Bydd codi tâl ar ddefnyddwyr ffyrdd yn glanhau aer Caerdydd

Published: 14 Jan 2020

Mae Cyfeillion y Ddaear Caerdydd a Chyfeillion y Ddaear Cymru yn croesawu cynlluniau i ystyried codi tâl ar ddefnyddwyr ffyrdd drwy’r ddinas, fel y nodir ym mhapur gwyn trafnidiaeth Cyngor Caerdydd, sydd newydd ei gyhoeddi

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Sion Elis Williams o Cyfeillion y Ddaear Caerdydd (llun: BBC)

 

Mae’r papur gwyn ‘Gweledigaeth Trafnidiaeth hyd at 2030 – Newid sut rydym yn symud o gwmpas dinas sy’n tyfu’ yn awgrymu y gallai codi tâl ar ddefnyddwyr ffyrdd yn 2024 helpu i gyfrannu £2 biliwn at drawsnewid system drafnidiaeth Caerdydd. Nod Cyngor Caerdydd yw cynyddu cyfran y siwrneiau a wneir i’r gwaith ar fysiau, trenau a thramiau o 17% heddiw i 34% erbyn 2030.

 

Ymhellach, mae’r grŵp ymgyrchu’n cefnogi nifer o fesurau ategol a gynigir yn y papur, yn cynnwys systemau tocynnau integredig ac ymrwymiad i leihau prisiau tocynnau bysiau ar draws y ddinas, gyda’r nod o gyflwyno siwrneiau £1.

Mae lefelau llygredd aer Caerdydd ymhlith y rhai gwaethaf yn y DU. Yn ôl astudiaeth gan Brifysgol Birmingham, mae Caerdydd ymhlith y pum dinas fwyaf llygredig yn y DU o ystyried ei maint, y traffig a geir yno a’i phoblogaeth. Disgwylir gweld cynnydd pellach o 50,000 o bobl ym mhoblogaeth y ddinas yn ystod y degawd nesaf, gan roi pwysau ar gynghorwyr i greu atebion i leihau tagfeydd a llygredd.

 Yn ôl Siôn Elis Williams, Arweinydd Ymgyrch #AnadlEinioesCaerdydd Cyfeillion y Ddaear Caerdydd:

“Mae’r papur gwyn yma’n cydnabod bod argyfwng yr hinsawdd a’r argyfwng llygredd aer gwenwynig yn mynnu bod yn rhaid cymryd camau uchelgeisiol. Mae Codi Tâl ar Ddefnyddwyr Ffyrdd wedi’i seilio ar yr egwyddor “y llygrwr sy’n talu” 3, a byddai rhoi’r system ar waith yn gam beiddgar tuag at fynd i’r afael â’r anghyfiawnderau amgylcheddol sy’n cael effaith niweidiol anghymesur ar fywydau’r trigolion yng Nghaerdydd sy’n achosi’r llygredd lleiaf.

“Rydym yn cefnogi’n frwd y cynigion i gynyddu teithio llesol, gwella trafnidiaeth gyhoeddus a lleihau’r angen i fod yn berchen ar geir preifat, ond rydym yn awyddus i’r system Codi Tâl ar Ddefnyddwyr Ffyrdd gael ei hystyried o fewn ac ar draws y ddinas, ac anogwn y cyngor i roi’r system hon ar waith cyn gynted â phosibl.

“Edrychwn ymlaen at weld ymrwymiadau manylach a mwy pendant ynghylch cynigion rhanbarthol – fel cysylltiadau bws cyflym a chyflwyno beiciau llog – pethau a fydd, gobeithio, yn cynnig opsiynau fforddiadwy a chynaliadwy i bawb sydd angen teithio yng Nghaerdydd. Rydym hefyd yn annog Prifddinas-Ranbarth Caerdydd4 i roi dull mwy strategol ar waith i leihau’r angen i deithio trwy gynyddu cyfleoedd ac amwynderau mewn ffordd fwy cyfartal ledled De-ddwyrain Cymru.”Grŵp ymgyrchu lleol o wirfoddolwyr yw Cyfeillion y Ddaear Caerdydd, sy’n gweithio gyda Chyfeillion y Ddaear Cymru ar ymgyrchoedd lleol, rhanbarthol a chenedlaethol i greu hinsawdd fwy diogel, natur sy’n ffynnu, ac aer, bwyd a dŵr iach. Nod y grŵp yw cyflymu a hwyluso’r gwaith o lanhau llygredd aer peryglus Caerdydd yn y ffordd decaf, gyflymaf a mwyaf cynaliadwy bosibl, yn ogystal â gwella’r amgylchedd lleol yng Nghaerdydd.

 

Mae Cyfeillion y Ddaear Cymru, aelod Healthy Air Cymru, hefyd yn croesawu'r ymrwymiad hirsefydlog i wella ansawdd aer a lleihau allyriadau sy'n niweidol i'r hinsawdd. Darllenwch ymateb llawn Healthy Air Cymru yma.


 

 

Share this page