnasol i’r diwydiant tai ac adeiladu hefyd. Mae gan sment ôl troed carbon enfawr. Gwyddom hynny. A allwn ddefnyddio llai ohono yng Nghymru?

Pe baem yn defnyddio model ‘pren yn gyntaf’, er enghraifft, wrth adeiladu tai, ac yna’n cael gafael ar gymaint â phosibl o’r pren hwn yng Nghymru, nid yn unig fe fyddem yn lleihau’r defnydd o sment ac yn lleihau ei effaith ar yr hinsawdd, ond gallem gysylltu hyn ag amryfal strategaethau’n ymwneud â phlannu coed, coedwigaeth a chaffael yn y sector cyhoeddus.

Mae Tŷ Solcer ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn enghraifft wych o’r hyn sy’n bosibl o ran adeiladu tŷ fforddiadwy ynni-gadarnhaol, isel iawn ei allyriadau. Gallem gefnogi hyn ar raddfa fwy trwy greu dulliau adeiladu tai modiwlar oddi ar y safle, a fyddai hefyd yn helpu i gynnal a chreu swyddi newydd yng Nghymru.

Share this page