FAQ

Gyda phwy wyf yn cysylltu ynghylch materion lleol?

Y peth gorau gallwch ei wneud yw cysylltu â'ch grŵp Cyfeillion y Ddaear lleol. Mae gennym grwpiau ledled y wlad yn gwneud gwaith gwych yn ymdrin â materion yn eu hardal. Gallwch ganfod eich grŵp agosaf gan ddefnyddio ein map rhyngweithiol.

 

Sut wyf yn sefydlu fy ngrŵp lleol fy hun?

Os ydych yn canfod nad oes gennych grŵp y gallwch ymuno  ag ef yn eich ardal, yna nawr yw'r amser i sefydlu grŵp eich hun. Nid oes angen nifer enfawr o bobl i fynychu arnoch. Yr oll sydd ei angen yw'r ewyllys a'r angerdd i ddechrau.

Gallwch siarad â'n Swyddog Ymgyrchu a Gweithredu Cymunedol sef Rebecca Harford, a all eich cynorthwyo i gychwyn. E-bostiwch [email protected]

 

Ble wyf yn canfod adnoddau hynach?

Gallwch ddefnyddio'r bar chwilio i chwilio am bynciau penodol, neu bori'r dudalen adnoddau.

 

Beth mae Cyfeillion y Ddaear Cymru yn gweithio arno?

Ymgyrcha Cyfeillion y Ddaear Cymru ar faterion amgylcheddol o bwysigrwydd cenedlaethol yng Nghymru.

 

Ble mae Cyfeillion y Ddaear yn seiliedig?

Mae swyddfa Cyfeillion y Ddaear Cymru yng nghalon Canol Dinas Caerdydd. Ewch i'r dudalen gyswllt am fanylion.

 

Sut wyf yn cysylltu â'm AC/AS/ASE lleol ayyb?

Ewch i Ysgrifennwch Atynt a rhowch eich cod post. Bydd yna yn rhoi rhestr o'ch cynghorwyr, ACau, AS a chysylltiadau defnyddiol eraill. 

Os ydych yn ansicr pwy ddylech gysylltu â hwy, mae gan Ysgrifennu Atynt ganllaw ar argymell pwy i gysylltu â hwy ar ba faterion.

 

Credaf y dylai Cyfeillion y Ddaear Cymru weithio ar ‘ymgyrch X’ ond ni allaf weld dim gwybodaeth ar-lein. Pam?

Mae tîm Cyfeillion y Ddaear Cymru yn cynnwys 4 staff ac ychydig o wirfoddolwyr. Ceisiwn ein gorau i ofalu am gymaint o faterion â phosibl. Ond fel gallwch ddychmygu, mae'n amhosibl i ni ei wneud i gyd gydag adnoddau mor gyfyngedig!

Os mai am fater lleol yr ydych yn poeni amdano, yna edrychwch ar ein grwpiau lleol gan efallai eu bod eisoes yn gweithio ar y mater. Os yw'n fater o raddfa genedlaethol ac y teimlech y dylem fod yn ymwybodol ohono, yna gallwch ein he-bostio ni ar [email protected]. Atebwn eich ymholiad cyn gynted â phosibl. Cadwch mewn cof ein bod ag adnoddau cyfyngedig.

Share this page