Chwaraeon - sut i leihau ei effaith ar yr amgylchedd

Published: 5 Aug 2020

Joe Cooke, cricedwr proffesiynol i Glwb Criced Morgannwg, yn dangos chwe cham y gall unigolion a chlybiau eu cymryd i leihau effaith chwaraeon ar yr amgylchedd.

Gan Joe Cooke
Cricedwr a Gwirfoddolwr gyda Chyfeillion y Ddaear Cymru

Mae chwaraeon wedi dychwelyd! Wel, peth ohonynt o leiaf. 

 

Rwyf wedi bod ar goll hebddynt, ac rwy'n sicr nad fi yw'r unig un! Beth arall sy'n dwyn pawb ynghyd fel chwaraeon? Pa bwnc arall all eich cloi chi mewn sgwrs awr o hyd ynglŷn â rhywbeth mor ddi-nod â thechneg sgrymio gyfredol timau rygbi Cymru...? 

Ydy, mae chwaraeon yn darparu swyddi, adloniant, cyfeillgarwch a hyder i filiynau (biliynau, mae'n debyg) o bobl ledled y byd. Rhaid i ni beidio ag anghofio'r effaith economaidd, ychwaith. Y llynedd, adroddodd Two Circles, cwmni ymgynghoriaeth chwaraeon, fod chwaraeon wedi cyfrannu £11.8bn at economi'r Deyrnas Unedig. 

Ond beth am ein planed? Mae popeth y mae bodau dynol yn ei wneud, waeth pa mor fach, yn dylanwadu ar yr amgylchedd yr ydym yn byw ynddo.

Nid yw chwaraeon yn eithriad. Fel yr eglura Andrea Collins, darlithydd ac ymchwilydd mewn Daearyddiaeth a Chynllunio ym Mhrifysgol Caerdydd: 

"Mae effaith amgylcheddol digwyddiadau chwaraeon yn dod yn fwyfwy anodd ei hanwybyddu. Yng nghanol yr argyfwng hinsawdd, mae angen i drefnwyr digwyddiadau, noddwyr, gwylwyr a chyfranogwyr weithredu nawr i leihau'r effaith y maent yn ei chael ar yr amgylchedd i sicrhau bod chwaraeon yn gadael gwaddol cadarnhaol i genedlaethau'r dyfodol." 

Sut mae mynd i wylio eich hoff dîm pêl-droed neu chwarae rygbi i'ch clwb lleol ar brynhawn Sadwrn yn cael gymaint o effaith ar y blaned?

 

1. Ystyriwch y ffordd yr ydych yn teithio 

Gwn nad fi yw'r unig un sy'n cyfaddef teithio milltiroedd i wylio neu gymryd rhan mewn chwaraeon. Mae teithio yn sgil digwyddiadau chwaraeon yn cyfateb i lawer; darganfu Andrea Collins fod teithio i'r gêm rhwng Cymru a'r Alban ac oddi yno ym Mhencampwriaeth Chwe Gwlad 2006 wedi rhyddhau 325 tunnell o allyriadau cyfwerth â charbon i'r atmosffer. Mae hynny'n gyfwerth â'r swm a ryddheir gan 138 o gartrefi mewn blwyddyn! Yn yr un digwyddiad, teithiodd 63% o'r gwylwyr gyda char neu awyren.

I leihau allyriadau, mae angen i sefydliadau annog llai o deithio gyda char ac awyren i ddigwyddiadau chwaraeon. Er enghraifft, gallai clybiau gynnig tocynnau neu aelodaeth ratach os yw gwylwyr neu chwaraewyr yn teithio gyda'i gilydd, ar drên neu fws, neu roi gostyngiad mwy hyd yn oed os byddant yn cerdded neu'n beicio.

Fel unigolion, gallwn wneud ein penderfyniadau ein hunain, felly y tro nesaf yr ydych chi'n mynd i gymryd rhan mewn chwaraeon, meddyliwch 'a allaf i'?

 

  • Gerdded neu feicio (ymarfer corff da hefyd) 
  • Defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus 
  • Gofyn i gyfaill rannu lifft gyda chi (rhannwch yr arian petrol a byddwch yn arbed ychydig bunnoedd hefyd)! 

Nid teithio yw'r unig ffordd y mae chwaraeon yn rheoli ein planed. 

 

2. Mabwysiadu eitemau ailddefnyddadwy  

Mae digwyddiadau chwaraeon mawr yn denu miloedd o bobl. Dros 50,000 o bobl mewn un lle am ychydig oriau, a phob un yn prynu bwyd a diod mewn cynhwysyddion i fynd. Mae hynny'n gryn dipyn o wastraff yn y biniau wedyn. Rydym ni i gyd mor wastraffus, ond dichon ein bod ar ein gwaethaf mewn stadiwm chwaraeon. Cynhwysyddion plastig yw'r broblem fwyaf.

Mae Cyfeillion y Ddaear yn amcangyfrif bod 6 miliwn o gwpanau cwrw plastig untro wedi cael eu defnyddio yn yr Uwch Gynghrair yn unig, yn nhymor 2017/18!

Erbyn hyn mae cymaint o ddewisiadau eraill heblaw am becynnau plastig untro, boed yn gynhwysydd compostadwy neu'n ddelfrydol yn eitem ailddefnyddadwy.

Gwych yw gweld Clwb Rygbi Uplands yn cael gwared ar blastig.

 

Mae angen i glybiau eraill ddilyn eu hesiampl.

Gallwn chwarae ein rhan fel unigolion, hefyd:  

 

  • Cario potel ddŵr ailddefnyddadwy 
  • Defnyddio eich cwpan coffi eich hun. 
  • Mynd â'ch picnic eich hun yn hytrach na phrynu bwyd mewn gêm  
  • Lobïo timau chwaraeon i wneud y newidiadau hyn - anfonwch e-bost at eich clwb pêl-droed yn dweud y dylid newid i eitemau ailddefnyddadwy. Os bydd digon ohonom yn gwneud hyn, bydd rhaid iddynt wrando!

 

Os ydych ynghlwm â stadiwm chwaraeon neu glwb lleol a'r hoffech leihau gwastraff eich clwb, cysylltwch â [email protected]

 

3. Newidiwch i ddarparwr ynni gwyrdd 

Yn amlwg mae swm enfawr o ynni yn cael ei ddefnyddio mewn un digwyddiad chwaraeon; y llifoleuadau, yr adeiladau, y sgriniau teledu, gallwn fynd ymlaen ac ymlaen. Hyd yn oed mewn clybiau chwaraeon llai, os ydych yn pweru eich tŷ clwb y rhan fwyaf o'r dydd a'r nos, byddwch yn defnyddio llawer mwy o ynni na chartref cyfartalog, ac wrth gwrs, yn gwario mwy o arian. Adrodda Sport England fod clybiau chwaraeon yn gwario cyfartaledd o 30% o'u costau rhedeg ar ynni, sy'n gyfwerth ag oddeutu £10,000 ar drydan yn unig fesul clwb chwaraeon bob blwyddyn.

 

Un peth sydyn a rhwydd y gallwn ni i gyd ei wneud yw newid ein darparwr trydan i gwmni sy'n buddsoddi mewn ynni adnewyddadwy. Dysgwch pa gwmnïau sydd orau i chi a'r blaned yma. Neu beth am brynu panelau solar neu dyrbin gwynt? Byddwch yn arbed arian yn yr hirdymor, hefyd! Mae nifer o astudiaethau achos o glybiau yn arbed arian ac yn arbed y blaned. Dyma ddolen at rai o'r nifer o enghreifftiau yn y Deyrnas Unedig.

 

4. Peidiwch â defnyddio cemegau a thorrwch i lawr ar waith cynnal a chadw ar y cae  

Mae caeau a stadia chwaraeon yn hawlio ardal eang o dir, yn enwedig rhai chwaraeon megis golff. Gallai'r tir hwn fod yn goedwig neu'n ardal o goetir ac yn amsugno'r carbon deuocsid, felly mae angen i ni leihau'r effeithiau negyddol o'i ddefnyddio. Mae gwrteithwyr, plaladdwyr a chwynladdwyr yn llygru'r amgylchedd a gallant gyrraedd ein cyflenwad dŵr, ac effeithio ar yr ecosystemau.

Nid oes angen eu defnyddio, mae dewisiadau naturiol eraill ar gael, er enghraifft Cwrs Golff Kodaikanal yn India, sef un o'r cyrsiau golff prin sy'n gwbl organig, sy'n golygu nad ydynt yn defnyddio cemegau wrth gynnal a chadw'r tir. Yn sgil hynny, mae'r cwrs yn defnyddio llai o ddŵr mewn ardal sy'n dioddef o brinder dŵr rheolaidd.

Tybed a allai cwrs golff lleol ddod y clwb golff organig cyntaf yng Nghymru?

Yn y tymor tawelach, gadewch i'r glaswellt ar eich cae dyfu'n hir, waeth beth fo'r chwaraeon, a bydd eich cae yn fwy effeithiol fel dalfa garbon.

Neu os oes ardal o'ch tir nad yw'n cael ei defnyddio, beth am roi'r gorau i'w thorri'n ôl a'i gadael i natur? 

 

 

5. Meddyliwch am eich bwyd a'ch diod 

Fel y gwyddom bellach, mae gan bopeth yr ydym yn ei brynu ôl-troed carbon. Nid yw'r bwyd a diod yr ydych yn eu prynu mewn gêm chwaraeon yn wahanol. Fel yr adrodda'r Independent, y ffordd fwyaf o leihau eich ôl-troed carbon yw bwyta llai o gig. Felly, beth am gael gwared ar y byrgyr cig-eidion sy'n cael ei werthu ar y maes a'i newid am ddewis yn seiliedig ar blanhigion?

Forest Green Rovers oedd y clwb pêl-droed cyntaf i ddod yn gwbl fegan yn 2015, ac er bod y cefnogwyr yn bryderus i ddechrau, nid yw'r torfeydd wedi lleihau ac maen nhw bellach yn croesawu'r newid. Yn ogystal, sicrhewch eich bod yn prynu cynnyrch lleol a, lle bynnag sy'n bosibl, bydd prynu cynnyrch tymhorol hefyd yn lleihau eich ôl-troed carbon bwyd a diod.

Fel unigolion, gallwn: 

  • Leihau'r cig yr ydym yn ei fwyta, rhowch gynnig ar yr opsiwn llysieuol. 
  • Prynu bwyd sydd wedi'i dyfu yn y Deyrnas Unedig, lle bynnag bo hynny'n bosibl.

 

6. Newid i fanc moesegol  

Yn olaf, gadewch i ni drafod banciau. Mae buddsoddi yn y diwydiant tanwyddau ffosil yn gwaethygu'r argyfwng hinsawdd.

Os yw eich clwb chwaraeon yn dal i ddefnyddio banc sy'n buddsoddi yn y cwmnïau hyn, ystyriwch newid i un o'r nifer cynyddol o fanciau nad ydynt yn gwneud hynny. Gallwch weld rhestr o'r banciau moesegol yma

Felly, beth am Gymru? Er bod stadiwm y Principality yn arwain y newid hwn drwy ddod y stadiwm chwaraeon cynaliadwy cyntaf yn y Deyrnas Unedig yn 2010, mae mwy y gallwn ei wneud. Felly, gadewch i ni gyd chwarae ein rhan i gynnal lle Cymru fel arweinydd byd-eang mewn cynaliadwyedd.   

Os ydych chi ynghlwm ag unrhyw stadiwm chwaraeon neu glwb lleol yng Nghymru, cysylltwch i gael gwybod am ffyrdd y gallwch chi leihau eich effaith ar yr amgylchedd.

E-bost [email protected]

Neu cadwch lygad am ragor o'r blogiau ynglŷn â sut i ddod yn chwaraewr, gwyliwr neu glwb chwaraeon mwy gwyrdd. 

 

 

Share this page