Ffoaduriaid o Wcráin yn plannu perllan gyda chymuned o Gymru

Published: 5 Feb 2024

Picture of Lynn Gazal

Lynn Gazal, Cadeirydd Gweithredu Hinsawdd Caerffili

Mae ffoaduriaid o Wcráin yng Nghaerffili wedi plannu coed ffrwythau mewn parc lleol i ddangos pa mor ddiolchgar ydyn nhw i’r gymuned. Yma, mae Lynn, un o’r trefnwyr, yn adrodd y stori ysbrydoledig sydd wrth wraidd sut y llwyddodd y ‘berllan diolchgarwch’ hon i ddwyn ffrwyth.
Woman holding a sign in a park
Yulia Bond, trefnydd Ukrainians in Caerphilly, yn gafael ym mhlac y Berllan Diolchgarwch ym Mharc Morgan Jones, 27 Ionawr 2024

Dechreuodd ein siwrnai yr Hydref diwethaf pan ddywedodd Andy King, cynrychiolydd Cadwch Gymru’n Daclus yng Nghaerffili, y byddai croeso i Gweithredu Hinsawdd Caerffili wneud cais i blannu perllan ym Mharc Morgan Jones. (Roedd y pecyn perllannau’n rhan o’u pecynnau datblygu Lleoedd Lleol i Natur, a ariennir gan Lywodraeth Cymru.)

Roeddwn i wedi bod yn brysur yn cynnal cyfweliadau gyda phobl ifanc o Wcráin a oedd wedi’u dadleoli, ar gyfer fy ngwaith ymchwil ynglŷn â’r manteision sy’n perthyn i blannu coed, megis gadael gwaddol ac ymwreiddio mewn gwlad.

Mae plannu coeden, heb sôn am berllan, yn rhodd barhaus. Mae coed ymhlith y pethau mwyaf anhygoel ar y blaned. Maen nhw’n helpu i wrthsefyll newid hinsawdd, yn gwella ansawdd yr aer, yn lleihau llifogydd ac yn meithrin bioamrywiaeth. Hefyd, maen nhw'n hanfodol i’n hiechyd corfforol a meddyliol.

Roedd Yulia Bond, trefnydd grŵp o’r enw Ukrainians in Caerphilly a chyn-wleidydd y Blaid Werdd yn Wcráin, wedi bod yn hwyluso fy nghyfweliadau gyda’r bobl ifanc. Roedd Yulia wrth ei bodd â’r syniad o blannu perllan gan y byddai’n atgof parhaol o amser pobl Wcráin yng Nghaerffili. Dewisodd cymuned yr Wcreiniaid ddydd Sadwrn 27 Ionawr ar gyfer y gwaith plannu, sef bron i ddwy flynedd ers i ymosodiadau dinistriol lluoedd Rwsia ddechrau.

Ar ôl mynd trwy broses ymgeisio ac ar ôl i Nathan Jones o Cadwch Gymru’n Daclus ymweld â’r safle i gadarnhau ei fod yn addas, cawsom 12 o goed ffrwythau, 320 o fylbiau brodorol, 2 fainc blastig wedi’u hailgylchu, 2 flwch ar gyfer draenogod, 2 gartref ar gyfer pryfetach, canllaw ar goed ffrwythau, offer, berfa a chasgen ddŵr!

Llwyddodd y Cynghorydd Shayne Cook a Chyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili i sicrhau arian ar gyfer yr arwydd.

Bu Ageliki Politis, sef gwirfoddolwr ymroddedig a chanddi gysylltiadau gwerthfawr a phrofiad helaeth o gynnal prosiectau amgylcheddol, yn hollbwysig o ran sicrhau bod yr arwydd yn barod. Er enghraifft, gan fod yn rhaid trefnu pethau’n ddi-oed ar gyfer plannu ym mis Ionawr, nid oedd modd i’r mwyafrif o gwmnïau arwyddion greu’r arwydd o fewn yr amser. Ond gweithiodd Ageliki gyda’i chysylltiadau i sicrhau ei fod yn barod mewn da bryd!

Bu cysylltu trwy gyfrwng y cyfryngau cymdeithasol – fel grŵp WhatsApp – yn fuddiol, oherwydd rhoddodd gyfle i gyfieithu ar draws y gwahanol lefelau Saesneg. Ond defnyddiwyd e-byst i gydgysylltu’n ffurfiol â Chyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, yn cynnwys pobl allweddol fel Jamie Pritchard, Aelod Cabinet dros Newid Hinsawdd, Simon Beacham, Rheolwr Tîm y Parciau, a Shayne Cook, cynghorydd y ward leol.

Ar ôl ymweld â’r safle, llwyddodd un o’r gwirfoddolwyr, Rheolwr Tîm y Parciau a minnau i ddod o hyd i leoliad addas ar gyfer y berllan. Byddai’r berllan yn cael ei lleoli ar dir gwastad ar fryn lle ceid digon o olau, wrth ymyl Coedwig Fach Caerffili. Yna, aeth pawb ati gyda’i gilydd i lunio cynllun y berllan. Dewiswyd cynllun naturiol, organig a “di-drefn”, y tu ôl i fôr o fylbiau a’r arwydd hardd.

Mae pob un ohonom mor falch o’r arwydd hwn – rhywbeth y llwyddwyd i’w gyflawni ar y cyd. Penderfynodd yr Wcreiniaid beth fyddai’r neges ar yr arwydd, aethant ati i’w gynllunio, ac yna daeth y Cyngor o hyd i arian i’w greu.

Byddaf wastad yn trysori’r ffaith fy mod wedi cael bod yn rhan o’r siwrnai hon a arweiniodd at greu Perllan Diolchgarwch yr Wcreiniaid yng Nghaerffili, fy nhref enedigol. I mi, mae’n dangos pa mor rymus yw gweithio ar y cyd, ac mae gallu Cymuned yr Wcreiniaid i gydweithio fel un, gan gyfuno adnoddau a sicrhau bod llawer o ddwylo yn arwain at lawer o waith, wedi creu argraff fawr arnaf.

Tree planting ceremony in Morgan Jones Park, 27 January 2024
Seremoni plannu coed ym Mharc Morgan Jones, 27 Ionawr 2024

 

Dyma rai dyfyniadau ynglŷn â’r diwrnod plannu, gan y rhai a oedd yno ar y diwrnod:

“I Wcreiniaid, roedd y digwyddiad hwn yn cynnig cyfle iddyn nhw fynegi eu diolchgarwch, nid gyda geiriau yn unig ond gyda rhywbeth mwy sylweddol a fydd yn dod â phleser i gymuned Caerffili am flynyddoedd i ddod – blodau lliwgar, coed yn y parc, a’u ffrwythau. Yn ystod y digwyddiad, plannwyd coed afalau, ceirios a gellyg trwy weithio ar y cyd. Mae pob un o’r coed hyn bellach yn goed teuluol, oherwydd cawsant eu plannu ar y cyd gan Wcreiniaid a theuluoedd o Gymru a roddodd loches iddyn nhw.”

Yulia Bond, Ukrainians in Caerphilly

 

“Rydym yn ddiolchgar i Gymru am gynnig lloches a chariad. Rydym yn falch ein bod wedi cael cyfarfod â chynifer o bobl hael a llawn gofal. Diolch i’r digwyddiad hwn, mae gan aelodau fy nheulu eu coeden afalau eu hunain mewn parc hyfryd. Gobeithio y bydd yn tyfu’n goeden iraidd â gwreiddiau Cymreig cryf! A byddwn wastad yn cofio’r rhai a’n helpodd i deimlo’n gynnes ac yn ddigynnwrf yng Nghymru!”

 

Y teulu Lutaenko, Ukrainians in Caerphilly


“Roedd cymryd rhan yn y digwyddiad hwn ddydd Sadwrn yn arwydd o’n balchder yn y ffaith mai Wcreiniaid ydym ni: gweithgar, dewr, cryf, creadigol, yn hoffi canu, agored. Crëwyd awyrgylch arbennig gan synau swynol y bandura a lleisiau angylaidd ein merched, a lwyddodd i ennyn canu trwy holl gymuned yr Wcreiniaid. Uchafbwynt yr awyrgylch llawen hwn oedd cân Gymreig a berfformiwyd gan yr holl Wcreiniaid. “Calon lân”. Rhywbeth y mae Wcreiniaid a Chymry fel ei gilydd yn ei drysori’n fawr.”

Maryna, Ukrainians in Caerphilly

 

“Nid digwyddiad i anrhydeddu Wcráin a diwylliant Wcráin oedd hwn, ond digwyddiad i anrhydeddu Cymru a’i diwylliant! Yr un hawliau i fywyd, addysg a gwaith. Moesymgrymiad metafforaidd i Brydain Fawr a Chymru.”

 

Valeria, Ukrainians in Caerphilly
 

“Roedd yna deimlad ein bod yn gysylltiedig â rhywbeth mwy – hanes a fydd yn aros gyda ni. Ac mae hynny’n wych, er gwaethaf y gwir achos pam y mae’r Wcreiniaid yma.”

 

Hanna, Ukrainians in Caerphilly 
 

“Roedd yn fraint fawr i’n teulu… Roeddwn i’n edmygu hanes teuluol y Cynghorydd Lindsay Whittle, sydd wedi bod yn cefnogi pobl Wcráin ers blynyddoedd lawer yng nghlwb cymdeithasol yr Wcreiniaid yn Senghennydd. Diolch o galon i’n cyfeillion yng Nghymru, i drefnwyr y digwyddiad ac i’n cyfeillion o Wcráin.

 

Irina, Polina, Anastasia: Ukrainians in Caerphilly


“Roedd plannu coed yn ddigwyddiad arbennig i’n teulu. O’r cychwyn cyntaf, roeddem yn teimlo diolchgarwch mawr yn ein calonnau ac o’r diwedd bu modd inni fynegi’r diolchgarwch hwnnw mewn ffordd “go iawn”. Aeth fy merch i’w dosbarth cyntaf yng Nghymru a phlannodd ei choden gyntaf yng Nghymru. Rydym yn ysgrifennu ein hanes gyda’n gilydd a chyda Cymru. Diolch am y gefnogaeth!” (Anna, grŵp Ukrainians in Caerphilly)

 

“Anrhydedd oedd cael mynychu’r digwyddiad hwn a helpu plant Wcráin i blannu Perllan Diolchgarwch. Pobl eithriadol o ddewr a gwydn. Mae’n anodd meddwl am yr hyn sydd wedi dod i’w rhan ac sy’n dal i ddigwydd iddyn nhw. Ond er gwaethaf popeth sydd wedi digwydd, maen nhw’n dal i fod yn anorchfygol ac yn llawn gobaith.”

Anna, Ukrainians in Caerphillly
 

Terry Gordon, Gweithredu Hinsawdd Caerffili

“Yr hyn a oedd yn amlwg yn yr holl baratoadau cyn ac ar ôl y digwyddiad oedd mai menter a ysbrydolwyd gan y gymuned oedd hi.

“I’r Wcreiniaid, roedd cael cyfle i’w mynegi eu hunain mewn cymuned dwymgalon yng Nghaerffili yn brofiad eithaf emosiynol. Bu modd inni ymuno â’n gilydd i blannu coed i nodi’r achlysur hwn mewn ffordd gadarnhaol.

“Fel cyngor, rydym yn annog dulliau cymunedol o’r fath, gan alluogi pobl o bob cefndir i greu cysylltiadau a mwynhau’r manteision lu sy’n perthyn i goed a natur. Hefyd, bydd hyn yn ein helpu i gyrraedd targed Llywodraeth Cymru, sef plannu 86 miliwn o goed er mwyn cyrraedd sefyllfa Sero Net erbyn 2050.”

Y Cynghorydd James Pritchard

 

 

Young black girl wearing Ukrainian flag
Trwy garedigrwydd Ukrainians in Caerphilly

 

Share this page