Gwastraff niwclear yng Nghymru? Dim diolch!

Published: 25 Feb 2019

Mae Llywodraeth y DU yn chwilio am leoliad i leoli safle tanddaearol lle gellir dympio gwastraff niwclear lefel uchel a gasglwyd dros ddegawdau.

Cynhelir digwyddiadau ymgynghori yn Abertawe ar ddydd Mawrth, 12 Mawrth 2019, ac yn Llandudno ar 14 Mawrth 2019.

Wrth ymateb i hyn, dywedodd Haf Elgar, Cyfarwyddwr Cyfeillion y Ddaear Cymru:

"Bydd Llywodraeth y DU yn cael trafferth i ddod o hyd i unrhyw wirfoddolwyr sy'n barod i fyw ger tomen wastraff niwclear, waeth faint o ymdrech a wnânt i geisio llwgrwobrwyo pobl.

"Nid ydym eisiau i wastraff niwclear gael ei storio yn Llandudno, Abertawe nac yn unrhyw le arall yng Nghymru. Rydym yn gobeithio y bydd cymunedau yng Nghymru yn dweud na i gyfleuster gwaredu daearegol (GDF) ar gyfer gwastraff ymbelydrol lefel uchel.

 "Fel y mae'r ffradach tragwyddol ynghylch gwastraff niwclear yn ei amlygu, mae'n ddiofal cefnogi diwydiant sy'n cynhyrchu gwastraff angheuol sy'n para miloedd o flynyddoedd heb unrhyw ffordd ddiogel o'i waredu.

"Mae'n anodd credu bod llywodraeth y DU eisiau ailadrodd y camgymeriad hwn drwy gefnogi mwy o orsafoedd pŵer niwclear ar gost sylweddol i drethdalwyr.

"Rydym yn lwcus iawn o adnoddau ynni adnewyddadwy megis gwynt, llanw a solar. Pam na wnawn ni wneud y mwyaf o'r datrysiadau mwy anghyfrifol, gwyrdd hyn, sydd fwy aml na pheidio yn rhatach, a pheidio â gadael etifeddiaeth wenwynig o wastraff ymbelydrol i genedlaethau'r dyfodol." 

 

Mwy o wybodaeth

Share this page