Llygredd microblastig wedi'i ganfod o fewn amgylchoedd dyfrol Cymru

Published: 11 Mar 2019

Mae ymchwil newydd [1] gan Brifysgol Bangor a Chyfeillion y Ddaear wedi canfod llygredd microblastig yn rhai o afonydd a llynnoedd mwyaf eiconig ac anghysbell Prydain gan gynnwys Llyn Cefni, cronfa ddŵr yn Ynys Môn ac Afon Cegin, afon yng ngogledd Cymru. 

Rhaid monitro dyfrffyrdd mewndirol yn rheolaidd ar gyfer llygredd microblastig

Credir mai'r astudiaeth hon yw'r cyntaf o'i math, ac edrychodd ar ddeg safle yn cynnwys llynnoedd yn Ardal y Llynnoedd, dyfrffyrdd ym Mharc Cenedlaethol Loch Lomond a'r Trossachs, gwlyptir a chronfa ddŵr yng Nghymru - a chanfuwyd microblastig ym mhob un ohonynt.

Mae Cyfeillion y Ddaear a Dr Christian Dunn, o Brifysgol Bangor (a fu'n arwain yr ymchwil) yn dweud bod y canfyddiadau'n awgrymu y dylid ystyried microblastigau fel halogydd sy'n dod i'r amlwg - a bod rhaid yn awr monitro holl ddyfroedd y DU yn rheolaidd.

Gan ddefnyddio system goleuadau fflworoleuo, roedd yr ymchwilwyr yn gallu adnabod a chyfrif llygryddion microblastig (llai na 5mm) - fel darnau o blastig, ffibrau a ffilm plastig - fesul litr o ddŵr.

Dangosodd y canfyddiadau cychwynnol lefelau llygredd microblastig yn amrywio o dros 1,000 o ddarnau o blastig fesul litr yn afon Tame ym Manceinion Fwyaf [2], i 2.4 darn y litr yn Loch Lomond. 

Y llynedd, roedd adroddiad gan Eunomia ar gyfer Cyfeillion y Ddaear [3], wedi amcangyfrif bod symiau enfawr o lygredd microblastig yn mynd i mewn i ddyfrffyrdd y DU o nifer o ffynonellau bob blwyddyn. Mae'r prif ffynonellau llygredd yn cynnwys teiars ceir (7,000-19,000 tunnell), dillad (150-2,900 tunnell), pelenni plastig a ddefnyddir i wneud eitemau plastig (200-5,900 tunnell) a phaent ar adeiladau a marciau ffyrdd (1,400-3,700 tunnell). 

Dywed Cyfeillion y Ddaear a Dr Christian Dunn bod rhaid gwneud gwaith pellach i ymchwilio'n llawn i unrhyw beryglon iechyd o ficroblastig - i bobl ac ecosystemau - fel y gellir canfod lefelau "diogel", a rhoi prosesau symud a lliniaru ar waith.  

Y dyfrffyrdd a arolygwyd (yn cynnwys darnau o blastig fesul litr o ddŵr) oedd:  

  • Llyn Cefni - cronfa ddŵr; Ynys Môn, Cymru (43.2)
  • Afon Cegin - afon; Gogledd Cymru (76.9)
  • Afon Tafwys, Llundain (84.1)
  • Gwely cyrs Caer (7.6)
  • Ullswater, Ardal y Llynnoedd (29.5)
  • Afon Irwell, Salford, Manceinion Fwyaf (84.8)
  • Afon Tame, Tameside, Manceinion Fwyaf (> 1,000)
  • Afon Blackwater, Essex (15.1)
  • Rhaeadr Dochart, Parc Cenedlaethol Loch Lomond a'r Trossachs (3.3)
  • Loch Lomond, Parc Cenedlaethol Loch Lomond a'r Trossachs (2.4)

Dywedodd Dr Christian Dunn, o Brifysgol Bangor

"Roedd yn eithaf brawychus i ddarganfod bod microblastigau yn bresennol hyd yn oed yn y safleoedd mwyaf anghysbell a brofwyd gennym, ac roedd yn ddigalon i weld eu bod mewn rhai o leoliadau mwyaf eiconig ein gwlad. Rwy'n siŵr na fyddai Wordsworth yn hapus i wybod bod ei annwyl Ullswater yn Ardal y Llynnoedd wedi'i lygru â phlastig.

"Mae'r canfyddiadau cychwynnol hyn, gan ein tîm ym Mhrifysgol Bangor a Chyfeillion y Ddaear, yn dangos bod rhaid inni ddechrau trin y broblem blastig yn ein dyfroedd mewndirol o ddifrif. 

"Mae plastig yn llygru ein hafonydd, ein llynnoedd a'n gwlyptiroedd mewn ffordd debyg i'r llygryddion a elwir yn 'halogyddion sy'n dod i'r amlwg' fel gwastraff fferyllol, cynhyrchion gofal personol a phlaleiddiaid.   

"Fel gyda'r holl halogyddion sy'n dod i'r amlwg, nid ydym eto'n gwybod yn iawn sut maent yn peryglu bywyd gwyllt ac ecosystemau, neu hyd yn oed iechyd pobl, ac i ba raddau y maent yn bresennol yn ein holl systemau dŵr.

"Ond mae bellach yn glir y dylid ystyried microblastigau fel halogydd difrifol sy'n dod i'r amlwg ac mae angen ymdrech ar y cyd i fonitro ein holl ddyfroedd mewndirol yn rheolaidd.

"Mae ein dull yn cynnig ffordd syml a rhad o wneud hyn, felly mae angen i ni nawr ei ddatblygu a gweld a yw'n canlyniadau cychwynnol yn ddim ond crafu’r wyneb."

 

Dywedodd Julian Kirby, ymgyrchydd plastig gyda Chyfeillion y Ddaear

"Mae'r halogiad eang o'n hafonydd a'n llynnoedd â llygredd microblastig yn bryder mawr, a bydd pobl wrth gwrs eisiau gwybod pa effaith y gall ei gael ar eu hiechyd a'u hamgylchedd.  

"Mae llygredd plastig ym mhobman - mae wedi'i ganfod yn ein hafonydd, ar ein mynyddoedd uchaf ac yn ein cefnforoedd dyfnaf.

 "Mae'r pwysau nawr ar San Steffan a llywodraethau datganoledig yn y DU i gyflwyno deddfwriaeth er mwyn lleihau'n sylweddol y llif o lygredd plastig sy'n niweidiol i'n hamgylchedd." 

Er y gwnaed nifer o astudiaethau ar lygredd plastig yn yr amgylchedd morol a rhai ar waddod dyfrffyrdd, nid oes cymaint o ymchwil wedi'i wneud ar lygredd microblastig mewn samplau dŵr o systemau mewndirol yn y DU. Mae'r fethodoleg a ddefnyddiwyd yn yr astudiaeth hon yn cynnig ffordd syml a rhad o gasglu a dadansoddi samplau, fel y gellir monitro dyfrffyrdd yn rheolaidd yn genedlaethol.  

 

Share this page