Gall Cymru wneud yn well

Published: 22 Oct 2019

Dylai'n cenedl anelu at allyriadau sero-net cyn gynted ag y bo modd, ac o leiaf erbyn 2045.

Llywodraeth Cymru oedd y cyntaf i gyhoeddi argyfwng hinsawdd.

Mae gan Gymru hanes cryf o lunio polisïau arloesol fel Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol, felly gadewch i ni arwain y ffordd a gosod esiampl i weddill y byd unwaith eto.

 

 

 

 

Trafnidiaeth - rydym angen polisïau sy'n annog teithio llesol, fel gwell seilwaith seiclo a pharthau aer glân/allyriad isel ym mhrif drefi a dinasoedd Cymru. Dylai pob bws, trên, tacsi a cherbyd hurio preifat fod yn drydanol. 

 

 

 

 

Pŵer - mae angen i Gymru fodloni ei holl ofynion egni o ffynonellau adnewyddadwy cyn gynted ag y bo modd. Yn ôl IWA, mae modd cyflawni hyn erbyn 2035.

 

 

 

 

 

Adeiladau - dylai'r trydan rydym yn ei ddefnyddio i oleuo a gwresogi ein hadeiladau ddod o ffynonellau adnewyddadwy. Dylai'n cartrefi fod yn effeithlon o ran ynni ac wedi eu hinswleiddio'n dda.

 

 

 

 

 

Defnydd tir - Rydyn ni'n credu bod angen i Gymru ddyblu gorchudd coed i amsugno carbon o'r aer a pharhau â'n hymdrechion i fod yn genedl gyfeillgar i wenyn. Dylai Cymru fod yn rhywle lle gall bywyd gwyllt a bioamrywiaeth ffynnu.

 

 

 

 

Cyfiawnder hinsawdd - mae angen inni roi'r gorau i fuddsoddi mewn tanwyddau ffosil! Er enghraifft, dylai cronfeydd pensiwn Aelodau Cynulliad a chynghorau gael eu dadfuddsoddi fel mater o frys - gweithredwch heddiwy

 

 

 

 

Gwastraff rhaid inni anelu at fod yn genedl cwbl ddiwastraff erbyn 2030. Dylai Cymru wahardd plastig untro, cyflwyno cynllun dychwelyd ernes ar gyfer boteli a chodi treth ar gwpanau i fynd ('treth cwpanau coffi)

 

Beth allwch chi ei wneud? Gweithredu dros yr hinsawdd yng Nghymru

Share this page