Mae plastig wedi dod yn norm bob dydd, ond mae'n bryd i ni ailystyried ein dibyniaeth arno.

Yn y 100 mlynedd ddiwethaf mae pobl wedi cynhyrchu llawer o blastig. Manteision plastig yw ei fod yn rhad ac yn gryf, yn ysgafn ac yn rhyfeddol o hyblyg. Felly nid yw'n syndod ein bod ni'n defnyddio pentyrrau ohono.

Mae'r rhinweddau uchod hefyd yn gwneud plastig yn un o'r cyfranwyr mwyaf i'n safleoedd tirlenwi sy’n gorlifo, i sbwriel ac i faterion yn ymwneud â llygredd ar draws y genedl ac yn gwneud y gymdeithas wastraffus rydym yn byw ynddi yn bosib. Mae'r dull o gynhyrchu plastig hefyd yn hynod niweidiol i'n planed ac yn cyfrannu at newid yn yr hinsawdd.

Mae'r cyfuniad hwn yn golygu bod plastig yn prysur ddod yn un o fygythiadau mwyaf ein cenhedlaeth ni i'r amgylchedd, ac mae angen i ni weithredu'n gyflym i droi’r llanw plastig hwn, cyn iddi fynd yn rhy hwyr.

 

Ni ddylai ailgylchu fod yn nod terfynol.

Cymru yw’r drydedd wlad orau yn y byd am ailgylchu. Fodd bynnag, ni allwn ni fod yn hunanfodlon am ailgylchu - ni ddylai bod ar frig y rhestr ailgylchu hyd yn oed fod yn brif darged. Mae angen i ni fynd i'r afael â phroblem sylfaenol gwastraff plastig, gan ddechrau trwy leihau ein dibyniaeth arno.

 

Er mwyn gwneud hyn yn bosibl, rydym yn galu at:

 

Gwahardd cynnyrch untro

Mae Cyfeillion y Ddaear Cymru yn gweithio tuag at wahardd plastig untro na ellir ei ailgylchu yng Nghymru. Credwn fod angen rhoi mwy o bwysau ar weithgynhyrchwyr a chynhyrchwyr plastig i newid eu ffyrdd o weithio, er mwyn ei gwneud hi'n haws i ddefnyddwyr wneud dewisiadau cynaliadwy pan maen nhw’n prynu. 

 

Gosod Treth neu ardoll ar blastigau diangen

Gallai codi tâl bychan am blastigau diangen tafladwy - yn debyg i'r ardoll 5c ar fagiau siopa untro hynod lwyddiannus - helpu i annog newid mewn ymddygiad defnyddwyr. Dychmygwch gael tâl o 20c ar gwpan coffi tecawê er enghraifft. Byddai llawer o bobl yn dechrau gwrthod yr eitemau hyn ac yn hytrach yn dewis opsiynau eraill ailddefnyddiadwy neu gynaliadwy.

 

Cynllun Dychwelyd Poteli

Mae Cynlluniau Dychwelyd Poteli wedi bod yn effeithiol mewn gwledydd eraill megis yr Almaen, Denmarc a llawer mwy. .

Mae'n bwysig ein bod yn cyflwyno Cynlluniau Dychwelyd Poteli effeithiol a chynhwysfawr yng Nghymru.

 

A ydych chi am fynd i'r afael â materion plastig yn eich cymuned chi?

Cysylltwch â’ch grŵp Cyfeillion y Ddaear lleol i weld beth sy'n digwydd yn eich ardal chi.

Plastic cups

Many single-use plastics banned from Autumn 2023

 

The Senedd has approved The Environmental Protection (Single-use Plastic Products) (Wales) Bill, which comes into force in Autumn 2023. The bill bans a range of single use plastics - pharmacy single use plastic bags have now been added to the list.

Find out more

Reverse vending machine

Wales to have drinks container return scheme in 2025

 

In the near future, when we buy a drink in a single use container, we will pay a small deposit, which we'll get back when we return the bottle or can.

Find out more

Plastic waste on beach

Mae Llywodraeth Cymru’n bwriadu gwahardd plastigau untro – ein hymateb

 

Yn 18 Mawrth 2021, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru gynlluniau i wahardd gwellt, cyllyll a ffyrc, a blychau dal bwyd a diod plastig.

Mwy o wybodaeth

 

Two foam cups with plastic straws

Amser gwahardd y troseddwyr plastig gwaethaf

 

Mae Llywodraeth Cymru eisiau gwahardd cwpanau a chynwysyddion bwyd polystyren untro, ffyn cotwm, cyllyll, ffyrc a phlatiau plastig, troellwyr diodydd, gwellt a ffyn balwnau. Rydym eisiau ychwanegu mwy o gynnyrch i'r rhestr ddu.

Mwy o wybodaeth

Share this page