Maniffesto Llafur Cymru - ein hymateb

Published: 19 Apr 2021

Mae etholiad y Senedd ar 6 Mai 2021. Byddwn yn cyhoeddi blogiau yn gwneud sylwadau ar faniffestos Plaid Werdd Cymru, Plaid Cymru, Llafur Cymru, y Ceidwadwyr Cymreig a Democratiaid Rhyddfrydol Cymru ar ôl iddynt gael eu rhyddhau, yn ogystal â blog yn crynhoi ymrwymiadau'r pleidiau ar ôl i bob un gael ei gyhoeddi.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Gan Haf Elgar
Cyfarwyddwr, Cyfeillion y Ddaear Cymru

Mae ‘Symud Cymru Ymlaen’ Llafur Cymru yn faniffesto cymharol gryno, gyda phwyslais sylweddol ar eu hymateb i’r pandemig a’u gwaith mewn llywodraeth dros y 5 mlynedd ddiwethaf. Fodd bynnag, mae dau o’u chwe phrif addewid yn ymwneud â Chymru wyrddach a chreu swyddi gwyrdd newydd, ac mae cydnabyddiaeth gyson drwy gydol y ddogfen fod newid hinsawdd yn argyfwng byd-eang ac yn fater anferthol rydym yn ei wynebu. 

Ar y cyfan, mae'n bositif gweld yr economi’n cael ei fframio fel economi gryfach a gwyrddach, gydag ymrwymiad i gynllun 10 mlynedd o fuddsoddi mewn isadeiledd ar gyfer economi ddi-garbon, a phwyslais ar ailfywiogi cymunedau lleol a chanol trefi. Mae hefyd yn bositif gweld y gefnogaeth ar gyfer arloesedd mewn technoleg adnewyddadwy newydd i wneud Cymru yn ganolbwynt byd-eang ar gyfer technolegau llanw newydd, ac ymrwymiadau i ddeddfwriaeth newydd ar drafnidiaeth, gweithredu’r strategaeth drafnidiaeth newydd gyda buddsoddiad sylweddol mewn bysiau a thrafnidiaeth sy’n ymateb i alw ledled Cymru, gan wneud Cymru yn genedl sy’n teithio'n iach a mynd i’r afael ag argymhellion Comisiwn Burns yn hytrach na chynlluniau ffordd liniaru’r M4 sydd wedi'u diddymu. 

Yn yr adran sy’n benodol i’r amgylchedd, mae pwyslais ar frogarwch a chymunedau, a chreu dyfodol tecach yn ogystal â gwyrddach, sy’n hanfodol i gyflawni cyfiawnder hinsawdd yn ogystal â mynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd ei hun. 

Ymysg eu haddewidion mae gwaredu mwy o blastigion untro a chyflwyno cynllun cyfrifoldeb cynhyrchydd estynedig, Coedwig Genedlaethol gyda 30 coetir newydd ac ardaloedd cynefin cysylltiedig, strategaeth bwyd cymunedol ar gyfer bwyd wedi ei gyrchu’n lleol, cynnal eu polisi o wrthwynebu echdynnu tanwyddau ffosil, gorfodi moratoriwm ar losgwyr mawr, a chreu ardaloedd gwyrdd hygyrch, gan gynnwys safleoedd cynefin peillwyr, perllannau a ‘Choedwigoedd Bach’. Mae hefyd yn dda gweld geiriau cadarn o blaid Deddf Aer Glân i osod y safonau ansawdd aer rhyngwladol uchaf yn rhan o'r gyfraith, er nad oes sôn am yr amserlen ar gyfer hyn. 

Mewn mannau arall yn y maniffesto mae ymrwymiad i wneud ein cymunedau yn lanach ac yn wyrddach, gan gynnwys sicrhau lefelau isel o garbon wedi’i ymgorffori drwy ddefnyddio deunyddiau priodol wrth adeiladu a datblygu strategaeth pren Cymru, cyfleusterau atgyweirio ac ailddefnyddio mewn cymunedau a chanol trefi, annog siopa diwastraff a mwy o ardaloedd gwyrdd cymunedol. 

Ac mae'n ddiddorol gweld her gref i ailfeddiannu pwerau datganoledig yn Neddf Marchnad Fewnol y DU, a allai gyfyngu ar allu'r Senedd i lunio deddfau ar gyfer bwyd diogel, amgylchedd glân ac ymateb blaengar i'r argyfwng hinsawdd, fel maent yn ei bwysleisio. 

Fodd bynnag, yn anffodus, mae diffyg manylder neu ymrwymiadau cadarn ar amseroedd a thargedau mewn sawl maes - nid oes sôn am godi'r nod i leihau ein hallyriadau, i gyrraedd statws diwastraff, neu fynd ymhellach na thargedau ynni adnewyddadwy presennol.  Nid oes ychwaith lawer o sôn am ein cyfrifoldebau byd-eang na lleihau ein heffaith amgylcheddol ar weddill y byd, na gwaredu buddsoddi mewn tanwydd ffosil gan y sector cyhoeddus. 

Mae'r diffyg manylder ac uchelgais pellach yn y maniffesto yn siom gan y blaid a gyflwynodd ddeddf arloesol - Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol, a weithredodd i atal echdynnu tanwyddau ffosil yng Nghymru ac a gyflwynodd strategaethau uchelgeisiol ar yr economi gylchol a thrafnidiaeth. Tra'n bod yn croesawi'r addewidion, cyn belled ag y maent yn mynd, a'u natur traws lywodraethol, gobeithiwn am fwy o fanylion ac uchelgais yn ystod yr ymgyrch etholiad.   

Share this page