Mae'n bryd i Gymru ddeffro gyda 'threth cwpanau coffi'

Published: 31 Jan 2019

Gan Bleddyn Lake, Rheolwr Ymgyrchoedd a Datblygu yn Cyfeillion y Ddaear Cymru

Mae Cyfeillion y Ddaear Cymru yn galw am godi tâl am gwpanau i fynd - arwyddwch y ddeiseb heddiw!

Os ydych chi o oedran penodol, efallai y cofiwch hysbyseb ar y teledu o'r nawdegau gyda llais ag acen Gymreig yn dweud, "mini mega milky mocha"?

Wel, mae pethau wedi datblygu tipyn ers y dyddiau hynny!  Bellach mae gennym flas gwirioneddol am goffi ac mae llawer ohonom yn dibynnu arno bob bore i'n deffro ni ar gyfer diwrnod arall.

Fel mae llawer ohonom yn ymwybodol, mae'r cynnydd ym mhoblogrwydd coffi a siopau coffi wedi arwain at ffrwydrad enfawr yn y defnydd o gwpanau coffi untro.

 

Y ffeithiau...

  • Mae oddeutu 237 miliwn o gwpanau coffi untro a 183 miliwn o gaeadau cwpanau coffi yn cael eu defnyddio bob blwyddyn yng Nghymru. 
  • Caiff 320 miliwn o gwpanau untro eraill eu defnyddio bob blwyddyn yng Nghymru ar gyfer diodydd megis smwddis, ysgytlaethau, suddion, etc.
  • Mae llai nag 1 ym mhob 400 o'r cwpanau hyn yn cael eu hailgylchu.

Er yn dechnegol y gellir ailgylchu cwpanau i fynd, nid yw'r cyfleusterau i wneud hynny ar gael yn eang, felly mae'r mwyafrif ohonynt yn mynd i'r bin neu'n mynd yn sbwriel. Gwyddom hyn oherwydd gallwn eu gweld ar bob ffordd bron, ac ym mhob ffos a gwrych ac afon.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyfrifo ei bod yn costio oddeutu £70 miliwn y flwyddyn i glirio sbwriel yng Nghymru, cost a delir gan dalwyr treth. Os rhywbeth, dim ond rhan o gost wirioneddol sbwriel yng Nghymru yw hon. Yn ôl pob tebyg mae sbwriel yn costio oddeutu £440 miliwn y flwyddyn i Gymru yn ôl yr ymgynghoriaeth annibynnol, Eunomia. 'Mae hyn yn adlewyrchu maint y 'cynnydd lles' a enillir mewn sefyllfa ddi-wastraff.'

 

Manteision 'treth cwpanau coffi' 

Bu i brawf a gynhaliwyd gan Brifysgol Caerdydd yn 2017 ddangos y byddai codi tâl isel am y cwpanau hyn yn lleihau'r pentyrrau enfawr o sbwriel yr ydym ni'n eu creu bob blwyddyn yn sylweddol.

Mae Eunomia yn amcangyfrif y gallai tâl neu dreth o 25c ar gwpanau untro a lenwir mewn pwyntiau gwerthu yng Nghymru, ynghyd â system dychwelyd gorfodol mewn siopau coffi, leihau niferoedd y cwpanau hyn oddeutu 30% a chynhyrchu oddeutu £97m y flwyddyn.  

Hoffai Cyfeillion y Ddaear Cymru weld yr arian yn cael ei ddefnyddio i ariannu canolfannau diwastraff mewn cymunedau ledled Cymru.

Byddai hwn yn fuddugoliaeth ddwbl, neu Doppio os yw'n well gennych!

Byddai tâl neu dreth o 25c ar bob cwpan coffi untro er enghraifft yn adeiladu'n sydyn i'r gost o brynu cwpan y gellir ei hailddefnyddio. Gall cwpan ailddefnyddiadwy gostio oddeutu £10, felly os ydych yn prynu coffi i fynd unwaith y diwrnod am 5 diwrnod yr wythnos dyweder, byddech yn dechrau gwneud elw yn sydyn iawn drwy newid i gwpan ailddefnyddiadwy ac yn helpu i arbed adnoddau, ynni a dŵr.

 

Pam nawr?

Mae llywodraethau cenedlaethol ledled Prydain bellach yn cydweithio ar y mater o Gyfrifoldeb Estynedig Cynhyrchwyr (yn fyr, defnyddio cymhelliad ariannol i annog gweithgynhyrchwyr i ddylunio cynnyrch sy'n ystyriol o'r amgylchedd drwy roi'r cyfrifoldeb ar gynhyrchwyr am gostau rheoli eu cynnyrch ar ddiwedd oes), a mesurau eraill megis Cynllun Dychwelyd Ernes ar gyfer cynhwysyddion diodydd, ond erbyn hyn mae'n debyg nad yw treth neu ardoll ar gynhwysyddion diodydd untro yn cael ei ystyried gan Lywodraeth y DU.

 

Sut y gallai weithio

Os cyflwynir tâl ar gwpanau i fynd, dylai cyfleusterau dychwelyd cwpanau untro fod yn orfodol i fanwerthwyr mawrion a dylid ystyried eithriadau i fanwerthwyr bychain, yn arbennig y rheiny mewn ardaloedd prysur sydd felly yn debygol o gael llawer o gwpanau a chaeadau yn cael eu dychwelyd iddynt.

 

Yn ddiddorol, byddai siopau coffi llai yn cael budd o fwy o ddefnydd o gwpanau ailddefnyddiadwy oherwydd ar hyn o bryd maent yn llai tebygol o gael budd o arbedion costau wrth swmp-brynu cwpanau untro.

Gan ddefnyddio'r rheoliadau Hierarchaeth Gwastraff presennol yng Nghymru, mae'n bosibl amodi bod rhaid i fanwerthwyr ddarparu'r opsiwn o gynhwysyddion diodydd amldro i gwsmeriaid sy'n dymuno yfed y cynnyrch ar y safle (meddyliwch am allfeydd bwyd cyflym mawrion lle'r ydych yn cael cwpanau untro er eich bod yn bwyta ac yfed ar y safle).

 

Arwyddwch ein deiseb

A derbyn bod gennym y pŵer i gyflwyno 'treth cwpanau coffi' yng Nghymru, rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno treth o'r fath cyn gynted â phosibl.

Mae angen hyn ar gyflymder mwy fel espresso fel y gallwn ddechrau ymdrin â'r mater.

Mae Cymru yn arwain y ffordd ar faterion gwastraff, gyda chyfraddau ailgylchu uchel a chyflwyno'r tâl bag plastig yn 2011.

Beth am i ni ddeffro ein hawydd i weithredu ar blastig untro a symud i fod yn gymdeithas ddiwastraff? Peidiwch â gwneud môr a mynydd (o gwpanau coffi)! Arwyddwch ein deiseb heddiw

 

 

Bleddyn Lake yw Rheolwr Ymgyrchoedd a Datblygu Cyfeillion y Ddaear Cymru

Share this page