Digwyddiad Eisteddfod : Dyfodol Di-blastig
Published: 6 Aug 2018
Mae Merched y Wawr, Urdd Gobaith Cymru, Mudiad Meithrin a Chyfeillion y Ddaear Cymru yn eich gwahodd i’w digwyddiad ‘Dyfodol Di-blastig’.
Mae llygredd plastig yn cael sylw yn y wasg bron pob dydd ers y rhaglen ddogfen Blue Planet.
Mae gormod o wastraff – plastig a defnyddiau eraill – yn canfod ei ffordd i safleoedd tirlenwi, strydoedd, afonydd a moroedd, ac yn niweidio ein hamgylchedd.
Nawr mae pedwar sefydliad cenedlaethol yn dod ynghyd am y tro cyntaf yn ystod yr Eisteddfod i ddangos – mewn modd hwyliog, ymarferol a dylanwadol – pa mor bwysig yw hi ein bod ni’n lleihau gwastraff, yn ailgylchu ac yn ailddefnyddio, nid yn unig pan rydym gartref ond wrth fynychu digwyddiadau fel yr Eisteddfod. Ac y gall pawb, waeth beth fo’ch oed neu lle rydych yn byw, wneud gwahaniaeth.
Mae’r Eisteddfod Genedlaethol eisoes wedi arwain y blaen drwy gyhoeddi eu bod yn cymryd camau breision i leihau’r defnydd o blastig untro a ddefnyddir ar y maes, gyda’r bwriad o wahardd plastig untro’n gyfan gwbl erbyn Eisteddfod 2019.
Yn y bore cynhelir sesiwn casglu sbwriel gyda Cadw Cymru’n Daclus o amgylch safle Maes B.
Yn y prynhawn, bydd mynychwyr yr Eisteddfod yn cael cyfle i ‘uwchgylchu’ neu ailwampio eitemau gwastraff drwy greu nwyddau defnyddiol allan o hen gartonau, megis pyrsiau a phorthwyr i adar ar stondin yr Urdd.
Digwyddiad: Dyfodol Di-blastig
Pryd: Dydd Iau, Awst 9 2018.
Casglu sbwriel 10.30am – 11.30am; Uwchgylchu 2-4pm
Ble: Bore - cyfarfod y tu allan i hen adeilad Profiad Dr Who, Heol Porth Teigr, Caerdydd CF10 4GA.
Prynhawn – Uwchgylchu/ailwampio o 2pm ymlaen ar stondin Urdd Gobaith Cymru (S14).
Addas i bob oed.
Noder: bydd lluniau ar gael ar y diwrnod a bydd llefarwyr ar gael o’r mudiadau canlynol: Merched y Wawr, Urdd Gobaith Cymru, Mudiad Meithrin a Chyfeillion y Ddaear Cymru