Mae'n argyfwng ar ein gwenyn. Hebddyn nhw, bydd ein hamgylchedd a'n heconomi gan gynnwys ein bwyd yn dioddef hefyd.

Felly beth wnawn ni? Caru Gwenyn!

Mae Cyfeillion y Ddaear Cymru wedi ymuno â Llywodraeth Cymru i lansio’r fenter gyntaf o’i bath yn y byd i amddiffyn gwenyn a phryfed peillio eraill.

 

logo Caru Gwenyn
logo Caru Gwenyn

Mae Caru Gwenyn, neu Bee Friendly yn Saesneg, yn gynllun achredu newydd ar gyfer Cymru gyfan a gall cymunedau, ysgolion, prifysgolion, busnesau ac addoldai ennill statws “Caru Gwenyn”.

Bydd grwpiau sy’n cymryd rhan yn cwblhau tasgau o dan benawdau cynefin, porthi, plaladdwyr a chynnwys y gymuned a’r gobaith yw y bydd y cynllun yn ysgogi llawer mwy o weithredu ac o ddiddordeb mewn pryfed peillio ac yn help i sicrhau dyfodol i’n Gwenyn!

Menter newydd yw hon gan y Tasglu Pryfed Peillio a sefydlwyd yn sgil llwyddiant lansiad Cynllun Gweithredu Llywodraeth Cymru ar gyfer Pryfed Peillio

O fewn y cynllun, ceir rhwydwaith o “Hyrwyddwyr Caru Gwenyn” rhanbarthol i helpu grwpiau sy’n cymryd rhan i gynllunio eu prosiectau ac yn y dyfodol, bydd gwobrau efydd, arian ac aur yn cael eu cyflwyno i gadw Cymru’n ddiwyd fel y gwenyn.

Y nod yw sicrhau mai Cymru yw’r wlad Caru Pryfed Peillio gyntaf yn y byd! 

Felly gweithiwch dros y gwenyn! Ac i helpu’n pryfed peillio.

Chwiliwch am ragor o ffeithiau ac adnoddau am ein gwenyn anhygoel.

Felly, os oes gennych ddiddordeb yn eich ysgol, coleg, busnes, cymuned neu sefydliad cyhoeddus arall yn dod yn Gyfeillgar i Wenyn, cysylltwch â ni am ragor o wybodaeth.

Mwy o wybodaeth

Mynnwch eich pecyn arbed gwenyn

Darllenwch am wenyn