Dinasoedd Cymru yn Methu â Chwrdd â Safonau Llygredd Aer Sefydliad Iechyd y Byd (WHO)

Published: 16 May 2018

Mae data llygredd aer sydd wedi’i ddatgelu heddiw (01/05/18) yn dangos bod tair dinas a dwy dref yng Nghymru ar, neu dros safonau Sefydliad Iechyd y Byd (WHO) ar gyfer llygredd aer gronynnau mân (PM2.5) - gyda'r gronfa ddata estynedig yn datgelu enghreifftiau newydd o aer peryglus o lygredig ledled y DU.

Mae Caerdydd, Cas-gwent, Casnewydd, Port Talbot ac Abertawe i gyd wedi methu â chwrdd â safonau WHO ar gyfer llygredd PM2.5.

Mae Cyfeillion y Ddaear yn galw ar y DU i gydymffurfio â safonau WHO ar gyfer llygredd aer.

 

Er bod ehangu cronfa ddata ansawdd aer WHO yn dangos ymwybyddiaeth gynyddol o'r argyfwng iechyd cyhoeddus o lygredd aer, mae hefyd yn pwysleisio ymhellach fod angen gwneud llawer mwy i lanhau'r aer yr ydym yn ei anadlu, a hynny’n gyflym.

 

Gall llygredd aer o ronynnau achosi canser yr ysgyfaint, a gwaethygu clefyd y galon a chlefyd yr ysgyfaint. Mae ymchwil wedi canfod nad oes yna gyfyngiad diogel o amlygiad.  Hefyd, rhan o'r stori yn unig sy’n cael ei hadrodd gan gronfa ddata llygredd aer y WHO, gan nad yw'n cynnwys ffigurau ar y nwyon nitrogen deuocsid angheuol sydd hefyd yn llygru ein haer ni ac yn niweidio ein hiechyd.

 

Dywedodd Jenny Bates, ymgyrchydd llygredd aer, Cyfeillion y Ddaear:

 

"Wrth i fwy o ddata ar ansawdd aer ddod ar gael, rydym yn gweld bod nifer brawychus o leoliadau sydd i fod ag awyr iach ledled DU, mewn gwirionedd ag aer peryglus o lygredig. Mae hyn yn dangos yr angen am ymchwil bellach, er mwyn i ni ddeall yn iawn a gwella cyflwr llygredd aer ledled y DU.

 

"Nid oes y fath beth â lefel ddiogel o lygredd aer, er bod blynyddoedd o hunanfoddhad y llywodraeth yn awgrymu eu bod nhw’n meddwl fel arall.

"Er mwyn iechyd a lles pawb, rydym angen i’r Strategaeth Ansawdd Aer sydd ar ddod i gymryd safbwynt pendant a mynd i'r afael â llygredd aer o bob ffynhonnell. Rydym angen mesurau, gan gynnwys rhwydwaith cenedlaethol cryfach o Barthau Aer Glân, cynllun sgrapio disel a buddsoddi mewn cerdded, beicio a thrafnidiaeth gyhoeddus i alluogi cymaint â phosibl o deithio heb gar. "

 

Mae’r safon ansawdd aer WHO ar gyfer PM2.5 yn gyfartaledd blynyddol o 10 microgram fesul metr giwbig. Mae’r trefi a’r dinasoedd canlynol o’r DU o gronfa ddata WHO ar y lefel hon neu’n uwch. *​

 

  1. Abertawe
  2. Armagh
  3. Biandrate
  4. Birmingham
  5. Brighton
  6. Bristol
  7. Caerdydd
  8. Carlisle
  9. Cas-gwent
  10. Casnewydd​
  11. Coventry
  12. Eastbourne
  13. Eccles
  14. Gibraltar
  15. Gillingham
  16. Grays
  17. Harlington
  18. Hull
  19. Leeds
  20. Leicester
  21. Liverpool
  22. London
  23. Londonderry
  24. Manchester
  25. Middlesbrough
  26. Newcastle Upon Tyne
  27. Norwich
  28. Nottingham
  29. Oxford
  30. Plymouth
  31. Port Talbot
  32. Portsmouth
  33. Preston
  34. Prestonpans
  35. Royal Leamington Spa
  36. Salford
  37. Saltash
  38. Sandy
  39. Scunthorpe
  40. Sheffield
  41. Southampton
  42. Southend-On-Sea
  43. Stanford-Le-Hope
  44. Stockton-On-Tees
  45. Stoke-On-Trent
  46. Storrington
  47. Thurrock
  48. Wigan
  49. York

*mae’r lleoliadau uchod wedi eu cymryd yn uniongyrchol o gronfa ddata WHO, sydd wedi talgrynnu’r ffigurau PM2.5 i’r rhif cyfan agosaf

Share this page