Amser gwahardd y troseddwyr plastig gwaethaf

Published: 5 Oct 2020

Photo of Kirsty Luff

Gan Kirsty Luff
Swyddog Cyfathrebu
Cyfeillion y Ddaear Cymru

Mae Llywodraeth Cymru eisiau gwahardd cwpanau a chynwysyddion bwyd polystyren untro, ffyn cotwm, cyllyll, ffyrc a phlatiau plastig, troellwyr diodydd, gwellt a ffyn balwnau. Rydym eisiau ychwanegu mwy o gynnyrch i'r rhestr ddu.

Mae nifer o'r troseddwyr plastig gwaethaf ar restr ddu cynnyrch plastig untro, fydd yn cael eu gwahardd yng Nghymru y flwyddyn nesaf, yn dilyn ymgynghoriad gan Lywodraeth Cymru, sy'n ceisio edrych ar beth allant ei wneud ar frys i leihau gwastraff.

Mae gwahardd plastig untro sy'n anodd i'w ailgylchu yn gam cyntaf gwych at Gymru ddiwastraff, lle na fydd unrhyw beth yn mynd i dirlenwi neu'n cael ei losgi.

Mae cwpanau a chynwysyddion bwyd polystyren untro, ffyn cotwm, cyllyll, ffyrc a phlatiau plastig, troellwyr diodydd, gwellt a ffyn balwnau ar y rhestr, yn ogystal â chynnyrch oxo-bioddiraddiadwy megis bagiau plastig, sy'n torri i lawr yn ddarnau bach dros amser wrth gael eu harddangos i'r aer.

Rydym yn croesawu cynnig Llywodraeth Cymru, yn cynnwys gwahardd plastig oxo-bioddiraddiadwy. Mae cynnyrch oxo-bioddiraddiadwy a ffurfiau eraill o blastig yn gwneud llanast yn yr amgylchedd ac yn llygru ein cefnforoedd, ac yn cyrraedd llwybrau treuliad anifeiliaid môr sy'n ei gamgymryd am fwyd. 

Yn ein barn ni, dylai cynnyrch plastig untro eraill, sy'n anodd i'w hailgylchu, gael eu gwahardd hefyd, fel:

  • weipiau gwlyb anfeddygol (mae Llywodraeth Cymru'n gobeithio cynnwys y cynnyrch hwn yn y rownd nesaf o gynnyrch i'w gwahardd)
  • potiau a chodenni bwyd porsiwn sengl
  • poteli cynnyrch ymolchi bach a ddefnyddir yn y sector lletygarwch
  • bocsys brechdanau wedi'u pacio ymlaen llaw
  • rhwydi rhwyllog a ddefnyddir i bacio ffrwythau

Yn ein barn ni, mae marc cwestiwn dros becynnau Tetra, sydd angen cyfleusterau arbennig i'w hailgylchu. Faint o'r cartonau hyn sy'n cael eu hailgylchu yng Nghymru, a pha mor gynaliadwy ydyn nhw?  Hoffem i Lywodraeth Cymru edrych ar y cynnyrch hwn a ddefnyddir yn eang yn y dyfodol.

Fodd bynnag, nid yw'r ymgynghoriad presennol yn ymdrin â phecynnau Tetra na mentrau diwastraff, megis cyfrifoldeb ychwanegol ar gynhyrchwyr a chynllun dychwelyd ernes.

Yn hytrach, mae'n edrych ar beth mae Llywodraeth Cymru â'r grym i'w wneud - yn gyflym. Gofynnir i ni, a ydyn ni'n cytuno â'r rhestr o bethau i'w gwahardd, ac a oes angen ychwanegu cynnyrch eraill.

Os ydych yn cytuno â chynnig Llywodraeth Cymru, neu'n credu bod angen ystyried eitemau eraill, fel ni, ewch i: https://llyw.cymru/lleihau-plastig-untro-yng-nghymru​.

I ddysgu mwy am yr hyn rydym yn ei gredu, darllenwch ein hymateb i ymgynghoriad Llywodraeth Cymru.

Mae gennym dan 22 Hydref 2020 i rannu ein barn.

Mae gweld Llywodraeth Cymru yn parhau i wneud pethau positif i leihau gwastraff yn wych.  Nawr yw'r amser i fod yn flaengar ac uchelgeisiol, a dyna pam rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddod â dyddiad y targed diwastraff ymlaen o 2050 i 2030, a gwahardd llosgwyr. Cadwch lygad allan!

Share this page