Llawenydd ymgyrchwyr wrth i gais bwll glo brig gael ei dynnu yn ôl

Published: 2 Jun 2016

[Llun o weithfeydd haearn Blaenafon gerllaw, Safle Treftadaeth y Byd, CC https://www.flickr.com/photos/locosteve/]

Bu llawennydd mawr ymhlith ymgyrchwyr wrth glywed cyhoeddiad ddoe y bydd cais pwll glo brig yn Nhorfaen yn cael ei dynnu yn ôl. Mae Cyfeillion y Ddaear Cymru, sydd wedi brwydro yn erbyn y cais yn Y Farteg ers sawl blynedd, yn credu bod hyn yn gychwyn ar dranc y diwydiant pyllau glo brig yng Nghymru.

Meddai Gareth Clubb, Cyfarwyddwr Cyfeillion y Ddaear Cymru:

“Mae cytundebau rhyngwladol hinsawdd, yn ogystal â synnywr cyffredin, yn golygu bod mwy a mwy o wledydd yn cefni ar lo - y tanwydd mwayf peryglus i’n hinsawdd. Canlyniad hynny yw gor-gyflenwad ar y farchnad byd-eang, sy’n golygu nad ydy’n bosib gwneud elw wrth gloddio am lo yng Nghymru. A nid oes newid i gael o ran hynny tua’r dyfodol.

“Felly, yn union fel y rhagwelasom ym mis Ebrill, rydym yn awr yn gweld dechrau’r tranc parhaol o’r diwydiant pyllau glo brig yng Nghymru. Edrychwn ymlaen yn awr i glywed cyhoeddiadau tebyg am geisiadau pyllau glo brig Nant Llesg a’r Tower.

“Mae’n wobr deilwng i’r cannoedd o ymgyrchwyr, yn lleol ac yn genedlaethol, sy wedi buddsoddi eu hamser a’u hymdrechion i wrthsefyll y cynlluniau gwallus yma. Nawr mae’n rhaid torchi llewys a gweithio ar y gwir atebion i’n anghenion ynni - buddsoddiad enfawr mewn lleihau’n defnydd o ynni, ac ynni adnewyddadwy. Wnaiff y ddau beth helpu adfywio cymunedau’r cymoedd tra’n diogelu’r amgylchedd”

Share this page