Gwaharddiad Effeithiol ar Ffracio yng Nghymru

Published: 14 Dec 2018

Mae’r cyhoeddiad na fydd Llywodraeth Cymru yn caniatáu nag yn cefnogi trwyddedau petrolewm, newydd gael ei ryddhau.
Pobl yn protestio yn erbyn ffracio
Staff a gwirfoddolwyr Cyfeillion a Ddaear Cymru

Mae’r polisi newydd, yn ogystal â’r argraffiad newydd o Bolisi Cynllunio Cymru (PCC), a gafodd ei gyhoeddi’r wythnos diwethaf, yn golygu bod yna waharddiad ar ffracio yng Nghymru ar waith bellach - i bob pwrpas.

Yn gynharach heddiw, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ddatganiad yn ymateb i’r ymgynghoriad diweddar am y polisi Echdynnu Petrolewm yng Nghymru, gan gadarnhau eu bod am fabwysiadau eu polisi arfaethedig i “Beidio â rhoi trwyddedau newydd ar gyfer echdynnu petrolewm yng Nghymru na chefnogi ceisiadau am drwyddedau ar gyfer ffracio petrolewm.”

Mae Cyfeillion y Ddaear Cymru a Frack-Free Wales yn hynod falch o weld ymrwymiad gan Lywodraeth Cymru i atal y diwydiant tanwydd ffosil yng Nghymru ar ôl gymaint o flynyddoedd yn ymgyrchu yn ei erbyn.

Dywedodd Bleddyn Lake, Rheolwr Ymgyrchoedd a Datblygu, Cyfeillion y Ddaear Cymru :
‘Mae’r gwaharddiad hwn yn newyddion gwych i Gymru, newyddion gwych i’r cymunedau sy’n ymgyrchu’n ddiflino yn erbyn ffracio ac yn newyddion gwych i’n planed.

‘Nawr yw’r amser i weithredu ar newid hinsawdd. Yn ogystal â’r polisi cynllunio newydd a gyhoeddwyd yr wythnos diwethaf, mae’r newyddion hwn yn arwydd cadarnhaol bod Llywodraeth Cymru yn ystyried y bygythiad newid yn yr hinsawdd o ddifrif. Diolch i bawb sydd wedi cefnogi ein hymgyrch i wahardd ffracio yng Nghymru.

'Gwych yw gweld ein cenedl yn cymryd cam arall ymlaen i’r cyfeiriad cywir, gan arwain y ffordd at ddyfodol mwy cynaliadwy.’

Dywedodd Donal Whelan o Frack-Free Wales:
‘Rydym yn croesawu cyhoeddiad polisi heddiw, yn enwedig y gydnabyddiaeth o bryderon gwirioneddol pobl am ffracio. Rydym wedi cael gwared â’r drilwyr o Gymru a gall ymgyrchwyr ar draws y wlad ddathlu’r polisi fel buddugoliaeth. ‘Byddwn yn parhau i ymgyrchu i gryfhau’r ddeddfwriaeth yn erbyn ffracio ymhellach a sicrhau dyfodol heb danwydd ffosil i Gymru.’

Cafodd pwerau ynni newydd eu datganoli i Gymru ym mis Hydref 2018 (drwy Ddeddf Cymru 2017), gan roi’r hawl i Lywodraeth Cymru wneud penderfyniadau ynglŷn â materion ynni, gan gynnwys ffracio.

Cynorthwyodd Cyfeillion y Ddaear Cymru i sicrhau’r moratoriwm yn ôl yn 2015, ond ers hynny maent wedi bod yn galw am wahardd Ffracio gyda Frack Free Wales. 

Mae ymgyrchwyr lleol ar draws Cymru wedi bod yn cwrdd â’u Haelodau Cynulliad dros y flwyddyn ddiwethaf er mwyn cyflwyno achos i symud ymlaen i gael gwaharddiad cyfreithlon ac ennill cefnogaeth gyhoeddus i gefnogi hyn.

 

Share this page