Cyfeillion y Ddaear yn lansio Cynllun Gweithredu Hinsawdd i Gymru

Published: 1 Sep 2020

Mae Cyfeillion y Ddaear Cymru wedi lansio Cynllun Gweithredu Hinsawdd i Gymru sy'n galw am adferiad gwyrdd a theg i bobl a chymunedau.

Lawrlwythwch y Cynllun Gweithredu Hinsawdd i Gymru

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Mae argymhellion y cynllun yn cynnwys:

  • blaenoriaethu cymunedau sy'n agored i niwed
  • buddsoddi mewn economi werdd i greu cyfleoedd gwaith
  • trawsnewid y system drafnidiaeth
  • deddfu i lanhau ein haer.

Hefyd, Cyfeillion y Ddaear Cymru eisiau i Gymru ddilyn esiampl Seland Newydd a disodli Cynnyrch Domestig Gros (GDP) fel mesur cynnydd a chanolbwyntio yn hytrach ar safonau byw a llesiant.

 

 

Dywedodd Haf Elgar, Cyfarwyddwr Cyfeillion y Ddaear Cymru :

"Mae Cymru ar groesffordd hollbwysig yn ei hanes ac mae angen iddi fynd i'r afael â sawl argyfwng ar hyn o bryd – adferiad COVID-19, yr argyfyngau hinsawdd ac ecolegol, ac anghydraddoldebau parhaus yn ein cenedl.

"Mae'r Cynllun Gweithredu Hinsawdd hwn yn edrych ar yr hyn y gall Cymru ei wneud i fynd i'r afael â'r amryw argyfyngau hyn a gwella safonau byw i bobl a'r blaned.

"Mae Cymru'n falch o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol, sy'n gwneud newid cadarnhaol a pharhaol i genedlaethau'r presennol a'r dyfodol, a bydd ei angen yn fwy nag erioed gyda'r pandemig COVID-19

"Ond mae'n rhaid i ni wneud mwy i wneud i'n heconomi a'n cymdeithas weithio i bobl a'r blaned, a dyna pam mae'n bryd cymryd y cam nesaf a defnyddio llesiant yn hytrach na GDP i fesur cynnydd.

"Mae cymaint y gallwn ei ddysgu gan Seland Newydd a dylem ddatblygu Fframwaith Safonau Byw i Gymru.”

 

Mae argymhellion eraill yn cynnwys creu cyfleoedd gwaith gwyrdd a chael gwared ar dlodi tanwydd. Mae'r Sefydliad Materion Cymreig wedi nodi sut y gallai Cymru gynhyrchu'r holl ynni sydd ei angen arni o ynni adnewyddadwy erbyn 2035, gan greu miloedd o swyddi.

Gallai buddsoddi mewn ardaloedd a fydd yn cael effaith gadarnhaol ar ein hamgylchedd fel beicio a thrafnidiaeth gyhoeddus, adfer natur ac effeithlonrwydd cartrefi ychwanegu'n sylweddol at hyn. Bydd cyweirio y ddau draean o gartrefi Cymru sydd wedi'u hinswleiddio'n wael nid yn unig yn creu swyddi ym mhob rhan o'r wlad, ond hefyd yn dod â manteision iechyd y mae mawr eu hangen.

Dylai Cymru flaenoriaethu buddsoddiad ac adnoddau i ddiogelu ein cymunedau mwyaf bregus, boed hynny'n agored i niwed i'r math o lifogydd a welwyd eleni, i'r tywydd poeth sy'n digwydd yn amlach, neu'r rhai sydd fwyaf tebygol o gael COVID-19.  

Mae cadw ysgyfaint a chalonnau'r genedl yn iach yn hanfodol yng nghyd-destun COVID-19. Mae Cyfeillion y Ddaear Cymru hefyd yn galw am Ddeddf Aer Glân i Gymru cyn gynted â phosibl er mwyn ein hiechyd ac i leihau gollyngiadau hinsawdd.

Argymhelliad allweddol arall yw gwarantu nad yw'r rheini sydd heb gar yn cael eu gadael ar ôl, drwy gyflwyno safonau gwasanaeth i wella trafnidiaeth gyhoeddus, a thrawsnewid seilwaith cerdded a beicio'r genedl, i fynd i'r afael â'r argyfwng yn yr hinsawdd.6

Mae Cyfeillion y Ddaear Cymru yn galw ar Gymru i fod yn enghraifft wych, unwaith eto, drwy roi'r amgylchedd, cynaliadwyedd a thegwch wrth wraidd ein heconomi a chynllun adfer COVID-19.

Share this page