Gall Cymru wneud yn well - ymateb i Bwyllgor y DU ar Newid Hinsawdd

Published: 3 May 2019

Gall Cymru wneud yn well a rhaid iddi anelu at allyriadau sero net os ydym o ddifrif ynglŷn â goresgyn yr argyfwng newid hinsawdd yw ymateb Cyfeillion y Ddaear Cymru i adroddiad Pwyllgor y DU ar Newid Hinsawdd (CCC) ar dargedau allyriadau a gyhoeddwyd heddiw (dydd Iau 2 Mai).

A hwythau'n wynebu graddfa'r argyfwng hinsawdd, mae Cyfeillion y Ddaear Cymru1 yn croesawu'r adroddiad ond yn datgan na all Cymru gael targed is na gweddill y DU, ac y dylai anelu'n uwch na lleihad o 95% mewn allyriadau nwyon tŷ gwydr ar lefelau 1990 erbyn 2050, sef awgrym y CCC.

Mae Cyfeillion y Ddaear Cymru wedi amlinellu cynlluniau er mwyn i'r DU fodloni sero net erbyn 20452 ar yr hwyraf. I Gymru, gall hyn gynnwys symud yn gyflym at wres a thrydan di-garbon, plannu llawer mwy o goed i amsugno carbon, ac osgoi clymu ein hunain at ddyfodol carbon uchel gyda seilwaith megis ffordd liniaru'r M4.

Dywedodd Haf Elgar, Cyfarwyddwr Cyfeillion y Ddaear Cymru:

"Mae'r adroddiad hwn yn fan cychwyn da ac yn neges glir bod rhaid i ni i gyd weithio'n gynt i leihau ein hallyriadau. Ond rydym yn hyderus mai gydag ewyllys wleidyddol, natur benderfynol ac arloesedd, gall Cymru wneud yn well na hyn, a chyrraedd allyriadau sero net.

"Yr wythnos hon bu i Lywodraeth Cymru ddatgan argyfwng hinsawdd, ac mae gennym gefndir cryf o bolisïau a deddfau sy'n torri tir newydd a all ein gwahaniaethu ni, megis Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol. 

"Rydym yn cyflawni pethau gwych yng Nghymru ac mae gennym bob achos dros fod yn uchelgeisiol.

Rydym yn gweld galw cynyddol am newid gyda streiciau a phrotestiadau mewn ysgolion ac mae'n rhaid i ni fynd i'r afael â'r her.

"Mae yna ddatrysiadau ar gael - mae yna enghreifftiau gwych o bobl yn gwneud gwahaniaeth mewn cymunedau ledled Cymru ac mae angen i ni weithio gyda'n gilydd i greu byd diogel, iach a chynaliadwy.

Share this page