"Dim dyfodol" i ynni niwclear yng Nghymru

Published: 22 Apr 2016

Bydd ymgyrchwyr amgylcheddol yn annerch y Pwyllgor Materion Cymreig gan ddweud bod dyfodol llwydaidd i ynni niwclear yng Nghymru. Mae’r Pwyllgor yn cwrdd yng Nghaernarfon ddydd Llun, diwrnod cyn penblwydd 30 trychineb niwclear Chernobyl, i glywed barn pobl leol. Mae llawer o bobl a mudiadau yn gwrthwynebu cynlluniau i adeiladu atomfa newydd yn Wylfa, Ynys Môn.

Mae tystiolaeth ysgrifenedig Cyfeillion y Ddaear Cymru yn rhoi darlun du iawn i’r diwydiant niwclear.

Meddai Gareth Clubb, Cyfarwyddwr Cyfeillion y Ddaear Cymru, fydd yn rhoi tystiolaeth i’r Pwyllgor:

“Mae costau niwclear yn anferth ac yn cynyddu’n ddyddiol. Mewn gwrthgyferbyniad llwyr, mae costau ynni adnewyddadwy - sy’n cystadlu â niwclear am y farchnad ynni newydd - yn disgyn yn gyflym iawn. Does ‘na ddim dadl gall economeg dros rhagor o ynni niwclear.

“A mae’n rhaid ychwanegu risg catastroffi niwclear fydde’n gwneud tir diffaith o Ynys Môn, a’r rhan fwyaf o Ogledd Cymru yn ardal llygredig. Bydde’r goblygiadau am Gymru, ei phobl, ei heconomi, ei hamgylchedd a’i hiaith yn amhosib i ddirnad.

“Mae’r Pwyllgor wedi gofyn i ni asesu dyfodol ynni niwclear yng Nghymru. Mae ein hymchwil manwl yn dod i’r casgliad: does ‘na ddim dyfodol i ynni niwclear yng Nghymru”.

Share this page