Mae angen cynllun amgen ar Ynys Môn yn seiliedig ar ynni adnewyddadwy nid ynni niwclear

Published: 17 Jan 2019

Wrth ymateb i newyddion heddiw (17 Ionawr 2019) y bydd Hitachi yn atal y gwaith ar orsaf niwclear Wylfa B yn Ynys Môn, dywedodd Haf Elgar, Cyfarwyddwr Cyfeillion y Ddaear Cymru

“Mae’r newyddion gan Hitachi yn dangos nad niwclear yw dyfodol ynni – yn Ynys Môn nag yn unrhyw le arall. Gyda chostau ynni adnewyddadwy yn gostwng yn ddramatig, datblygiadau mewn storio ynni, a pwyslais ar arbed ac effeithlonrwydd ynni, mae niwclear yn prysur newid i fod yr opsiwn ynni drytaf â gyda’r mwyaf o risg.

Mae angen cynllun economaidd amgen ar frys ar gyfer Ynys Môn i gymryd lle’r swyddi sydd o dan fygythiad a chreu rhai newydd.

Mae gennym lu o adnoddau ynni adnewyddadwy yma yng Nghymru megis gwynt, llanw a solar, mae posibiliadau gwych ar gyfer datblygu diwydiannau newydd a swyddi o fewn y sector hwn. Rhaid canolbwyntio ar wneud y mwyaf o’r atebion diogel a gwyrdd yma, yn hytrach na gadael etifeddiaeth o wastraff ymbelydrol am ganrifoedd i ddod.

Er mwyn cenedlaethau’r dyfodol, mae’n rhaid i Gymru fod yn rhydd o niwclear yn ogystal â bod yn rhydd o danwyddau ffosil.”

Share this page