Pan Fydd y carped coch yn troi'n wyrdd

Published: 4 Sep 2019

Photo of Helen Sullivan

Blog gan Helen O’Sullivan
Sustainable Fashion Wales

Blog gan Helen O'Sullivan o Sustainable Fashion Wales

Byd o Sêr

Mae’r byd sydd ohoni’n llawn dylanwadwyr ac enwogion sy’n cefnogi pob mathau o gynhyrchion – o ddiodydd egni i golur ac, wrth gwrs, ffasiwn. Ond, yn anffodus, nid yw llawer o’r pethau a welwn yn cael eu hysbysebu ar-lein ac mewn cylchgronau yn dda iawn i’n planed; yn wir, maen nhw’n peri i olwynion y peiriant ‘defnydd torfol’ yr ydym yn byw ynddo barhau i droi. Yn ein bywydau modern prysur rydym angen atebion sydyn i ddiwallu ein hanghenion emosiynol. Dyna pam yr ydym yn siopa cymaint; a chan ein bod yn prynu cynifer o bethau, rydym angen eitemau sy’n rhad: mae hyn yn golygu dillad o wneuthuriad gwael sydd, yn aml, yn camfanteisio ar bobl eraill ar draws y byd. Yn aml, nid yw enwogion a dylanwadwyr yn sylweddoli’r pŵer rhyfeddol sydd ganddyn nhw i newid y byd trwy gyfrwng yr hyn a wna eu dilynwyr edmygus. Ond mae rhai yn sylweddoli…

 

Enwogion Arloesol

Un o’r eco-enwogion mwyaf dylanwadol ac arloesol yw’r seren enfawr Leonardo DiCaprio, sydd wedi bod yn ymgyrchu ers sawl blwyddyn bellach i ddiogelu’r blaned a thynnu sylw at effeithiau newid hinsawdd. Mae “Brenin a Brenhines Cymru” – sef Michael Sheen a Charlotte Church – hefyd wedi bod yn cefnogi achosion gwirioneddol wych drwy gydol eu gyrfaoedd. Er enghraifft, Sheen fel Llysgennad Cadwch Gymru’n Daclus, a gweithredu gwleidyddol Church a’i hymdrechion diweddaraf gyda’r Prosiect Awen, a sefydlwyd ganddi i ymdrin â chyfyngiadau’r system addysg fodern. Anhygoel!

 

Ond yn ôl â ni at ffasiwn am y tro… Nid yn unig mae Emma Watson yn Llysgennad Ewyllys Da Merched y Cenhedloedd Unedig, gan ymgyrchu dros hawliau merched dros y byd, ond mae hi hefyd yn un o’r ffyddloniaid ‘ffasiwn cynaliadwy’ mwyaf arloesol sydd o gwmpas! Yn 2015 ymrwymodd i Her y Carped Gwyrdd® gan Eco Age, sy’n golygu bod yn rhaid i bob eitem a wisgir ar unrhyw garped coch fod yn gynaliadwy. Nid yn unig mae Watson yn dewis gwisgo ffasiwn ac ategolion cynaliadwy, ond mae hi hefyd yn hyrwyddo hyn yn eang ymhlith ei dilynwyr edmygus trwy ei chyfrif Instagram ar wahân @the_press_tour, lle y ceir gwybodaeth fanwl am yr hyn y mae’n ei wisgo a phwy sydd wedi gwneud pob eitem. Roedd nifer o’i gwisgoedd ar gyfer Beauty and the Beast hefyd wedi’u gwneud mewn modd cynaliadwy, gyda’i ffrog ddawns enwog wedi’i chreu trwy ddefnyddio ffabrig y rhoddwyd y gorau i’w wneud, a elwir hefyd yn wastraff defnydd.

 

Ffasiwn Gwyrdd: Carpedi Coch

Rhoddwyd Sialens y Carped Gwyrdd® ar waith yn ôl yn 2010 gan Livia Firth, a benderfynodd wisgo gwisgoedd cynaliadwy wrth droedio’r carped coch gyda’i gŵr Colin. Erbyn hyn, mae’n ymgyrch fyd-eang sy’n cael cefnogaeth gan gynllunwyr ac enwogion byd enwog. Nid Sialens y Carped Gwyrdd yw’r unig ymgyrch yn ymwneud â ffasiwn cynaliadwy sy’n herio enwogion i wneud dewisiadau mwy cyfrifol; cafodd Carped Coch, Ffrog Werdd ei sefydlu gan Suzy Amis Cameron ddeng mlynedd yn ôl i dynnu sylw at ba mor bwysig yw gwneud

dewisiadau ffasiwn mwy cynaliadwy. Llwyddodd yn hyn o beth trwy herio mynychwyr Gwobrau’r Academi® yn Los Angeles i wisgo ffasiwn cynaliadwy teilwng o’r Oscars® ar y carped coch. Ond, cyn bwysiced â hyn, mae Carped Coch, Ffrog Werdd yn herio cynllunwyr i ailfeddwl am eu harferion eu hunain a chreu ffasiwn mwy eco-ymwybodol a chymdeithasol-ymwybodol sy’n mynd i bara’n hir, gan geisio cael gwared â’r syniad mai unwaith yn unig y dylid gwisgo ffrogiau’r carped coch. Erbyn hyn caiff yr ymgyrch Carped Coch, Ffrog Werdd ei harwain gan yr Is-lywydd Samata (Pattinson) ac mae criw campus o enwogion wedi derbyn yr her yn yr Oscars® - o Sophie Turner, seren Game of Thrones, i Emma Roberts, un o enwogion mawr Hollywood.

 

“Ond be sydd gan hyn i’w wneud â Chymru?”, fe’ch clywaf yn gofyn…

 

BAFTAs Cymru

Ar 13 Hydref eleni, bydd gwobrau BAFTA Cymru yn cael eu cynnal yn Neuadd Dewi Sant, Caerdydd. Dymuna Cyfeillion y Ddaear Cymru a SustFashWales gymryd ysbrydoliaeth o amgylch y byd a herio’r enwebeion, y trefnwyr a’r gwesteion i wneud dewisiadau mwy cyfrifol ar garped coch gwobrau BAFTA Cymru! Bydd yr enwebeion yn cael eu cyhoeddi ar 5 Medi ac rydym angen eich help CHI i’w hannog nhw a’u gwesteion i wisgo ffrogiau, siwtiau neu hyd yn oed ategolion sy’n dangos eu bod yn anelu at ymdrin â phroblemau amgylcheddol a chymdeithasol y diwydiant ffasiwn. Pa un a fyddant yn gwisgo rhywbeth ‘vintage’, rhywbeth ail law neu rywbeth wedi’i wneud gan un o’r cynllunwyr ffasiwn cynaliadwy anhygoel sydd i’w cael yng Nghymru (porwch trwy gronfa ddata SustFashWales i gael mwy o wybodaeth). Rydym eisiau i achlysur BAFTA Cymru barchu’r amgylchedd a gwneud dewisiadau ffasiwn cymdeithasol gyfrifol, gan ddathlu yr un pryd y talentau anhygoel (o ran perfformio a gwnïo) sydd gennym yma yng Nghymru!

 

Ydych chi’n fodlon wynebu’r her?

Er mwyn rhoi help llaw i’n hymgyrch, a wnewch chi drydar a rhannu ein her a’r blog hwn gyda’r holl enwebeion, gyda BAFTA Cymru a chyda’ch rhwydweithiau. Gyda’n gilydd, gallwn esgor ar newid cadarnhaol trwy gamau cadarnhaol!

#GreenBAFTAs #SustFashWales #SustFashWalesBAFTAs

Ymunwch â ni!

 

Dolenni Defnyddiol:

SustFashWales: http://www.sustfashwales.org

Bafta Cymru: http://www.bafta.org/wales

Eco Age: https://eco-age.com/

Her y Carped Gwyrdd: https://eco-age.com/news/green-carpet-challenge

Carped Coch Ffrog Werdd: https://www.redcarpetgreendress.com/

 

Share this page