Ymgyrchwyr yn galw am dâl ar gwpanau untro yng Nghymru

Published: 17 Sep 2019

Mae Cyfeillion y Ddaear Cymru, sy'n galw am godi tâl am gwpanau diod untro, yn cyflwyno eu deiseb y bore hwn (17 Medi 2019) i Ddirprwy Weinidog, Llywodraeth Cymru, Hannah Blythyn AC

 

Mae dros 2000 wedi arwyddo'r ddeiseb i gyflwyno tâl am gwpanau i fynd, a gaiff ei adnabod hefyd fel 'latte levy’.

Yng Nghymru bob blwyddyn, rydym yn defnyddio o oddeutu 237 miliwn o gwpanau coffi untro a thros 320 miliwn o gwpanau untro eraill. Pe bai'r 557 miliwn o gwpanau i fynd hyn yn cael eu gosod mewn rhes, byddant yn ddigon i fynd o amgylch y cyhydedd gyda lle dros ben!

 

Dywedodd llefarydd Cyfeillion y Ddaear Cymru, Bleddyn Lake:

"Mae'n rhaid i ni leihau nifer y cwpanau hyn. Ni fydd eu hailgylchu yn datrys y broblem, dyna pam ein bod yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno tâl isel, a adwaenir yn aml fel ‘latte levy’.

"Mae Llywodraeth Cymru yn iawn i fod yn falch o'u hunain am gyflwyno'r tâl am fagiau plastig yn 2011 sydd wedi annog nifer o ohonom i ddefnyddio ein bagiau ein hunain yn yr archfarchnad. Mae'r tâl wedi lleihau'n sylweddol y nifer o fagiau plastig a ddefnyddir. Bydd latte levy yn gwneud yr un peth ar gyfer cwpanau untro.

"Byddai cyflwyno tâl o 25c yn annog pobl i ddefnyddio cwpanau a fflasgiau y gellir eu hailenwi, gan leihau'n ddirfawr y defnydd o gwpanau i fynd, mewn cylchrediad.

"Codi tâl am gwpanau untro yw'r cam nesaf yn ein taith tuag at fod yn ddiwastraff, a bydd hefyd yn atal newid yn yr hinsawdd.  Cyflwyno tâl ar gwpanau coffi yw un o'r pethau hawsaf y gallwn ei wneud i leihau ein defnydd o blastigau a phapur, sy'n arwain at allyriadau newid hinsawdd. Felly beth am fynd amdani gyda'n gweithredu ar blastig, gwneud i hyn weithio i ni yng Nghymru a dangos unwaith eto y gallwn arwain y ffordd."

Dywedodd Rheolwr Polisi ac Ymchwil Cadw Cymru’n Daclus, Jemma Bere:

“Mae’r ymwybyddiaeth o effaith plastigau untro ar ein hamgylchedd dros y blynyddoedd diwethaf wedi cynyddu ac mae Cadw Cymru’n Daclus yn credu y dylai’r gwaith o leihau ac atal fod wrth wraidd ein hymdrechion i atal y llif o sbwriel o’i darddiad. Gallai tâl ar gwpanau untro godi arian sylweddol i Gymru a gallai fod yr ysgogiad hanfodol sydd ei angen i atgoffa pobl i ddod â’u cwpanau eu hunain.”

 

Mae adroddiad ar gyfer Llywodraeth Cymru gan yr ymgynghoriaeth annibynnol Eunomia yn amcangyfrif y gallai tâl neu dreth o 25c ar gwpanau untro a lenwir mewn pwyntiau gwerthu yng Nghymru, ynghyd â system dychwelyd gorfodol mewn siopau coffi, leihau niferoedd y cwpanau hyn oddeutu 30% a chynhyrchu oddeutu £97m y flwyddyn, a allai yna gael ei ddefnyddio i fynd i'r afael â'r problemau gwastraff eraill yng Nghymru a chreu swyddi ar yr un pryd.

Bu i brawf a gynhaliwyd gan Brifysgol Caerdydd yn 2017 ddangos y byddai codi tâl isel am y cwpanau hyn yn fwy effeithiol na gostyngiad ar ailddefnyddio cwpanau wrth leihau eu defnydd a byddai'n arwain at fwy o gwpanau y gellir eu hailddefnyddio yn cael eu defnyddio.

Share this page