Cyfeillion y Ddaear Llangollen yn ennill gwobr

Published: 18 Oct 2019

Yn 2019, enwebwyd pum grŵp Cyfeillion y Ddaear am wobr Mike Jacob i'r grŵp mwyaf llwyddiannus. Dewiswyd Llangollen fel yr enillydd yn Ymgynulliad Cenedlaethol Cyfeillion y Ddaear Cymru ar gyfer grwpiau lleol ym mis Medi.

By Eleni Morus, Gwirfoddolwr cyfathrebu

Bob blwyddyn, rydym yn dathlu llwyddiannau grwpiau lleol drwy wobr Mike Jacob. Eleni, enwebwyd pum grŵp am y wobr. Beth am i ni edrych ar hynt a helynt bob grŵp dros y flwyddyn ddiwethaf, gan gynnwys yr enillwyr, Llangollen.

 

Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae ein grwpiau wedi bod yn gweithio ar ystod eang o ymgyrchoedd lleol a chenedlaethol. Er enghraifft, maent wedi bod yn gwneud eu cymunedau yn fwy cyfeillgar i wenyn ac yn llai dibynnol ar blastig untro, ac maent wedi bod yn cefnogi streicwyr ifanc lleol. Maent hefyd wedi bod yn lobïo eu cynghorau lleol ac Aelodau Cynulliad ar nifer o faterion, megis erfyn ar eu haelodau cynlluniad i gefnogi galwadau i wahardd ffracio ac i roi'r gorau i fuddsoddi mewn tanwyddau ffosil - gwaith y tu ôl i'r llenni allweddol, sy'n aml yn llai gweledol. 

 

 

Caerffili

Mae Cyfeillion y Ddaear Caerffili wedi cael blwyddyn brysur ond llwyddiannus. Ym mis Gorffennaf, yn dilyn ymgyrch blwyddyn o hyd dan arweiniad aelodau'r grŵp lleol a phreswylwyr lleol, llwyddodd tref Caerffili i ennill statws di-blastig o dan y Cynllun Surfers Against Sewage.

Bu'r grŵp hefyd yn gweithio â grwpiau cymunedol a phreswylwyr lleol eraill i amddiffyn safle bywyd gwyllt lleol o'r enw Gwern y Domen, gan wrthsefyll yn llwyddiannus cynllun i adeiladu 600 o dai newydd..

Gwnaethant hefyd lobïo eu Haelod Cynlluniad, Hefin David i wahardd ffracio yn yr ardal a dadfuddsoddi arian pensiwn ACau o danwyddau ffosil. Yn fwy diweddar, maent wedi sefydlu grŵp Gweithredu Dros yr Hinsawdd, sydd bellach yn gweithio'n uniongyrchol â Chyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili ar ei strategaeth ddi-garbon.

 

 

 

Sir Drefaldwyn

Dechreuodd y grŵp newydd hwn trwy weithio tuag at wneud y Drenewydd yn dref swyddogol sy'n Caru Gwenyn.

Gwnaethant hefyd weithio â phreswylwyr a grwpiau cymunedol eraill i sefydlu grŵp gweithredu dros yr hinsawdd, a chefnogi streicwyr ifanc yn yr ardal yn ystod streic ysgolion dros hinsawdd mis Medi i fod yn llwyddiannus.

Gwnaeth y grŵp gweithredu dros yr hinsawdd adnabod teithio fel agwedd bwysig i'w cymuned, ac maent yn gwneud cais am grant teithio llesol i gynlluniau isadeiledd beicio a cherdded.  Mae'r grŵp wedi rhannu'n weithgorau llai, sy'n canolbwyntio ar effeithlonrwydd ynni mewn cartrefi, cynhyrchu ynni adnewyddadwy, cynhyrchu bwyd cynaliadwy a rheoli gwastraff.

Mae gweithdy ailgylchu 'Plastigion Gwerthfawr' ar y gweill!

 

 

 

Pontypridd

Mae grŵp Pontypridd wedi cyflawni gwaith gwych, nid yn unig wrth sicrhau statws cyfeillgar i wenyn , ond hefyd wrth weithio â Chyfeillion y Ddaear Ifanc Pontypridd i wella byd natur ar ymylon ffyrdd a chylchfannau, yn ogystal â lluniadu'r murlun gwenyn hyfryd hwn ar ochr tŷ!

Gwnaethant hefyd ennill cefnogaeth eu Haelod Cynlluniad lleol i ddadfuddsoddi o'r gronfa bensiwn a threfnu gweithdy creu baner i'r streic ysgolion dros hinsawdd, y gwnaeth 250 o bobl gymryd rhan ynddo.

Maent hefyd wedi bod yn cwtogi'n llym ar sbwriel ac ymgysylltu â'r gymuned leol drwy weithdai ac addysg.

 

 

 

Abertawe

Llwyddodd grŵp Abertawe i sicrhau buddugoliaeth nodedig wrth helpu i erlyn cwmni a dorrodd goeden goch hen iawn i lawr drwy greu a hyrwyddo deiseb a ddenodd dros 5,000 o lofnodion, swm sylweddol!

Maent hefyd wedi mynd â'r ymgyrch dadfuddsoddi gam ymhellach drwy sicrhau cytundeb â chyngor Abertawe i leihau ar fuddsoddi arian pensiwn mewn tanwyddau 50% dros y pedair blynedd nesaf (mae hynny werth rhwng £1-2 biliwn!).

Mae yna hefyd gynnydd wedi bod ym meysydd ffracio, aer glân a chynyddu'r gorchudd coed yn lleol.

 

 

 

Llangollen

Llongyfarchiadau i grŵp Llangollen, enillwyr gwobr Mike Jacob eleni! Trefnodd y grŵp ymgyrch dadlapio plastig torfol mewn siop Aldi leol, a gafodd sylw gan BBC Radio Cymru ac maent bellach yn cwtogi'n llym ar blastig yn eu cymuned leol.

Ar ôl cael eu statws di-blastig, maent wedi penderfynu adeiladu ar y llwyddiant hwn drwy gofrestru cwmnïau lleol mewn cynlluniau ailenwi dŵr, a sefydlu system terracycle.

Yn ogystal, gwnaethant drefnu cyfarfod a chodi ymwybyddiaeth yn erbyn rhaglen ddatblygu i adeiladu ar gaeau chwarae Llangollen. Ym mis Ebrill, gwnaethant helpu i godi ymwybyddiaeth yn y gymuned o deithio llesol drwy drefnu diwrnod beicio i'r ysgol, y gwnaeth 70% o blant ysgol a rhieni lleol gymryd rhan ynddo. Da iawn!

 

 

Diolch i bob un o'n grwpiau gwerth chweil am eu holl waith caled, beth am i ni barhau i adeiladu ar lwyddiant eleni!

Os oes gennych ddiddordeb mewn ymuno â grŵp lleol, mae croeso i chi gysylltu â Chyfeillion y Ddaear Cymru.

Ac os oes gennych ddiddordeb mewn sut mae eich cymuned yn sgorio ar y raddfa amgylcheddol a beth y gall ei wneud i wella, ewch i'n rhwydwaith gweithredu dros yr hinsawdd: https://www.foe.cymru/how-climate-friendly-your-area-wales

 

 

 

 

Share this page