Fferyllfeydd yng Nghymru yn defnyddio miliynau o fagiau plastig

Published: 9 Sep 2019

I gyd-fynd ag Wythnos Ddiwastraff, mae Cyfeillion y Ddaear Cymru wedi erfyn heddiw ar fferyllfeydd yng Nghymru i fynd yn ddi-blastig ac ymuno â'r daith tuag at fod yn ddiwastraff yng Nghymru.

Mae ymchwil gan y sefydliad wedi datgelu bod fferyllfeydd yn defnyddio miliynau o fagiau plastig i roi ein meddyginiaethau ynddynt yng Nghymru.

Dengys ceisiadau Rhyddid Gwybodaeth i brif gadwynau fferyllfa yng Nghymru fod Fferyllfa Rowlands er enghraifft wedi cyflenwi 1,232,276 o fagiau rhagnodi plastig untro yng Nghymru yn 2017 ac yn y 3 blynedd rhwng 2015-2017 cafodd 3,644,280 o'r bagiau hyn eu cyflenwi ganddynt.

Mae cadwynau fferyllfa eraill wedi ymateb drwy ddeud eu bod naill ai'n defnyddio bagiau papur neu nad oes ganddynt yr wybodaeth ystadegol ar gyfer y bagiau a gyflenwir yng Nghymru.

Dywedodd llefarydd Cyfeillion y Ddaear Cymru, Bleddyn Lake:

"I'r nifer cynyddol o unigolion, grwpiau cymunedol, sefydliadau a busnesau sy'n cymryd camau breision i leihau plastig, bydd y ffaith bod rhai fferyllfeydd yng Nghymru yn dal i ddefnyddio miliynau o fagiau plastig yn dalen caled.

"Daeth y Rheol Codi Tâl am Fagiau i rym yng Nghymru ar 1 Hydref 2011 felly mae'n syndod ac yn siom fod fferyllfeydd megis Rowlands yn parhau i gyflenwi miliynau o fagiau plastig untro yng Nghymru. Os yw fferyllfeydd eraill yn gallu defnyddio bagiau papur, pam na all Rowlands wneud yr un fath, maent eisoes wedi cael 8 mlynedd i newid, faint mwy o amser y mae cwmni ei angen?

"Mae'r rhan fwyaf o blastig yn cael ei wneud o olewau a defnyddir llawer o ynni a dŵr i'w gynhyrchu. Rydym yn wynebu'r bygythiadau byd-eang deublyg, trychinebus o golli bioamrywiaeth a newid yn yr hinsawdd. Wedi'r cyfan, lleihau bagiau plastig yw un o'r pethau hawsaf y gallwn ei wneud i leihau'r defnydd o blastig a ddefnyddir gennym.

"Os ydym am lwyddo wrth drechu newid yn yr hinsawdd, rydym angen i fferyllfeydd fod yn rhan o'r ymgyrch, binio'r bagiau ac edrych eto ar yr holl blastigau eraill a ddefnyddir ganddynt. Byddai newid i ddefnyddio bagiau papur wedi'i ailgylchu 100% yn gychwyn, ond byddai defnyddio llai o ddeunyddiau'n gyfan gwbl yn well.

 "Ar ôl 8 mlynedd o'r rheol codi tâl am fagiau plastig yng Nghymru, dengys hyn hefyd y dylem fod yn edrych ar eithriadau a nodwyd fel rhan o'r rheol hon pan ddaeth i rym. Byddai'r ymgynghoriad arfaethedig ar ddim gwastraff yn amser perffaith i adolygu a diweddaru'r eithriadau hyn.

"Dywedodd tad meddygaeth, Hippocrates, 'The greatest medicine of all is teaching people how not to need it'.  Efallai fod hyn yn berthnasol i blastig yn yr achos hwn. Nawr yw'r amser i weithredu."

Defnyddir oddeutu 160,000 o fagiau plastig ar draws y byd bob eiliad. Pan mae'r bagiau ysgafn hyn yn cyrraedd y môr cant eu camgymryd am fwyd a gallant achosi marwolaeth llawer o anifeiliaid y môr.

Mae'r defnydd eang o blastig untro hefyd yn cyflymu newid yn yr hinsawdd yn ôl adroddiad diweddar, gan gyfrannu at allyriadau nwyon tŷ gwydr ym mhob cam o'r cylch bywyd.

 

Share this page