Adroddiad trafnidiaeth newydd gan Cyfeillion y Ddaear Cymru

Published: 23 Jul 2020

Dylai fod gan bawb yng Nghymru’r hawl i safonau gwasanaeth trafnidiaeth gyhoeddus tebyg i'r Swistir, yn ôl adroddiad newydd gan y cwmni ymchwil Trafnidiaeth er Bywyd o Safon a gomisiynwyd gan Gyfeillion y Ddaear Cymru

Mae’r adroddiad, sy'n dwyn y teitl ‘Polisi Trafnidiaeth Cymru sy’n addas ar gyfer yr Argyfwng Hinsawdd’ yn argymell ailwampio sector trafnidiaeth Cymru yn sylweddol, gan gynnwys trawsnewid seilwaith cerdded a beicio’r genedl, i fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd.

Yn ôl yr adroddiad, dylai Cymru gymryd ysbrydoliaeth o'r pethau sy'n gweithio mewn gwledydd eraill.

 

Mae canton Zurich yn y Swistir wedi cyflwyno safonau gwasanaeth cyffredinol sy'n galluogi teithio cyfleus rhwng unrhyw leoedd sy'n fwy na phentref bach.

Mae Denmarc yn adeiladu rhwydwaith o bron i 750km o briffyrdd beicio mawr ar gyfer cymudwyr, yn ymestyn hyd at 40km o Copenhagen, i ddarparu ar gyfer oes hollol newydd o feiciau trydan.

Gallwn hefyd ddysgu gwersi am deithio llesol o'r Iseldiroedd, nid yw'r diwylliant beicio yno wedi bodoli erioed - mae eu seilwaith beicio a'u harfer beicio wedi datblygu ers y 1970au.

Dywed Ian Taylor, Prif Awdur yr adroddiad:

‘Byddai pobl sy’n byw mewn ardaloedd mwy gwledig yng Nghymru, sy’n dibynnu ar geir i fynd o gwmpas, yn elwa’n arbennig o safonau gwasanaeth Zurich, sydd wedi arwain at fysiau a threnau amlach. O dan system y Swistir o 'un rhwydwaith, un amserlen, un tocyn', byddai gan bobl yn Llanidloes, er enghraifft, hawl i wasanaeth bws bob hanner awr o'i gymharu â phob dwy awr ar hyn o bryd, gyda bysiau'n cysylltu â phob trên yn yr orsaf agosaf.

‘Byddai cymudwyr ledled Cymru sydd angen teithio o fewn neu rhwng trefi a dinasoedd, yn elwa o system priffyrdd beicio Denmarc. Pe bai gennym seilwaith a diwylliant tebyg i'r Iseldiroedd, a bod beiciau trydan ar gael yn eang, byddai tua 30% o gymudwyr yn beicio i'r gwaith ar draws llawer o drefi a dinasoedd yng Nghymru.

‘Ni fydd hyd yn oed y newid cyflymaf a ragwelir i gerbydau trydan yn ddigon cyflym i fynd i’r afael â’r Argyfwng Hinsawdd. Er bod Covid 19 wedi ein gwthio i’r cyfeiriad arall am y tro, rhaid i ni newid o geir i ddulliau teithio eraill fel rhan o’n hadferiad o'r argyfwng Covid. I gael gobaith o gyrraedd ei thargedau hinsawdd, rhaid i Gymru roi'r gorau i wneud pethau i waethygu'r broblem, fel adeiladu mwy o ffyrdd, a fydd yn creu mwy o draffig.

'Mae'r pandemig yn dangos ein bod yn gallu gwneud newidiadau anferth i'n bywydau mewn cyfnod byr o amser. Rydym yn cerdded ac yn beicio mwy nag erioed a gweithio gartref yw'r normal newydd i lawer o weithwyr. Rhaid i’n system drafnidiaeth helpu pob un ohonom i gynnal y normal newydd hwn sy’n ein cadw’n ddiogel ac yn gostwng ein hallyriadau.’

 

Mae Haf Elgar, Cyfarwyddwr Cyfeillion y Ddaear Cymru yn croesawu'r adroddiad:

"Mae sector trafnidiaeth Cymru wedi bod yn gyfrifol am gyfran gynyddol o allyriadau sy’n niweidio’r hinsawdd. Fel cenedl sy'n gyfrifol yn fyd-eang, mae'n bryd gwneud y newidiadau angenrheidiol nawr er mwyn osgoi newid hinsawdd allan o reolaeth ac i gadw pobl yn ddiogel.

"Mae trafnidiaeth gyhoeddus o ansawdd uchel sy'n diwallu anghenion pobl a chymunedau yn rhan hanfodol o'n helpu ni i yrru llai ar gyfer teithiau bob dydd. Yn enwedig yn yr hinsawdd sydd ohoni, rhaid rhoi dewisiadau amgen diogel a dibynadwy i bobl yn lle defnyddio'r car, a rhaid iddynt deimlo'n hyderus yn ein system drafnidiaeth wrth symud ymlaen. Dylid gwneud cymaint o deithiau â phosibl ar droed neu ar feic er mwyn sicrhau pellter cymdeithasol, atal tagfeydd, gwella ansawdd aer, a lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr. I wneud hynny rhaid i ni chwyldroi ein seilwaith beicio a cherdded ar draws y wlad."

 

Mae argymhellion eraill yr adroddiad yn cynnwys trosglwyddo gwariant adeiladu ffyrdd arfaethedig i dalu am well seilwaith teithio llesol a gwell trafnidiaeth gyhoeddus, buddsoddi mewn mentrau teithio llesol arloesol fel cynlluniau beiciau trydan fforddiadwy, treialu trafnidiaeth gyhoeddus am ddim yng Nghaerdydd ac o leiaf un dref yn rhywle arall, prisiau teg ar gyfer gyrru yn nhrefi a dinasoedd Cymru i annog pobl i newid i ddulliau trafnidiaeth gwyrdd, iachach, treth lletya i ymwelwyr ledled y wlad, ac ardoll gyflogres i gyflogwyr i ariannu trafnidiaeth sy'n gyfeillgar i'r hinsawdd.

Er mwyn cyflwyno newidiadau mor fawr, daw'r adroddiad i'r casgliad bod yn rhaid i Lywodraeth Cymru wthio am fwy o reolaeth ar wasanaethau a seilwaith rheilffyrdd a dod â'r holl wasanaethau bysiau a thramiau lleol dan reolaeth awdurdodau lleol. Dim ond wedyn fydd hi'n bosib adeiladu system trafnidiaeth gwirioneddol integredig, sy'n addas ar gyfer yr argyfwng hinsawdd.

Share this page