Galw ar sêr Cymru i droi'r carped coch yn wyrdd

Published: 5 Oct 2019

Mae Sustainable Fashion Wales a Chyfeillion y Ddaear Cymru i herio sêr Cymru i wneud dewisiadau ffasiynol sydd yn gyfeillgar i’r amgylchedd pan fyddant yn camu ar y carped coch y tro nesaf.

Ydych chi'n sêr Cymru a'n barod i her #CarpedGwyrddCymru? Cysylltwch â ni nawr

Mae'r enwebeion ar gyfer Bafta Cymru 2019 ar ddydd Sul 13 Hydref, Gwobr Gerddoriaeth Gymreig 2020 a digwyddiadau eraill, yn cael eu hannog i droi'r carped coch yng Nghymru yn wyrdd drwy wisgo ffasiwn gynaliadwy.

 

Michael Sheen a Matthew Rhys yw'r sêr cyntaf i dderbyn her #CarpedGwyrddCymru.

 

Dywedodd Helen o Sustainable Fashion Wales,

“Yn aml nid yw enwogion a dylanwadwyr yn sylwi ar y pŵer arbennig sydd ganddynt i newid y byd. Rydym yn gobeithio y bydd ein henwogion creadigol a dawnus yn ein helpu ni i dynnu sylw at ymelwad amgylcheddol a chymdeithasol y diwydiant ffasiwn, ac annog eraill i wneud dewisiadau mwy cyfrifol.

"Rydym wedi cymryd ysbrydoliaeth gan ymgyrchoedd eraill o gwmpas y byd i herio'r rhai sy'n bresennol mewn unrhyw ddigwyddiad carped coch yma yng Nghymru drwy ein hymgyrch ni #CarpedGwyrddCymru. Rydym eisiau annog enwebeion y carped coch a'u gwesteion i wisgo ffrogiau, siwtiau neu ategolion sydd wedi eu cynhyrchu mewn modd moesol gyfrifol. Gall hyn gynnwys gwisgo dillad ‘vintage’, ail-law, neu rywbeth sydd wedi ei greu gan un o'r dylunwyr ffasiwn cynaliadwy anhygoel yng Nghymru. Ar ein gwefan ceir awgrymiadau a rhestr o ddylunwyr/gwneuthurwyr fyddai'n fwy na hapus i helpu gyda'r her.

"Wedi ymgyrchu dros ddiwydiant ffasiwn cynaliadwy am oddeutu 15 mlynedd, mae'n wych gweld bod pobl yn dod yn fwy ymwybodol o'r costau cudd a'r effaith ddifrifol sydd ynghlwm â gwisgo'r dillad sydd amdanom. Drwy ddod y fwy gwybodus am ble mae ein dillad a'n hategolion yn dod, a gan ddefnyddio'r wybodaeth hon i wneud dewisiadau mwy cyfrifol, mae gennym y gallu i newid y diwydiant ffasiwn."

 

Dywedodd llefarydd Cyfeillion y Ddaear Cymru, Eleni Morus:

"Mae'r diwydiant ffasiwn yn fawr a wedi ei ddosbarthu’n eang, felly mae gweithredu newid yn her enfawr! Drwy dderbyn yr her, rydym yn gobeithio y bydd sêr y carped coch yn gosod esiampl gadarnhaol i eraill, gan ysbrydoli pobl i wneud dewisiadau mwy cyfrifol. Os nad yw gofynion y cwsmer yn newid, nid yw'r diwydiant yn debygol o newid."

"Nod yr ymgyrch #CarpedGwyrddCymru yw tynnu sylw at yr angen am fwy o ymarferion cynaliadwy yn y diwydiant ffasiwn, ac i bwysleisio ar bwysigrwydd gwneud dewisiadau moesol o ran ein dillad."

 

Mae'r allyriadau sydd yn cael eu creu gan y diwydiant ffasiwn ar hyn o bryd yn cyfrannu at 10% o allyriadau cyfan y byd oherwydd cynhyrchiant ynni dwys a chadwyni cyflenwi maith. Mae dillad yn peri amrywiaeth eang o fygythiadau i'n hamgylchedd, ac mae hyn y cynyddu wrth i brisiau dillad ostwng a chyflymder danfon y dillad i ddefnyddiwr gynyddu.

Gall un llwyth golchi o ffabrigau polyester ryddhau hyd at 700,000 o ffibrau microplastigion i systemau dŵr. Mewn ymchwil gan Brifysgol Bangor yn 2019 canfu tystiolaeth bod micro plastigion yn bodoli ym mhob un o'r 10 llyn, afon a chronfa ddŵr a brofwyd arnynt ar draws y DU. Mae'r plastigau hyn yn dod i mewn i'r gadwyn fwyd gan ryddhau elfennau gwenwynig wrth iddynt symud.

Mae cynhyrchu dillad yn defnyddio llawer o ddŵr. Mae adroddiadau yn awgrymu bod angen rhywle rhwng 10,000 a 20,000 litr o ddŵr i gynhyrchu cilo o gotwm (crys neu un pâr o jîns). Byddai'n cymryd deng mlynedd i un person yfed y cyfaint yma o ddŵr. Mae hyn yn effeithio'n anghymesur ar wledydd sy’n datblygu, megis India a Phacistan ble cynhyrchir cotwm, gan eu bod nhw'n dioddef o brinder dŵr.

Mae'r opsiynau mwy cynaliadwy yn cynnwys defnyddio deunyddiau mwy cynaliadwy megis bambŵ, cywarch neu ddeunyddiau wedi eu hailgylchu, neu wisgo hen ddillad gan chwalu’r arferiad o wisgo dillad unwaith yn unig.

Share this page