Mae ein coedwigoedd dan fygythiad. Pam?

Published: 18 Nov 2020

Photo of Ffion Edwards

Gan Ffion Edwards
Gwirfoddolwr Cyfeillion y Ddaear Cymru

Mae coed yn hanfodol i fywyd. Maent yn ein darparu ag ocsigen, yn storio carbon, yn sefydlogi pridd, yn rhoi bywyd i fywyd gwyllt lleol, ac yn allweddol i'n hiechyd meddwl a chorfforol. Yn y gyntaf o gyfres o flogiau, eglura Gwirfoddolwr Cyfeillion y Ddaear Cymru, Ffion Edwards, pam mae ein coetiroedd dan fygythiad a beth sy'n digwydd yma yng Nghymru i geisio datrys y broblem

Yn ystod misoedd maith COVID, mae nifer ohonom wedi ail-gysylltu â natur ac wedi mwynhau teithiau cerdded hirion, a gwerthfawrogi'r golygfeydd godidog a gynigir gan ein cyfeillion deiliog. Serch hynny, mae cyfradd plannu coed ar ei isaf ers degawdau. Yn ogystal, mae 1 mewn 10 o rywogaethau bywyd gwyllt a phlanhigion yn wynebu difodiant. Gyda miliynau o goed brodorol dan fygythiad afiechydon a phlâu, nid yw pethau erioed wedi edrych mor llwm!

 

Pam mae angen coed arnom

Mae coed yn wirioneddol wych!

Maent yn chwarae rôl enfawr yn arafu cyflymder newid hinsawdd, cadw bywyd gwyllt a chefnogi biliynau o bobl.

Mae coed yn lleihau'r swmp o CO2 drwy amsugno carbon o'r atmosffer.

Mewn gwirionedd, mae coed mor allweddol i'r frwydr yn erbyn newid hinsawdd nes bod y Pwyllgor Newid Hinsawdd wedi gosod targed o orchudd coed o 17-19% ledled y wlad os ydy'r DU ag unrhyw gyfle o fodloni targedau allyriadau sero carbon net erbyn 2050. 

Mae ein coedwigoedd hefyd yn ein darparu â choed a phren. Mae gan gynnyrch pren ôl-troed carbon is na choncrid neu ddur.

 

 

Felly, beth yw'r sefyllfa yng Nghymru?

 

Datganodd Lywodraeth Cymru argyfwng hinsawdd ym mis Ebrill 2019 ac ymrwymo i gyflawni sector cyhoeddus carbon niwtral erbyn 2030.

Yn hwyr yn 2019, cyhoeddasant Ffyniant i Bawb: Cymru sy'n Effro i'r Hinsawdd. Mae'r cynllun addasu i newid hinsawdd hwn yn sefydlu ymrwymiadau Llywodraeth Cymru i ymateb i effeithiau newid hinsawdd heddiw ac yfory.  

Hyd heddiw, y DU yw un o ardaloedd lleiaf coediog Ewrop, gyda chyfartaledd o 13% o orchudd coed mewn cymhariaeth â chyfartaledd y cyfandir o 37%.

Mae gan Gymru 15% o orchudd coed, sy'n well na Lloegr, ond mae angen llawer mwy o fuddsoddi mewn plannu coed. . 

 

Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud ynghylch y mater?

 

Ym mis Mawrth 2020, lansiwyd y Rhaglen Coedwig Genedlaethol yn swyddogol gan Mark Drakeford, Prif Weinidog Cymru.

Byddai'r Goedwig Genedlaethol hon i Gymru yn plethu coetiroedd cyfredol ag ardaloedd o goed newydd eu plannu yn ymestyn dros hyd a lled Cymru.

Gobeithir y bydd y Goedwig Genedlaethol yn chwarae rôl allweddol yn diogelu natur a mynd i'r afael â cholled bioamrywiaeth.

Mae cynlluniau'r Goedwig Genedlaethol yn cael eu cefnogi gan werth £5 miliwn o gyllid newydd sydd wedi'i neilltuo yng nghyllideb eleni, ynghyd â £10 miliwn ychwanegol o gyllid creu ac adfer coetiroedd Glastir

. 

 

 

 

Pam mae ein coedwigoedd yn diflannu?

Mae coedwigoedd yn gorchuddio oddeutu 30 y cant o arwynebedd tir y Ddaear ond mae'r ganran hon yn lleihau dros amser.

Rhwng 2016 a 2020, diflannodd 178 miliwn hectar o goedwig, sydd oddeutu yr un maint â Libya!

Y prif reswm dros hyn yw ehangiad amaethyddol.

Rhwng 2000-2010, roedd 40% o ddatgoedwigo trofannol yn gysylltiedig ag amaethyddiaeth fasnachol ar raddfa fawr, yn enwedig amaethu gwartheg, amaethu ffa soia ac olew palmwydd.

 

Cynhyrchu cig eidion yw'r prif reswm wrth wraidd datgoedwigo yng nghoedwig drofannol y byd er mwyn clirio tir ar gyfer pori.

 

Felly hefyd, gellir cysylltu'r ail brif reswm, soia, â chynhyrchu cig, gyda 70-75% o'r holl soia yn dod yn borthiant i dda byw megis ieir, moch a gwartheg.

Mae cynhyrchu ffa soia ledled y byd wedi cynyddu 15 gwaith ers y 1950au. Mae faint o gig sy'n cael ei fwyta fesul unigolyn ym Mhrydain wedi cynyddu dros y blynyddoedd, fel y gwelir yn y ffigwr isod

Ddegawd yn ôl, byddai Prydeinwyr yn bwyta 56kg o brotein anifail ar gyfartaledd mewn cymhariaeth â 61kg o brotein anifail heddiw.

Yn ôl yr WWF, cynhyrchu cig eidion a soia sydd wrth wraidd mwy na dau draean o'r cynefinoedd sydd wedi'u colli yn rhanbarthau'r Amazon a Cerrado Brasil a rhanbarth Gran Chaco yr Ariannin a Paraguay, gan bwysleisio effeithiau ein diet ar ein coedwigoedd ar draws y byd.

Cymeriant cig (kg) yn y DU rhwng 2009 a 2019. Ffynhonnell: Savills

According to WWF, beef and soy production are to blame for more than two-thirds of the recorded habitat loss in Brazil’s Amazon and Cerrado regions and Argentina and Paraguay’s Gran Chaco region, highlighting the impacts our diets have on our global forests.

 

Meat consumption (kg) in the UK in the years 2009 and 2019. Source: Savills

 

 

 

 

 

 

 

 

Olew palmwydd

Dewis bwyd arall sy'n hyrwyddo datgoedwigo yw olew palmwydd a'r cynnyrch sy'n deillio ohono.

Yn ôl Maint Cymru, mae'n achos blaenllaw o ddatgoedwigo yn Indonesia a Malaysia lle maent yn cynhyrchu dros 85% o gyflenwad y byd.

Mae olew palmwydd yn gyfrifol am ddinistrio cynefin rhywogaethau sydd mewn perygl megis yr Orangwtang, y Rhinoseros Swmatraidd a'r Eliffant Pigmi.

Felly beth yn union yw olew palmwydd a pha gynhyrchion sydd y tu mewn iddo? Mae olew palmwydd yn olew llysiau bwytadwy sy'n deillio o ffrwythau coed olew palmwydd ac mae i'w gael ym mhopeth bron. Mewn gwirionedd, mae i'w gael ymron i 50% o'r cynnyrch mewn pecynnau yr ydym yn eu gweld yn ein harchfarchnadoedd. Mae i'w gael yng nghynnyrch bwyd megis pitsas, toesenni a siocled ond mae i'w gael hefyd mewn eitemau cosmetig megis siampŵ, past dannedd a minlliw. 

Nawr yn fwy nag erioed, gall ein dewisiadau dietegol gael effaith enfawr ar yr amgylchedd.

 

 

Beth arall sy'n achosi datgoedwigo?

Mae'r diwydiant mwydion coed a phapur yn cael effaith anferth ar ein coedwigoedd ar draws y byd. Yn cael eu cynnwys yn y sector hwn mae cynhyrchion megis papur swyddfa, papur dwylo a phecynnau yn seiliedig ar bapur. Caiff oddeutu 40% o bren diwydiannol a fasnachir ar draws y byd ei ddefnyddio yn y sector hwn.

Yn cyfrannu ymhellach at ddatgoedwigo mae ehangiad trefol, sef y cynnydd yn y nifer o bobl sy'n byw mewn tref neu ddinas. Yn ôl amcangyfrifon, mae ehangiad trefol yn cyfateb i 10% o ddatgoedwigo ar draws y byd. Gellir cysylltu 10% arall ag isadeiledd, ac mae mwyngloddio yn gyfrifol am 7% o ddatgoedwigo ar draws y byd.

 

 

Cymru - cyfrifol yn fyd-eang 

Er bod datgoedwigo yn ddiymwad yn broblem fyd-eang, dylai a gall Llywodraeth Cymru gyfrannu at ymdrechion i roi diwedd ar ddatgoedwigo. Wedi'u cynnwys yn y gyfraith dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, cafodd y saith nod llesiant eu sefydlu i wella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Un o'r saith nod yw creu Cymru sy'n gyfrifol yn fyd-eang, sy'n cymryd i ystyriaeth a yw gweithredoedd ein cenedl yn cyfrannu'n gadarnhaol at lesiant byd-eang. Felly, sut ydym wedi cynnal ein hymrwymiad ynghylch coedwigo a datgoedwigo? 

 

Maint Cymru

Mae cyfraniad cadarnhaol gwych at lesiant byd-eang yn cael ei wneud gan Maint Cymru, elusen newid hinsawdd yng Nghymru sy'n darparu cyllid ac arbenigedd i gymunedau lleol a brodorol mewn rhanbarthau trofannol. Ei nod yw cefnogi'r cymunedau hynny i ddiogelu a chynnal eu coedwigoedd, plannu mwy o goed a sefydlu ffyrdd o fyw cynaliadwy. Fis Mawrth 2013, llwyddodd Maint Cymru i gyrraedd ei nod o gynnal ardal o goedwig drofannol o faint Cymru, oddeutu 2 filiwn hectar, fel rhan o ymateb cenedlaethol i newid hinsawdd. Ers hynny, mae wedi parhau â'i hymrwymiad ac wedi gosod targedau newydd i ddiogelu ardal coedwig law sy'n ddwbl maint ein cenedl! 

Cyfraniad byd-eang arall o Gymru yw'r prosiect plannu coed Mbale "10 Miliwn o Goed" y mae Maint Cymru yn gweithio arno gyda chymorth Rhaglen Cymru o Blaid Affrica Llywodraeth Cymru. Mae coedwigoedd Uganda dan fygythiad difrifol gyda chyfradd golli flynyddol o 1.8%. Mae'r rhaglen plannu coed uchelgeisiol hon yn plannu coed yn rhanbarth Mynydd Elgon yn nwyrain Uganda, sydd wedi dioddef o ddatgoedwigo helaeth. Daw'r cynllun â llu o fuddion, yn amrywio o fynd i'r afael â newid hinsawdd drwy gasglu carbon i ddarparu cymunedau lleol â ffrwythau ffres a lloches. Mae hefyd yn diogelu pobl leol yn rhanbarth Mynydd Elgon rhag effeithiau erydiad pridd a all achosi tirlithriadau angheuol. 

 

 

 

Llygedyn o obaith

Er yr ymddengys y sefyllfa yn llwm, mae ymdrechion gan elusennau megis Maint Cymru yn cyflwyno llygedyn o obaith y gallwn roi diwedd ar ddatgoedwigo. Yn y blogiau canlynol, byddwn yn trafod y pren yr ydym yn ei fewnforio i Gymru a'r cyfleoedd i ddefnyddio cyfwerth o gartref yn hytrach na mewnforio. Byddwn hefyd yn tynnu sylw at y ffyrdd y gall pawb wneud eu rhan i roi diwedd ar ddatgoedwigo.   

 

 

 

 

 

 

 

 
 

Share this page