Buddsoddwch mewn ynni adnewyddadwy, nid Wylfa B

Published: 5 Jun 2018

Wrth ymateb i ddatganiad niwclear gan Lywodraeth y DU, dywed Haf Elgar, Cyfarwyddwr Cyfeillion y Ddaear Cymru:  

'Mae’n siomedig bod Llywodraeth y DU yn barod i gefnogi gorsaf ynni niwclear newydd Wylfa B yn Ynys Môn, tra eu bod ar yr un pryd yn rhoi cap ar fuddsoddi mewn technoleg adnewyddadwy sy’n arwain y byd, fel gwynt ar y môr.

Ni fydd cefnogi a buddsoddi mewn technoleg hen ffasiwn a drud fel technoleg niwclear, sy’n ein gorfodi i ddelio gyda gwastraff niwclear peryglus am ganrifoedd i ddod,  yn ein cynorthwyo i ddod â’r newid amgylcheddol a chymdeithasol yr ydym eisiau eu gweld yng Nghymru.  

Mae’r byd ar gychwyn chwyldro ynni glan, ond mae gormod o Lywodraeth y DU dal yn byw yn y gorffennol – yn hytrach na ariannu technoleg niwclear, dylem fuddsoddi mewn ynni solar a gwynt rhad, effeithlonrwydd ynni ac arloesi mewn technolegau ynni glan newydd fel morlynnoedd llanw.'

Mwy o wybodaeth am farn Cyfeillion y Ddaear am dechnoleg niwclear

 

Share this page