ACau Cymru yn cael cyngor cyfreithiol ar ffracio gan Gwnsler y Frenhines (CF) Cyfeillion y Ddaear

Published: 17 Oct 2018

Cafodd Aelodau’r Cynulliad (ACau) gyngor arbenigol ar ffracio ddoe, gan Paul Brown CF mewn sesiwn friffio gyfreithiol yn y Senedd yng Nghaerdydd.

 

Cafodd y bargyfreithiwr o Lundain ei gomisiynu gan Gyfeillion y Ddaear, ac fe siaradodd â nifer o ACau a’u hymchwilwyr gan gynnwys Lee Waters, Dai Lloyd, Julie James a Lynn Neagle.

Dywedodd Jane Hutt, a oedd yn noddi’r sesiwn friffio: “Roedd yn bleser gennyf noddi’r digwyddiad galw heibio hwn yn y Senedd ar gyfer ACau, gyda Chyfeillion y Ddaear Cymru a  Frack-Free Wales. Rwyf yn gwrthwynebu ffracio yn gryf ac nid wyf eisiau gweld hyn yn digwydd ym Mro Morgannwg. Rwyf yn falch bod gan Lywodraeth Cymru foratoriwm yn ei le a’i bod yn ddiweddar wedi ymgynghori ar gynigion i waredu tanwyddau ffosil o’n cymysgedd ynni ac i beidio â chefnogi cynigion ar gyfer trwyddedau ar gyfer ffracio petrolewm.”

 

Dywedodd Bleddyn Lake o Gyfeillion y Ddaear Cymru:

“Yn y dyfodol agos bydd yr ACau yn gwneud penderfyniadau pwysig ynghylch ffracio.

“Rydym yn cefnogi ymgynghoriad diweddar Llywodraeth Cymru ar y polisi Echdynnu Petrolewm yng Nghymru a’r polisi arfaethedig ar gyfer y dyfodol sef, “Ni fyddwn yn rhoi trwyddedau newydd ar gyfer echdynnu petrolewm yng Nghymru nac yn cefnogi ceisiadau am drwyddedau ar gyfer ffracio petrolewm.”

"Mae'n hollbwysig, fodd bynnag, fod y polisi hwn a’r Fframwaith Datblygu Cenedlaethol yn ymgorffori nid yn unig ffracio ond hefyd dwy dechnoleg lai cyfarwydd sef methan gwely glo (CBM) a nwyeiddio glo dan ddaear (UCG).

“Mae ffracio, CBM a UCG yn difrodi’r amgylchedd ac yn arwain at allyriadau newid hinsawdd. Mae gan Lywodraeth Cymru’r grym i atal y tair technoleg yma rhag digwydd o gwbl yng Nghymru. Mae’r sesiwn briffio hon wedi rhoi’r wybodaeth i ACau y maent ei hangen i wneud penderfyniadau gwybodus.

Mae adroddiad diweddar y Panel Rhynglywodraethol ar y Newid yn yr Hinsawdd, ar y newid yn yr hinsawdd, yn dangos bod angen i ni weithredu nawr ac i weithredu’n bendant. Nid ydym angen nag eisiau ffracio, CBM na UCG yng Nghymru."

Gall ACau a fethodd y digwyddiad, gael papur briffio cyfreithiol ar ffracio gan [email protected].

 

Share this page