Cael ysbrydoliaeth

Published: 30 Mar 2022

Mae pobl wych, anhygoel a gwirioneddol ysbrydoledig wrthi’n gweithio’n galed i leihau allyriadau hinsawdd.
Community meeting regarding a mining project, Guatemala, 2005
Cyfarfod cymunedol am brosiect cloddio, Guatemala, 2005

 

 

Mewn adrannau eraill yn Amdani! rydym wedi edrych ar rai sectorau penodol fel trafnidiaeth a llefydd gwyrdd ond yma rydym am edrych ar rai syniadau eraill, hanesion difyr a ffynonellau posibl am ysbrydoliaeth i roi hwb i bawb ohonom ddal ati wrth i ni symud tuag at 2030. Mae pawb ohonom yn gwybod bod newid hinsawdd/argyfwng yr hinsawdd/cynhesu byd-eang, beth bynnag rydym am ei alw, yn rhywbeth eithaf digalon a dychrynllyd i ni’n hunain ac i genedlaethau’r dyfodol a’r holl rywogaethau sy’n byw ar y blaned hardd hon.

 

Dal ati

Ar ryw adeg neu’i gilydd, mae’n debyg bod pawb ohonom wedi meddwl ‘beth yw’r pwrpas gweithredu os mai dim ond fi sydd’. Diolch i’r drefn, mae cymaint o unigolion a chymunedau ar draws y byd sy’n gweithredu ar bob math o wahanol lefelau nes bod ymuno a gweithredu bellach yn rhywbeth naturiol yn hytrach nag eithriad.

Wrth i ni gyfrif i lawr tuag at 2030, sef y cyfnod amser y mae angen i ni fod yn cymryd camau pendant ar argyfwng yr hinsawdd yn ôl gwyddonwyr, mae’n bwysicach fyth ein bod ni’n rhannu ac yn dysgu o’n profiadau a’r rheiny mewn llefydd eraill.

Mae pobl wych, anhygoel sy’n wirioneddol ysbrydoledig ym mhob man, yn gweithio’n galed i leihau allyriadau hinsawdd. Wrth i’r prosiect yma fynd rhagddo, rydym ni’n gobeithio dod â hanesion i’ch ysbrydoli chi yn fwy byth a rhoi llwyfannau ble gallwch chi rannu syniadau a chymhelliant ag eraill.

Dros y blynyddoedd nesaf, mi fydd hi’n allweddol ein bod ni’n dysgu gan eraill ac yn dal ati gyda’n gilydd gan fod y datrysiadau i argyfwng yr hinsawdd yn niferus ac yn amrywiol.

 

Cyfeillion y Ddaear

Mae Cyfeillion y Ddaear Cymru yn rhan o deulu mwy Friends of the Earth International sy’n gweithio gyda chymunedau lleol a brodorol ar y materion amgylcheddol a chymdeithasol mwyaf brys o gwmpas y byd o sofraniaeth fwyd yn Uruguay a datblygiad cynaliadwy yng Ngwlad Pwyl at beryglon pŵer niwclear yn Siapan ac echdynnu nwy yn Mozambique

Ar ein taith tuag at 2030, byddwn yn ceisio rhannu gwybodaeth, newyddion a chymhelliant gan ein sefydliadau sy’n aelodau a grwpiau cymunedol ledled y byd. Gall pawb ohonom ddysgu a chael ein hysbrydoli gan eraill a sefyll mewn undod gyda’n gilydd. Gobeithiwn allu hwyluso cysylltiadau â’r rheiny sy’n gweithredu mewn ffyrdd tebyg mewn llefydd eraill, boed nhw ym mhen deheuol neu ogleddol y byd.

 

Cychwynnodd ‘Friends of the Earth’ yn San Francisco yn 1969 ac yna symud i’r DU yn 1971Wrth fwrw golwg yn ôl dros yr holl flynyddoedd hynny, mae’n eironig mai’r peth cyntaf wnaethant oedd mynd â photeli gwag yn ôl i Bencadlys Cadbury Schweppes yn Llundain i hybu ail-ddefnyddio poteli. Ond eto, dyma ni eto, yn gweld yr angen i siarad am wastraff ac ail-ddefnyddio o hyd.

Mae cryn dipyn wedi newid yn ystod yr amser hwnnw a nawr yw’r amser am ein brwydr fwyaf eto. Yn ffodus, mae’r mudiad dros newid yn anferthol ac yn tyfu trwy’r amser. Fel bob amser, mae pobl a chymunedau yn arwain y ffordd ble maen nhw’n byw. Isod, hoffem roi blas sydyn eto i chi ar rai o’r syniadau difyr, gwahanol, llawn ysbrydoliaeth sy’n digwydd ar hyn o bryd. Mae croeso i chi rannu mwy o syniadau a hanesion gyda ni pan fyddwch chi’n dod ar eu traws nhw a byddem ni’n falch o helpu i godi ymwybyddiaeth o’r rhain.

 

Ysbrydoliaeth

Gallwn gael ein hysbrydoli gan unigolion anhygoel fel Afroz Shah, a dreuliodd y blynyddoedd diwethaf yn cynnal y ‘prosiect glanhau traethau mwyaf yn y byd’ yn ôl y CU, yn Mumbai. Dechreuodd drwy gynnig glanhau toiledau cymunol a chodi sbwriel ar y traeth ei hun. Ar ôl rhai wythnosau o wneud hyn, dechreuodd eraill ymuno ag o i helpu. Mae eu hymdrechion wedi arwain at grwbanod Olive Ridley yn dychwelyd i draeth Versova i ddodwy eu hwyau am y tro cyntaf mewn degawdau.

Wrth gwrs, mae’r rhan fwyaf o’n gwastraff plastig sy’n cyrraedd ein moroedd a’n cefnforoedd yn cael ei olchi i lawr yr afonydd a’r cyrsiau dŵr. Byddai peidio â chynhyrchu llawer o’r cynhyrchion hyn yn y lle cyntaf yn gam ymlaen at leihau faint o ‘stwff’ sy’n mynd i’r moroedd. Ond, mae’n ddifyr gweld rhai camau arloesol yn dod i’r amlwg i geisio rhoi sylw i hyn a materion cysylltiedig hefyd fel cemegion yn cael eu golchi i’r môr.

Y gobaith yw y bydd mwy a mwy o newidiadau i gynnal ‘busnes fel arfer’ yn helpu i gyflawni gwir newid a hybu datrysiadau creadigol eraill.   

Ac o un grŵp o arwyr hinsawdd i lawer mwy. Mae’r hanesion hyn yn anhygoel, ac mae’r bobl sy’n rhan ohonynt fel Victorin Laboudallon wir yn ysbrydoliaeth.

Tra bod Victorin ac eraill yn brysur yn y Seychelles, efallai yr hoffech chi edrych ar y graffigyn diddorol hwn sy’n dangos cyfraddau coedwigo o gwmpas y byd.  

Yn olaf, ychydig iawn o unigolion eraill sydd yn fwy ysbrydoledig na Greta Thunberg. Yn 2030, dim ond 27 fydd hi!

 

Dinasoedd a chymunedau cynaliadwy 

Er nad oes gennym lawer o ddinasoedd yng Nghymru fel y cyfryw, rydym ni’n dal eisiau cynnwys yma rhai o’r mentrau sy’n digwydd o gwmpas y byd. Er enghraifft, yn yr Unol Daleithiau, mae Cynllun Cincinnati Gwyrdd yn golygu bod y ddinas yn dechrau cael ei gweld fel rhyw fath o arweinydd cenedlaethol ar faterion cynaliadwyedd. Mae rhai datblygiadau difyr iawn hefyd yn Copenhagen, dinas sy’n bwriadu bod yn garbon niwtral erbyn 2025. Darllenwch fwy
 

Gallwn hefyd gael ein hysbrydoli gan bethau sy’n digwydd yn y DU. Er enghraifft, mae’r Rhwydwaith Gweithredu dros yr Hinsawdd yn seiliedig ar leoedd (PCAN) yn brosiect sy’n canolbwyntio ar ynni adnewyddadwy, creu effeithlonrwydd ynni a phrosiectau carbon isel sydd â manteision cymdeithasol ac economaidd i gymunedau. Yn 2019, Norwich oedd y ‘ddinas rannu’ gyntaf yn y DU, fel dinasoedd eraill fel Athen, Barcelona, Dallas, Efrog Newydd a Singapore. Darllenwch fwy

 

 

Llythrennedd hinsawdd 

Ym Manceinion, mae prosiect llythrennedd carbon difyr iawn o’r enw The Carbon Literacy Project a ddechreuodd ychydig o flynyddoedd yn ôl. Mae’n gwrs achredu ar gyfer unigolion, grwpiau a sefydliadau a’r nod yw bod yn ‘garbon llythrennog’ a bod yn ymwybodol o effaith gweithgareddau pob dydd ar yr hinsawdd, beth ellir ei wneud a sut i gymell eraill. Allai hyn fod o ddiddordeb i’ch cyngor lleol neu i’r busnesau neu’r sefydliadau rydych chi’n gweithio iddynt?

 

Prosiect ‘Drawdown’ 

Mae prosiect Drawdown yn fudiad nid-er-elw sy’n ceisio helpu’r byd i gyrraedd gostyngiad – yr adeg yn y dyfodol pan na fydd lefelau nwyon tŷ gwydr yn yr atmosffer yn codi, ond yn dechrau gostwng yn raddol. Edrychwch ar eu holl ddatrysiadau yma. Mae’n ddifyr tu hwnt! 

 

Y sgrîn arian 

Sôn am ddatrysiadau, mae’n galonogol gweld mwy a mwy o ffilmiau, rhaglenni teledu a rhaglenni dogfen am newid hinsawdd a materion amgylcheddol yn gyffredinol.

Efallai yr hoffech chi wylio’r ffilm Demain (Yfory) gan Cyril Dion a Mélanie Laurent sy’n edrych ar ddatrysiadau o gwmpas y byd. Mae hyn rai blynyddoedd yn ôl bellach felly efallai bod y ffilm wedi mynd heibio chi ar y pryd ond mae’n rhoi cipolwg pwerus ar weithredoedd  a datrysiadau ym mhedwar ban byd. 

Ffilm ddifyr arall yw 2040 gan y cyfarwyddwr o fri, Damon Gameau, sy’n mynd ar daith i edrych ar sut allai’r dyfodol edrych erbyn y flwyddyn 2040 petaem ni’n ‘gweithredu ar y datrysiadau gorau sydd eisoes ar gael i ni wella ein planed ac yn eu symud nhw’n gyflym i’r brif lif.’

 

Hapchwarae 

Mae’n syndod bod gemau fideo yn gallu cael ôl-troed carbon mwy nag a ddisgwylid gyda'r ynni sy’n cael ei ddefnyddio gan y gemau eu hunain gyfystyr â rhyw 5 miliwn o geir. Mae newidiadau ar droed ac mae cwmnïau hefyd yn mynd ati i weithredu gyda mwy a mwy o gemau yn canolbwyntio ar faterion amgylcheddol a newid hinsawdd, neu’n cyfeirio atynt. Yn 2018, bu i grŵp o wyddonwyr yng Nghymru gynnal stomp hinsawdd i ymchwilio i greu gemau i gyfleu newid hinsawdd ac edrych ar ‘argraffiadau pobl o newid hinsawdd a’u hagweddau tuag ato’.  

 

Ymgyrch Stopiwch Ecocide

Yn 2017, dechreuodd y ddiweddar gyfreithwraig o’r DU, Polly Higgins, a’r gweithredydd amgylcheddol Jojo Mehta yr ymgyrch Stop Ecocide sy’n ceisio rhoi diwedd ar y ‘difrod a distryw mawr i’r ecosystemau sy’n digwydd yn fyd-eang’. Maent yn gweithio i wneud hyn yn drosedd ryngwladol yn y Llys Troseddau Rhyngwladol.

Pan enillodd Greta Thunberg Wobr Gulbenkian am Ddynoliaeth, rhoddodd $100,000 tuag at y ‘Stop Ecocide Foundation’. 

 

Ble nesaf? 

Prynu a defnyddio llai yw’r peth hawsaf – a mwyaf effeithiol – y gall bawb ohonom ei wneud! 

 

Er mor wych a chalonogol yw gweld datrysiadau cadarnhaol a syml iawn yn digwydd o gwmpas y byd, mae’r gyfradd yr ydym ni’n defnyddio egni a nwyddau wedi codi’n ddramatig a bydd yn parhau i godi’n ddi-baid os nad ydym ni’n rhoi sylw i’r mater mwyaf sylfaenol hwn  traul

Bydd defnyddio llai yn arbed arian, adnoddau a’r blaned ond nid yw gwleidyddion eisiau rhoi sylw i’r neges hon! Mae’n bwysig dal ati i ddwyn pwysau ar wleidyddion a busnesau mawr i newid, a newid yn gyflym.

Os hoffech chi fwy o syniadau am beth allwch chi ei wneud yna edrychwch ar yr erthyglau hyn, podlediadau Gaia Says No! a'r BBC.   

 

Olion llaw a throed carbon 

Mae cyfrifiannell Footprint Network yn mesur eich ôl-troed ecolegol a hefyd eich diwrnod ‘mynd drosodd’ (‘overshoot’) personol chi. Mae gan WWFCarbon Independent a National Energy Foundation hefyd gyfrifianellau ôl-troed.

Yn ein hadran Bwyd ar Amdani! buom yn trafod y syniad o label carbon neu eco newydd ar gyfer bwyd a gynhyrchir yng Nghymru fel ffordd o roi mwy o ddewis i ddefnyddwyr, cefnogi cynhyrchwyr bwyd o Gymru a helpu i leihau allyriadau hinsawdd. Gyda ffigyrau yn awgrymu ein bod ni yn y DU yn mewnforio tua 45% o’n holl fwyd o wledydd eraill, byddai newid i gefnogi mwy o gynnyrch cartref hefyd yn lleihau allyriadau hinsawdd.

Mae’r Ffindir wrthi’n gweithio ar ‘ôl llaw carbon’. Mae’n gysyniad difyr lle byddai cwmni, er enghraifft, yn datblygu nwydd neu wasanaeth sy’n gadael i’r cwsmeriaid leihau eu hôl-troed carbon.

 

Gorffennol yn llawn ysbrydoliaeth

Rhag ofn i ni feddwl beth yw’r pwrpas i ni, cenedl fach, fod yn gweithredu, wel mae gan Gymru a’r Cymry hanes balch o weithredu cymdeithasol a chymunedol ac ysbrydoli newid. Mae hanesyn anhygoel ond braidd yn angof yn mynd â ni yn ôl i 1923 pan drefnodd merched Cymru ymgyrch am heddwch byd a deiseb a arwyddwyd gan 390,296 o ferched (dros 60% o ferched Cymru) yn galw am i’r UDA ymuno â Chynghrair y Cenhedloedd a’i harwain (rhagflaenydd cynnar y CU). 

 

Rhyw ddeng mlynedd arall yn unig sydd gennym ni ar ôl i weithredu. Nid yw’n amser hir ac nid oes neb arall am ei wneud i ni.

Fel y dywedodd Greta: “Mae angen i ni fod yn flin a deall beth sydd yn y fantol. Ac yna mae angen i ni droi’r dicter hwnnw yn weithredu a sefyll gyda’n gilydd a pheidio byth â rhoi’r gorau iddi.”


Amdani!

 

 

Share this page