Maniffesto Democratiaid Rhyddfrydol Cymru - ein hymateb

Published: 21 Apr 2021

Mae etholiad y Senedd ar 6 Mai 2021. Byddwn yn cyhoeddi blogiau yn gwneud sylwadau ar faniffestos Plaid Werdd Cymru, Plaid Cymru, Llafur Cymru, y Ceidwadwyr Cymreig a Democratiaid Rhyddfrydol Cymru ar ôl iddynt gael eu rhyddhau, yn ogystal â blog yn crynhoi ymrwymiadau'r pleidiau ar ôl i bob un gael ei gyhoeddi.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Gan Haf Elgar
Cyfarwyddwr, Cyfeillion y Ddaear Cymru

Mae maniffesto Democratiaid Rhyddfrydol Cymru, Adfywio yw’n Blaenoriaeth, fel mae’r teitl yn awgrymu, yn canolbwyntio ar adferiad Cymru ar ôl y pandemig. Fodd bynnag, mae hyn yn cynnwys yr argyfwng hinsawdd, neu ‘adfywiad er lles ein planed’, fel un o dair blaenoriaeth, ac mae mynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd yn thema sylweddol drwy gydol y ddogfen. Yn y cyflwyniad, maent yn cyfeirio at y cloc yn tician ar gyfer dyfodol y blaned, ac ymrwymiad i wneud popeth yn eu gallu i ddiogelu ein planed ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol. 

Yr ymrwymiad mwyaf blaenllaw yw buddsoddi £1bn y flwyddyn i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd, sy’n unol â chynllun Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol a gyhoeddwyd yn 2019. Yn ddiddorol, yn eu hatodiad costau, maent hefyd yn nodi y byddant yn cynnal adolygiad gwariant llawn a fydd yn alinio’r rhaglen gwariant cyfalaf gyda blaenoriaethau newid hinsawdd - felly fe all fod yn hyd yn oed yn fwy na hynny. 

Mae eu cynigion adfer economaidd yn datgan eu bwriad i gydbwyso anghenion sylfaenol pobl gydag adnoddau cyfyngedig ein planed, ar sail egwyddorion yr economi gylchol, gyda’r amgylchedd wrth wraidd creu economi tecach a mwy gwydn, sy’n gweithio ar gyfer pobl a’r blaned.  Maent yn ymrwymo i becyn o fesurau economaidd i greu swyddi gwyrdd, rhaglen fuddsoddi graddfa fawr mewn ynni adnewyddadwy ac i ddiogeli'r amgylched, cartrefi gwyrdd newydd ac adnewyddu tai newydd sy’n bodoli eisoes. Maent am sicrhau bod prynu a gwerthu’r sector cyhoeddus yn hyrwyddo agenda werdd, gan gynnwys deddf i’w wneud yn ofynnol i awdurdodau lleol flaenoriaethu busnesau lleol bach a chyflenwi newid yn y dull o’u caffael.

Mae uchafbwyntiau o'u polisïau amgylcheddol yn cynnwys datgan argyfwng natur a bioamrywiaeth, gan gynnwys y gweithrediadau traws-lywodraeth a chymdeithasol sydd eu hangen i fynd i’r afael â’r argyfwng, a thargedau adfer natur gyfreithiol rwymol a cherrig milltir rheolaidd. Mae ymrwymiadau cadarn i gynyddu nifer y coed - gan wneud pob tref yn Dref Goed, a gofyn i bob cyngor fod â strategaethau coetir i ddarparu o leiaf 20% o orchudd coed mewn ardaloedd trefol, 30% o orchudd coed ar gyfer holl ddatblygiadau newydd a gwella deddfwriaeth diogelu coed. 

Mae yna hefyd ffocws cryf ar gymunedau, wedi ei engreifftio gan eu cynnig ar gyfer cymdogaethau 20 munud. Dyma lle mae pob gwasanaeth hanfodol o siopau, iechyd, ardaloedd gwyrdd a swyddi ar gael o fewn 20 munud i’ch cartref - drwy gerdded, beicio neu drafnidiaeth gyhoeddus. Mae gan eu dull at dai fuddion cymdeithasol ac amgylcheddol, yn pwysleisio hawl pawb i fod yn ddiogel ac yn gynnes gartref. Byddent yn gosod safonau ynni ar gyfer y sector rhentu preifat a chodi pobl o dlodi tanwydd drwy wneud cartrefi yn fwy ynni effeithlon. Yn wir byddent yn mynd ymhellach drwy greu cartrefi sy’n cynhyrchu ynni gyda thechnoleg solar a phwmp gwres, neu ‘cartrefi fel gorsafoedd pŵer’. Ac mae eu hadran ar drafnidiaeth yn bwriadu ei wneud yn haws ar gyfer pobl i adael eu car adref gyda newidiadau i wasanaethau bysiau, trafnidiaeth gyhoeddus am ddim i bobl iau na 25 oed erbyn 2025, ac ymrwymiad i adeiladu ar gynigion Comisiwn Burns yn y de-ddwyrain drwy ystyried datrysiadau cynaliadwy parhaol mewn ardaloedd eraill o Gymru hefyd.

Mae yna hefyd restr sylweddol, a hir, o gynigion deddfwriaethol a rheoliadol, a all fod yn heriol i ddod o hyd i amser i’w paratoi a’u pasio drwy'r Senedd. Nid oes llawer o fanylder ar gyfer pob un, ond mae nifer sydd o ddiddordeb yn cynnwys y Ddeddf Aer Glân, Deddf Cartrefi Gwyrdd, Deddf Natur, Deddf Datblygiad Economaidd, a Deddf Cynllunio Cymru.

Yn gyffredinol, mae pwyslais cryf ar yr argyfwng hinsawdd a dyfodol ein planed yn y maniffesto hwn, gydag ymrwymiadau ariannol a deddfwriaethol i ategu hynny. Mewn rhai meysydd, fel teithio llesol a gwastraff, ychydig o fanylder sydd i’w weld, ac mae’n drueni nad oes llawer o gynigion pendant ar gyfer ein cyfrifoldebau byd-eang a sut i leihau ein hôl troed byd-eang, gan fod cymaint o eiriau cryf wedi’u defnyddio o safbwynt dyfodol ein planed. Ond mae llawer yma i’w groesawu yn y maniffesto, sy’n galonogol ac yn dangos uchelgais.

Share this page