Joe Cooke

Helo, fy enw i yw Joe ac rwy'n gricedwr proffesiynol i Glwb Criced Sir Morgannwg, ac yn gwirfoddoli gyda Chyfeillion y Ddaear Cymru. Datblygais ddiddordeb mawr mewn helpu i frwydro yn erbyn Newid Hinsawdd tra'n astudio Gwyddorau'r Ddaear yn y Brifysgol, a phenderfynais ddefnyddio fy amser rhydd i helpu i wneud gwahaniaeth. Rwyf wedi cychwyn prosiect yn canolbwyntio ar helpu clybiau chwaraeon yng Nghymru, ar bob lefel, i ddod yn fwy cynaliadwy.

Mae gwirfoddoli i Gyfeillion y Ddaear Cymru yn brofiad arbennig. Mae'r staff yn gyfeillgar a chroesawgar, ac maen nhw'n rhoi rhyddid i chi fynd â'ch prosiect i unrhyw gyfeiriad yr hoffwch, ac yn eich cefnogi bob amser.

Share this page