Diogelu Cynlluniau Pensiwn Cymru

Beth yw dadfuddsoddiad? Dadfuddsoddiad yw'r gwrthwyneb i fuddsoddiad - yn syml, mae'n golygu stociau, bondiau neu gronfeydd buddsoddi. Mae'r mudiad byd-eang ar gyfer dadfuddsoddiad tanwydd ffosil yn gofyn i sefydliadau symud eu harian o gwmnïau olew, glo a nwy, am resymau moesegol ac ariannol.

Pobl yn protestio yn dal baner 'Glanhau ein cyngor - cicio tanwydd ffosil'

 

 

Pam dadfuddsoddiad?

Tanwydd ffosil - glo, olew a nwy - yw prif ysgogwyr newid yn yr hinsawdd. Os ydym ni eisiau hinsawdd iach, ddiogel, mae angen i ni adael unrhyw danwydd ffosil sy’n weddill yn y tir. Mae cwmnïau tanwydd ffosil anatebol, fel BP, Shell a BHP Billiton, yn gwneud y gwrthwyneb. Mae cloddio ac archwilio yn datgloi mwy o garbon o’r ddaear, ac felly’n hybu newid yn yr hinsawdd wrth lygru amgylcheddau ac ecosystemau sensitif hefyd, a dinistrio bywoliaeth pobl leol ledled y byd. Hefyd, wrth i economïau symud at ffynonellau ynni cynaliadwy, bydd gwerth buddsoddiadau mewn tynnu ac ymelwa ar danwydd ffosil yn lleihau. Byddai’n gall dadfuddsoddi nawr, cyn i’r galw am danwydd ffosil ostwng. 

 

Beth mae Cyfeillion y Ddaear Cymru yn ei wneud?

Mae Cyfeillion y Ddaear Cymru yn rhan o fudiad Fossil Free UK ac, yng Nghymru, rydym yn galw ar awdurdodau lleol a chyrff cyhoeddus i symud eu buddsoddiadau a’u daliadau pensiwn allan o ynni budr, fel rhan o ymgyrch byd-eang i ddadfuddsoddi mewn tanwydd ffosil. 

Yng Nghymru, mae ymchwil yn awgrymu bod awdurdodau lleol yn unig wedi buddsoddi’n uniongyrchol neu’n anuniongyrchol gwerth £500 miliwn mewn tanwydd ffosil.

Mae llawer o leoedd ledled y byd yn arwain y ffordd ac, yn fyd-eang, amcangyfrifir bod cyfanswm gwerth oddeutu $2.6 triliwn wedi symud i ffwrdd o danwydd ffosil.

Mae grwpiau lleol Cyfeillion y Ddaear ac eraill yn galw ar fuddsoddiad cyfrifol a dadfuddsoddiad mewn tanwydd ffosil.

Mae ein gwaith ar ddadfuddsoddiad yn rhan o waith ehangach i sicrhau bod Cymru yn rhydd rhag tanwydd ffosil. Mae’n bryd tynnu pensiynau ac arian cyhoeddus Cymru allan o danwydd ffosil! 

 

Beth allwn ni ei wneud?

Os oes gennych ddiddordeb mewn gweithio ar ddadfuddsoddiad yng Nghymru, cysylltwch â Bleddyn Lake ar [email protected]. Gall Bleddyn eich rhoi chi mewn cysylltiad â’ch grŵp Cyfeillion y Ddaear agosaf sy’n gweithio ar ddadfuddsoddiad neu eich helpu i ddechrau eich grŵp lleol eich hun ar y mater

 

Rhagor o wybodaeth

 

Group of people standing behind a banner, 'Fossil fuels are finished'

Datgarboneiddio pensiynau’r sector cyhoeddus erbyn 2030

 

Os aiff popeth yn ôl y disgwyl, ni fydd cronfeydd pensiwn y sector cyhoeddus yng Nghymru yn buddsoddi mewn tanwyddau ffosil erbyn 2030.

Mwy o wybodaeth

Picture of people in a hall, rejoicing

Sut i ddatgarboneiddio pensiynau'r sector cyhoeddus

 

Yng Nghymru, pan mae'n dod yn fater o gronfeydd pensiynau'r sector cyhoeddus yn cael gwared ar eu buddsoddiadau tanwydd ffosil, mae pawb yn edrych ar bawb arall yn disgwyl iddynt weithredu. Yn y blog yma, mae Bleddyn, ymgyrchydd hirdymor ar y mater, yn archwilio beth yn union fydd ei angen i ddatrys yr oedi hwn.

Mwy o wybodaeth

 

Snowdonia National Park

A yw eich pensiwn yn dinistrio’r blaned?

 

Mae cronfeydd pensiwn cynghorau Cymru yn dal i fuddsoddi mewn tanwyddau ffosil, ond a oeddech chi'n gwybod bod sefydliadau eraill yn talu i mewn i'r un gronfa?

Mwy o wybodaeth

City in the distance with lots of smoking chimneys

Arian llywodraeth leol wedi'i fuddsoddi mewn tanwydd ffosil

 

Mae cannoedd o filiynau o bunnoedd cynghorau lleol yng Nghymru yn parhau i fod wedi’u buddsoddi mewn tanwyddau ffosil sydd yn dinistrio’r blaned drwy gronfeydd pensiwn llywodraeth leol.

Mwy o wybodaeth

Picture of someone in a orange boiler suit holding up a divest sign

Dylid cynnwys cronfeydd pensiwn y sector cyhoeddus yn Sero Net Cymru

 

Rydym wedi anfon llythyr agored at Lywodraeth Cymru yn gofyn iddynt gynnwys cronfeydd y sector cyhoeddus yn y cynllun Net Zero Plans, sydd i fod i gael ei gyhoeddi ar 28 Hydref 2021.

Mwy o wybodaeth

Picture of the Senedd

AM Pension Scheme moves away from fossil fuels

 

Friends of the Earth Cymru welcome the news that the Welsh Assembly Member Pension Scheme has taken the decision to move nearly all their investments away from fossil fuel companies and set themselves a timeline for ditching the rest. 

Mwy o wybodaeth

Share this page