Cymru’n ymrwymo i ddyfodol di-ffosil er lles y blaned

Published: 5 Dec 2018

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i osgoi parhau i echdynnu a defnyddio tanwyddau ffosil, a datgarboneiddio system ynni Cymru, yn y fersiwn ddiwygiedig o Bolisi Cynllunio Cymru (PCC) a gyhoeddwyd heddiw.
Enfys dros fryniau
Nant Llesg: Trwy garedigrwydd Eddy Blanche

Bydd echdynnu a defnyddio tanwyddau ffosil, gan gynnwys drwy ffracio, yn cael eu gosod ar waelod ‘hierarchaeth ynni’ newydd sy’n hybu datblygiadau ynni adnewyddadwy.  

Yn ôl Argraffiad 10 o Bolisi Cynllunio Cymru, nid yw echdynnu parhaus yr holl danwyddau ffosil, gan gynnwys nwy siâl, methan gwely glo a nwyeiddio glo tanddaearol, yn gydnaws â thargedau ar gyfer datgarboneiddio a chynhyrchu rhagor o ynni adnewyddadwy.

Ac mae’n nodi’n glir y bydd dewisiadau glo yn cael eu diystyru i bob pwrpas: ‘Ni ddylid caniatáu cynigion ar gyfer datblygiadau glo brig, pyllau glo dwfn na gwaredu gwastraff pyllau glo.’

Llun o Bleddyn Lake
Bleddyn Lake

Dyma ddywedodd Bleddyn Lake, Rheolwr Ymgyrchoedd a Datblygu, Cyfeillion y Ddaear Cymru:

‘Rydym yn falch iawn fod y PCC newydd yn gosod ffracio a thechnolegau echdynnu olew a nwy eraill ar waelod yr hierarchaeth ynni. Dyna ble ddylen nhw fod. Dydyn ni ddim o’u hangen na’u heisiau nhw bellach ac mae’n bryd inni ganolbwyntio llawer mwy ar effeithlonrwydd ynni ac ynni adnewyddadwy yn ein brwydr i osgoi newid trychinebus, tu hwnt i reolaeth, yn yr hinsawdd.’

 

Llun o Haf Elgar
Haf Elgar

Dywedodd Haf Elgar, Cyfarwyddwr Cyfeillion y Ddaear Cymru fod hon yn “foment hanesyddol i Gymru. Fel y dywedodd David Attenborough wrth arweinwyr y byd yn nhrafodaethau newid hinsawdd y Cenhedloedd Unedig yr wythnos hon, y newid yn yr hinsawdd yw ein bygythiad mwyaf, ac mae’r amser bron ar ben. Mae’r polisi newydd hwn yn arwydd cadarnhaol fod Llywodraeth Cymru yn cymryd y bygythiad hwn o ddifrif. Mae Old King Coal wedi gweld dyddiau gwell – a chyn hir bydd yn hen hanes.

Dyfodol di-ffosil yw’r unig ddyfodol i Gymru – a gweddill y blaned. Mae pobl yng Nghymru yn falch fod eu gwlad yn arwain y ffordd, ac yn gobeithio y bydd gwledydd eraill yn dilyn ein hesiampl. Mae’n rhaid i’r byd cyfan symud tuag at ddyfodol cadarnhaol o ynni adnewyddadwy a datblygu cynaliadwy er mwyn sicrhau dyfodol glanach a mwy diogel i bob un ohonom.”  

 

Share this page