Rhaid i Ddeddf Aer Glân fod yn rhan o'r cynllun adfer ar gyfer Cymru

Published: 8 Jun 2020

Wrth i gyfyngiadau gael eu lleddfu, dylai sicrhau y gall pobl anadlu aer glân fod yn rhan hanfodol o gynllun adfer gwyrdd a chyfiawn i Gymru.

Rhyddhaodd Awyr Iach Cymru ei ddatganiad dydd Iau, Mehefin 4ydd, yn amlinellu eu gweledigaeth ar gyfer adfer gwyrdd a chyfiawn wedi Covid-19.

Awyr Iach Cymru yn amlinellu eu gweledigaeth ar gyfer adfer gwyrdd wedi Covid-19

“Ers y cyfnod clo, mae aer Cymru yn lanach ac yn iachach nag o’r blaen. Wrth i gyfyngiadau gael eu lleddfu, dylai sicrhau y gall pobl anadlu aer glân fod yn rhan hanfodol o gynllun adfer gwyrdd a chyfiawn i Gymru.

“Rydym angen Deddf Aer Glân cyn gynted â phosibl, ynghŷd â buddsoddiad mawr mewn teithio heini, er mwyn ein cadw’n iach ac yn ddiogel, ac er mwyn diogelu’r blaned.

“Ni allwn fentro mynd yn ôl i’r ansawdd aer gwael a oedd gennym cyn COVID-19.

“Dylai’r gallu i gael mynediad at fannau gwyrdd a natur yn agos at gartref fod yn hawl sylfaenol yng Nghymru. Mae’n hanfodol ein bod yn diogelu ein mannau gwyrdd ar gyfer ein hiechyd meddwl a sicrhau bod pawb yn gallu ymarfer yn ddiogel.

“Mae trafnidiaeth gyhoeddus o ansawdd uchel sy’n diwallu anghenion pobl a chymunedau yn rhan hanfodol o’n helpu ni i yrru llai ar gyfer teithiau bob dydd. Rhaid rhoi dewisiadau diogel amgen i bobl yn lle defnyddio car preifat a theimlo’n hyderus a gallu ymddiried mewn trafnidiaeth gyhoeddus yn y dyfodol.

“Mae’n hanfodol bod gan bawb y lle i symud o gwmpas yn ein trefi a’n dinasoedd, a bod cerdded a beicio’n cael eu hystyried yn ddewis realistig. Cerdded a beicio yw’r ffyrdd gorau o alluogi pobl i deithio mewn modd cynaliadwy, sy’n dda i’n hiechyd, ein haer a’n hamgylchedd. 

“Mae’r newidiadau rydyn ni wedi’u gweld yn ein bywydau bob dydd wedi arwain at bobl yn datblygu arferion iach sydd wedi glanhau ein haer, gostwng ein hallyriadau a chadw pobl yn ddiogel. Mae normal newydd ar y gweill. Gyda’n gilydd, gallwn sicrhau bod y normal newydd hwn yma i aros.”

Mae Cyfeillion o Ddaear Cymru yn aelod o Awyr Iach Cymru, cynghrair o sefydliadau cyfreithiol, academaidd a thrydydd sector sy’n ymgyrchu dros ansawdd aer gwell yng Nghymru. Rydym yn rhedeg y CPG ar Ddeddf Aer Glân Newydd ac yn parhau i lobïo Llywodraeth Cymru ac Awdurdodau Lleol i sicrhau eu bod nhw’n cyflwyno’r datrysiadau mwyaf cynaliadwy ac effeithiol ar gyfer argyfwng aer llygredig Cymru.

Share this page