Rhaid i’r sector cyhoeddus roi’r gorau i ariannu newid hinsawdd, medd mudiadau Cymru

Published: 30 Jul 2019

Mae Cyfeillion y Ddaear Cymru, Sophie Howe, Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru a grwpiau amgylcheddol, datblygu ac undeb llafur eraill yn galw ar holl gyrff y sector cyhoeddus yng Nghymru i roi’r gorau i fuddsoddi mewn cwmnïau tanwydd ffosil sy’n dinistrio’r hinsawdd.

 

Mewn llythyr agored a gyhoeddwyd heddiw, dydd Mawrth 30 Gorffennaf, mae Cyfeillion y Ddaear Cymru, Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru, UNISON Cymru, NUS UK, CAFOD Cymru, Oxfam Cymru, Undeb Prifysgolion a Cholegau Cymru, Sustrans Cymru a’r British Lung Foundation wedi dod ynghyd i annog Cronfeydd Pensiwn Awdurdodau Lleol, Partneriaeth Pensiwn Cymru, Cynllun Pensiwn Aelodau’r Cynulliad a chronfa bensiwn Llywodraeth Cymru i ymrwymo i bolisïau buddsoddi gwirioneddol foesegol nad ydynt yn cynnwys unrhyw gwmnïau tanwydd ffosil.

Mae’r mudiadau hyn – sydd, gyda’i gilydd, yn cynrychioli degau ar filoedd o bobl yng Nghymru – eisiau i Gymru fod yn genedl fyd-eang gyfrifol, yn unol â’n saith nod llesiant. Fel yr esbonia’r llythyr agored, ‘y bobl dlotaf, yma yng Nghymru ac yng ngweddill y byd, yw’r rhai lleiaf cyfrifol am achosi newid hinsawdd; ond eto i gyd, nhw sy’n dioddef waethaf o’i herwydd. Rhaid inni roi’r gorau i fuddsoddi mewn tanwydd ffosil yn awr er mwyn helpu gwledydd mwy agored i niwed lle y mae pobl eisoes yn dioddef effeithiau rheng flaen newid hinsawdd.’

Medd Bleddyn Lake, llefarydd ar ran Cyfeillion y Ddaear Cymru:

“Os ydych yn buddsoddi arian mewn busnes, rydych yn ei gefnogi. Dim ond yr atgoffâd diweddaraf fod newid hinsawdd yn digwydd yma ar hyn o bryd oedd y tymheredd eithafol a welwyd ar draws Ewrop yr wythnos diwethaf. Rhaid i’r sector cyhoeddus yng Nghymru roi’r gorau i ariannu’r cwmnïau sy’n gyfrifol am argyfwng newid hinsawdd.

“Mae rhoi’r gorau i fuddsoddi – hynny yw, peidio â rhoi arian mewn cronfeydd anfoesegol – yn ffordd bwerus o ddangos i’r diwydiant tanwydd ffosil ein bod yn meddwl o ddifrif am argyfwng yr hinsawdd. Wedi’r cwbl, allwn ni ddim ymladd yn erbyn problemau’r hinsawdd tra’n ariannu’r union gwmnïau sy’n gyfrifol amdanyn nhw.

“Yng Nghymru hyd yn hyn, mae cynghorau Sir Fynwy a Chaerdydd wedi pleidleisio i roi’r gorau i fuddsoddi eu pensiynau yn y cwmnïau hyn. Hefyd, mae cynghorau eraill, fel Abertawe, yn cymryd camau calonogol; ond mae rhai eraill yn gyndyn iawn o wneud unrhyw beth, ac maen nhw wedi gwrthod pleidleisio o blaid ‘dadfuddsoddi’ o’r fath. Mae angen i gamau gael eu cymryd ar fwy o frys.

“Rydym yn annog holl gyrff y sector cyhoeddus yng Nghymru i ymuno â’r cwmnïau, y cynghorau a’r sefydliadau hynny o gwmpas y byd sydd eisoes wedi rhoi’r gorau i fuddsoddi yn y fath fodd. Os na wnawn ni gymryd camau rŵan – pryd wnawn ni?

 

Medd Sophie Howe, Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru:

“Yn y mis diwethaf mae’r cynnydd o ran taclo newid hinsawdd wedi cyflymu yma yng Nghymru, gyda chynghorau Cymru yn pleidleisio i roi’r gorau i fuddsoddi mewn tanwydd ffosil a phobl leol yn cymryd camau uniongyrchol i dynnu sylw at y bygythiad difrifol i’n hiechyd a’n planed wrth inni weld rhai o ddiwrnodau poethaf y flwyddyn hyd yn hyn ledled Ewrop.

“Mae angen i benderfynwyr yng Nghymru gymryd camau’n ddi-oed, ac un ymrwymiad strategol y gallan nhw ei wneud er mwyn cyfrannu at Gymru fyd-eang gyfrifol yw gwneud y penderfyniadau ariannol iawn er budd llesiant cenedlaethau’r dyfodol. Dyma un o’r argymhellion y tynnir sylw ato yn fy rhaglen ‘Y Gallu i Greu’, sy’n cynnwys gwybodaeth ymarferol a fydd yn galluogi cyrff cyhoeddus i gymryd camau breision ar eu siwrnai tuag at wireddu nodau ac uchelgais Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol.”

 

Share this page