Dylai'r bwndel babi fod yn gynaliadwy

Published: 20 Oct 2020

Photo of Becky Harford

Gan Becky Harford
Swyddog Ymgyrchoedd Cymunedau ac Actifiaeth

Cyfeillion y Ddaear Cymru

Yn Abertawe, mae teuluoedd rhai babanod newydd anedig wedi cael bwndel babi yn rhodd yn cynnwys siwtiau cysgu, teganau, clytiau ac eitemau eraill fel rhan o beilot gan Lywodraeth Cymru. Os bydd y peilot yn llwyddiannus, bydd teuluoedd pob baban newydd anedig yn cael bwndel babi yn rhodd. Mae hyn yn newyddion gwych yn ôl Becky Harford sy'n archwilio pam bod angen i'r cyflwyniad cenedlaethol hwn fynd ymhellach na'r peilot.

 

Dychmygwch fyd lle mae pob rhiant newydd yn cael rhodd cyn i aelod bach newydd eu teulu gyrraedd. Mae'r rhodd yn focs, a roddir i bawb waeth beth yw eu hamgylchiadau, ac yn y bocs hwnnw mae popeth sydd ei angen arnoch i ddechrau ar eich taith fel rhiant.

 

Efallai fod yr hysbysebion yn dweud yn wahanol wrthych, ond nid oes angen llawer ar fabanod newydd anedig, dim ond lle i gysgu, bwyd, clytiau, rhywbeth i'w wisgo, blancedi ac yn bwysicaf oll, cariad.

Mae'r cariad hwnnw tuag at eich baban newydd anedig hefyd yn obaith am ei ddyfodol, y bywyd posibl y gallai fyw, a'r byd y bydd yn byw ynddo. Beth os allai'r rhodd hon wneud ei fyd yn well?

Sut all rhodd garu'r blaned a'ch baban?

O helô, bwndel babi cynaliadwy!

 

'Cam i'r cyfeiriad cywir'

 

Rydym wrth ein bodd bod Llywodraeth Cymru yn cynnal peilot gyda'r bwndel babi ar hyn o bryd, sy'n cynnwys pethau fel siwtiau cysgu a theganau. Mae'r bwndel yn cydnabod cynaliadwyedd ac yn cynnwys clwt y gellir ei ailddefnyddio yn oddeutu hanner y peilot. Mae'n gam i'r cyfeiriad cywir. Ond hoffem eu gweld yn mynd gam ymhellach.

Hoffem weld cynhyrchion lleol, di-blastig yn cael eu cynnwys yn y bwndel. Yn ogystal, os ydym am gynorthwyo rhieni i newid o glytiau tafladwy i ailddefnyddio clytiau, mae angen cynnwys pecyn dechrau arni llawn yn cynnwys clytiau y gellir eu hailddefnyddio, gyda'r holl bethau sydd eu hangen arnoch i ddechrau ailddefnyddio, yn hytrach na dim ond un clwt y gellir ei ailddefnyddio.

 

'Ddim fel yr hen glytiau teri'

Os ydych yn darllen hwn ac yn dychmygu sgwariau tywelin mawr o dderi a phinnau diogelwch mawr, gyda 3 bwced gwahanol ar gyfer socian a golchi a'ch bod yn meddwl 'Does gen i mo'r lle na'r amser i wneud hynny', yna byddwch yn amyneddgar efo fi am eiliad.

Beth petai gwasanaeth golchi dillad ar gael sy'n danfon clytiau ffres, glân ac yn mynd â'r rhai budron i ffwrdd? Beth fyddai'n newid eich meddwl?

Mae hynny'n swnio'n ddrud, yntydy?

Ond beth os fyddai'r arian a fyddai eich cyngor lleol yn ei arbed oherwydd nad oes rhaid iddynt dalu treth tirlenwi ar glytiau bellach yn mynd at gymorthdalu'r gwasanaeth golchi?

Swnio'n well?

Llun gan Laura Ohlman ar Unsplash

'Dychmygwch gael pecyn dechrau arni am ddim.'

Rwy'n sylweddoli nad yw pethau mor syml â chynnwys clwt y gellir ei ailddefnyddio a bydd y broblem enfawr o wastraff clytiau yn diflannu dros nos.  Os ydych ar incwm isel neu sefydledig, mae cost clytiau y gellir eu hailddefnyddio yn ormod o arian i'w wario. Os nad oes gennych lawer o amser yna mae meddwl am lanhau clytiau yn annymunol. Ond a allwn ni ddechrau dychmygu byd lle cewch becyn dechrau arni am ddim yn eich bwndel babi?

A allwn ddychmygu byd lle mae gwasanaethau golchi lleol yn casglu eich clytiau budron ac yn danfon rhai newydd atoch, wedi'i gymorthdalu gan eich awdurdod lleol, gyda phobl leol yn ei redeg fel yr un yma yn Llundain - sy'n casglu ac yn danfon gan ddefnyddio beiciau trydan i'w cludo.

Byd lle nad ydych yn wahanol i bawb arall am ddefnyddio clytiau y gellir eu hailddefnyddio.

Byd lle nad ydym yn anfon 200 miliwn o glytiau budron y flwyddyn yng Nghymru i safleoedd tirlenwi neu i'w llosgi.  Oni fyddai ein syniadau yn cael gwared ar rai o'r rhwystrau sy'n atal rhai pobl rhag newid o glytiau tafladwy i rai y gellir eu hailgylchu? Oherwydd bod clytiau tafladwy yn ddrwg iawn i'r amgylchedd. 

 

Gadewch i ni edrych ar y ffeithiau

  • Mae clytiau un defnydd yn defnyddio 20 gwaith mwy o dir i'w cynhyrchu
  • Mae clytiau un defnydd yn defnyddio 3 gwaith mwy o ynni i'w cynhyrchu
  • Cynhyrchir 1 tunnell o wastraff fesul plentyn o enedigaeth hyd at 2.5 oed os ydynt yn defnyddio clytiau
  • Gall mater organig yn dadelfennu mewn safle tirlenwi lygru dŵr tir a rhyddhau methan, sef nwy tŷ gwydr niweidiol.
  • Maent yn ddrud! £1475 yn ddrytach yn ôl y gwasanaeth cynghori ariannol
  • Maent hefyd yn achosi cost o £2.4miliwn y flwyddyn mewn treth Tirlenwi i gynghorau yng Nghymru, naill ai hynny neu cânt eu hanfon i'w llosgi, ond mae hwnnw'n flog cwbl wahanol.
  • Mae'n cymryd 1,500 litr o olew crai i gynhyrchu digon o glytiau un defnydd i bara o enedigaeth hyd at 2.5 oed

 

Felly, pam ydym yn parhau i'w defnyddio?

Wel, efallai fod rhai ohonoch sy'n darllen y blog hwn yn defnyddio clytiau y gellir eu hailddefnyddio, ond mae llawer ohonom yn parhau i ddefnyddio rhai tafladwy. Efallai oherwydd bod gwneud hynny'n rhwydd a chyfleus. Rydym ni i gyd yn siopa mewn archfarchnadoedd sydd â silffoedd yn llawn eitemau tafladwy, ac mae pawb yr ydym yn eu hadnabod yn eu defnyddio. Nid yw clytiau y gellir eu hailddefnyddio yn ddigon rhwydd a hygyrch.  Efallai fod rhai ohonom yn ystyried clytiau y gellir eu hailddefnyddio fel rhywbeth y mae pobl dosbarth canol yn eu defnyddio.  Os ydych mewn hostel ag un ystafell yn aros am dŷ, a ydych chi wirioneddol yn mynd i boeni am glytiau y gellir eu hailddefnyddio, drud sy'n cymryd lle? Nid yw hynny'n golygu nad yw'r rhieni hyn yn poeni am yr amgylchedd, dim ond bod ganddynt flaenoriaethau eraill, pwysicach. I wneud newid go iawn, rhaid i glytiau y gellir eu hailddefnyddio fod yn hygyrch i bawb.

Gallai bwndel babi cynaliadwy ddatrys y problemau hyn.

 

 

Pam mae angen bwndel babi cynaliadwy arnom?

Os yw Llywodraeth Cymru am i Gymru fod yn ddiwastraff erbyn 2050, neu'n well byth erbyn 2030 yn unol â'n hymgyrch, yna rhaid i ni fynd i'r afael â chlytiau un defnydd. Beth am fynd i'r afael â'r broblem gan ddefnyddio bwndel babi cynaliadwy gyda phecyn dechrau arni o glytiau a gwasanaeth golchi wedi'i gymorthdalu?

Byddai'n cael gwared ar yr holl rwystrau yr wyf wedi sôn amdanynt ac yn creu swyddi lleol yng Nghymru drwy'r gwasanaeth golchi a gwneud a gwerthu cynhyrchion eraill yn y bwndel. 

Mae angen i Lywodraeth Cymru feddwl yn fawr a rhoi'r cyfle a'r modd i rieni newydd gyflawni newid, fel y gallant garu'r blaned, fel eu newydd anedig eu hunain.

 

 

Felly, beth nawr?

 

Hoffwn glywed gennych, yn enwedig os ydych ar incwm isel neu sefydledig ac wedi defnyddio clytiau y gellir eu hailddefnyddio. Gorau po fwyaf o leisiau y gallwn ychwanegu at y gefnogaeth. Yn ogystal, hoffem glywed gennych os nad ydych wedi'u defnyddio a pham, ac a ydych yn credu y gallai unrhyw beth yr ydym wedi'i drafod yma newid eich meddwl.

Os ydych yn ystyried defnyddio clytiau y gellir eu hailddefnyddio, yna mae canllawiau a blogiau gwych ar gael a llwyth o siopau Cymreig yn eu gwerthu.

 

 

 

 

Share this page