Gwirfoddoli

Mae gwirfoddoli yn ffordd wych i gymryd rhan a chyfarfod â phobl newydd wrth weithio ar bethau sydd o bwys i chi! Heb gymorth ac ymrwymiad gwirfoddolwyr, ni fyddai Cyfeillion y Ddaear Cymru yn gallu cyflawni ei waith ymgyrchu pwysig. Rydym yn gwerthfawrogi'r cyfraniad y mae gwirfoddolwyr yn ei wneud i'n llwyddiant, ac rydym yn ymrwymedig i sicrhau bod gwirfoddoli yn brofiad gwerth chweil a chynhyrchiol.

Mae'n ddrwg gennym, nid ydym yn gallu derbyn gwirfoddolwyr newydd ar hyn o bryd, ond gallai hyn newid yn y dyfodol.

 

Beth fydda’ i’n ei wneud?

Mae gwirfoddolwyr yn gysylltiedig â phob rhan o waith Cyfeillion y Ddaear Cymru, o weinyddu cyffredinol i ymgyrchu ac ymchwil. Ein nod yw rhoi rolau a phrosiectau penodol i’r gwirfoddolwyr sy’n cynorthwyo ein gwaith, a helpu gwirfoddolwyr i ddatblygu eu sgiliau a’u profiad. Rydym yn cydnabod bod gan bobl nifer o resymau gwahanol dros eisiau gwirfoddoli, a lle y bo’n bosibl, rydym yn ceisio bodloni anghenion unigol.

Sut bydda’ i’n elwa?

Fel gwirfoddolwr gyda Chyfeillion y Ddaear Cymru, byddwch yn datblygu sgiliau newydd ac yn ennill profiad gwaith gwerthfawr. Byddwch yn dysgu am faterion amgylcheddol yng Nghymru ac yn chwarae rôl bwysig yn llwyddiant un o garfanau pwyso amgylcheddol mwyaf blaenllaw Cymru. ­­­­­­­­­­­­­­­­­­­­­­­­­­­­­­­

 

 

 
 
 

Cwestiynau ac Atebion am Wirfoddoli 

Pwy sy’n gwirfoddoli gyda Chyfeillion y Ddaear?

Gallwch chi. Gall unrhyw un. Ond yn enwedig os: oes gennych ddiddordeb mewn materion amgylcheddol a’ch bod yn ymroddedig i nodau ac amcanion Cyfeillion y Ddaear, yn mwynhau gweithio gyda phobl eraill, yn gallu gweithio’n effeithiol fel rhan o dîm, yn barod i gyflawni tasgau gweinyddol a chlerigol cyffredin, bod gennych ymagwedd hyblyg at waith, eich bod yn gallu gweithio ar eich menter eich hun, ac yn gallu ymrwymo i o leiaf ddeuddydd yr wythnos am dri mis o leiaf.

Beth fydd y buddion i chi?

Mae gan bobl nifer o resymau gwahanol dros eisiau gwirfoddoli ­ac rydym yn ceisio bodloni anghenion unigol. Trwy wirfoddoli gyda Chyfeillion y Ddaear, gallwch: chwarae rôl bwysig yn llwyddiant un o garfanau pwyso amgylcheddol mwyaf blaenllaw Cymru, defnyddio eich sgiliau i’n helpu i ennill hyd yn oed mwy ar gyfer pobl a’r amgylchedd, datblygu sgiliau newydd ac ennill profiad gwaith gwerthfawr, a fydd yn arwain at ddatblygiad personol pellach a helpu wrth wneud cais am waith cyflogedig, dysgu mwy am faterion amgylcheddol a sut mae sefydliad ymgyrchu mawr yn gweithio, cymryd rhan weithgar mewn ymgyrchu i amddiffyn yr amgylchedd yn eich ardal leol, gwneud ffrindiau newydd a chyfarfod â phobl o’r un anian.

 

Treuliau:

Gall gwirfoddolwyr hawlio costau teithio - a chinio os byddwch yn gweithio mwy na 5 awr y dydd.

Hyfforddiant:

Mae cyfleoedd i’n gwirfoddolwyr fynd ar gyrsiau hyfforddi os yw’n angenrheidiol ar gyfer eu gwaith. Rydym yn cynnal hyfforddiant cyfrifiadurol rheolaidd yn ein swyddfa yn Llundain. Efallai y caiff gwirfoddolwyr eu gwahodd i fynychu ein cwrs ymsefydlu hefyd.

Oriau gweithio:

Oriau gweithio arferol yw 9.30am i 5.30pm, dydd Llun i ddydd Gwener. Mae hyblygrwydd i wirfoddolwyr drefnu diwrnodau ac amserau sy’n gyfleus iddyn nhw a’u rheolwr. Fodd bynnag, mae angen i wirfoddolwyr gytuno ar oriau rheolaidd bob wythnos ac ymrwymo i’r oriau hyn. 

Share this page