Angen gweithredu ar frys ar gartrefi

Published: 6 Apr 2020

Mae Llywodraeth Cymru yn gweithredu ar dai o'r diwedd. O ystyried yr argyfwng hinsawdd, rydym yn eu hannog i symud yn gyflymach, gan fod gennym y dechnoleg i unioni'r sefyllfa bellach.

Haf Elgar, Cyfarwyddwr Cyfeillion y Ddaear Cymru yn siarad ar Channel 4

Ar 20 Ionawr 2020, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei chynigion am 'wres ac ynni o ffynonellau ynni glân i bob cartref newydd yng Nghymru o 2025 ymlaen.' Mae ymgynghoriad ar y cynigion newydd yn cau ar 12 Mawrth 2020, a gellir ei weld yma: 

Wrth ymateb i'r cynigion, dywedodd Haf Elgar, Cyfarwyddwr Cyfeillion y Ddaear Cymru:

'Mae'n wych gweld Llywodraeth Cymru yn gweithredu ar y mater hwn o'r diwedd, ond rydym yn eu hannog i symud yn gyflymach, gan fod gennym y dechnoleg i unioni'r sefyllfa bellach.

'Rydym mewn argyfwng hinsawdd ac mae aros am bum mlynedd arall yn rhy hir. Bydd miloedd o dai newydd yn cael eu hadeiladu rhwng nawr a 2025.  Dyna pam ein bod ni'n croesawu cynigion i gartrefi newydd fod yn fwy effeithlon o ran ynni o eleni ymlaen, ac yn annog Llywodraeth Cymru i gyflwyno'r effeithlonrwydd mwyaf o ran ynni - mae'n rhaid i ni adeiladu cartrefi sy'n addas ar gyfer y dyfodol.

'Wrth reswm, bydd y rhan fwyaf ohonom yn byw mewn tai sy'n bodoli eisoes am ddegawdau i ddod, felly mae'n rhaid i ni wella effeithlonrwydd ynni pob cartref, yn enwedig yn achos aelwydydd bregus a'r rhai sy'n parhau i fyw mewn tlodi tanwydd.'

Gwyliwch Haf yn siarad am y mater hwn ar newyddion Channel 4:

All new homes in Wales to be powered by clean energy from 2025

The role that housing can play in cutting carbon emissions is a crucial one. It's estimated our homes contribute around 20% of the UK's greenhouse gas emissions. England and Scotland have already announced new regulations to cut this - and today the Welsh Government unveiled a consultation on building regulations.

Share this page