Maniffesto Plaid Cymru - ein hymateb

Published: 15 Apr 2021

Mae etholiad y Senedd ar 6 Mai 2021. Byddwn yn cyhoeddi blogiau yn gwneud sylwadau ar faniffestos Plaid Werdd Cymru, Plaid Cymru, Llafur Cymru, y Ceidwadwyr Cymreig a Democratiaid Rhyddfrydol Cymru ar ôl iddynt gael eu rhyddhau, yn ogystal â blog yn crynhoi ymrwymiadau'r pleidiau ar ôl i bob un gael ei gyhoeddi.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Gan Bleddyn Lake
Rheolwr Ymgyrchoedd a Datblygu

Cyfeillion y Ddaear Cymru

Heb os, mae maniffesto swmpus 126 tudalen Plaid Cymru, 'Gyda'n Gilydd Adeiladwn Gymru Newydd', yn rhaglen o ddifrif, sy'n cynnwys cynlluniau manwl ar gyfer cyflawni yn nhymor nesaf y Senedd a thu hwnt.   

Mae rhoi sylw i'r argyfwng hinsawdd yn un o'r pum maes blaenoriaeth ac yn rhan sylweddol o'r maniffesto, a cheir polisïau ac ymrwymiadau cysylltiedig â'r argyfwng hinsawdd drwy'r ddogfen. Er enghraifft, Bargen Werdd Cymru, ym meysydd iechyd, tai a ffyniant, gan roi polisïau amgylcheddol yn rhan o'r brif ffrwd yn hytrach na dim ond cael adran 'amgylchedd' - sy'n rhywbeth i'w groesawu.  

Fodd bynnag, ar yr economi mae'r pwyslais mwyaf drwy gydol y ddogfen, gyda llu o asiantaethau datblygu economaidd a strwythuray rhanbarthol yn cael eu sefydlu.   

Ar y cyfan, byddai'r prosiectau datblygu economaidd y cyfeirir atynt - megis sefydlu gwneuthurwr beiciau trydanol yn y cymoedd a chysylltiadau rheilffordd - yn gamau cadarnhaol o ran yr hinsawdd. Fodd bynnag, nid oes sicrwydd o hyn yn y dyfodol oni bai fod gan y cyrff a sefydlir i fod yn gyfrifol am hyn gylch gwaith penodol ar gyfer adfywio cymdeithasol ac economaidd sy'n mynd ati'n weithredol i leihau ein hallyriadau ac yn cyfrannu at gyrraedd targed sero net a lleihau ein hôl troed carbon byd-eang.  

Ceir nifer o ymrwymiadau sy'n ymwneud â gweithredu dros yr hinsawdd, ac mae'n dda gweld targedau pendant yn cael eu cynnig mewn sawl maes. Ymysg y targedau mwyaf uchelgeisiol y mae cynyddu capasiti ynni adnewyddadwy a chyflenwi holl ynni Cymru o ffynonellau adnewyddadwy erbyn 2035, dadfuddsoddi cyllid awdurdodau lleol o danwyddau ffosil, sicrhau mannau gwyrdd o fewn pellter cerdded pum munud o bob cartref, plannu 100,000 acer o goetir cymysg bob degawd, Deddf Aer Glân, dod yn genedl sydd ddim yn datgoedwigo a blaenoriaethu pympiau gwres - gyda rhaglen sylweddol o'u gosod mewn cartrefi.   

Mae'r cynigion ar gyfer 'Cymru Gysylltiedig' hefyd yn mynd gryn ffordd o ran newid ffocws ein systemau teithio a thrafnidiaeth er mwyn haneru nifer y teithiau mewn car yn y degawd nesaf. Er enghraifft, drwy ehangu'r rhwydwaith rheilffyrdd, rheoleiddio a masnachfreinio gwasanaethau bws, a gosod safonau gwasanaeth cenedlaethol ar gyfer trafnidiaeth gyhoeddus integredig.  

Mae'r targed cyffredinol o ddatgarboneiddio a chyrraedd sero net erbyn 2035 yn uchelgeisiol iawn, ond mae'n ddiddorol gweld Plaid yn cysylltu'r posibilrwydd o gyflawni hyn â chael y pwerau ac offer polisi i wneud, a chyflawni annibyniaeth yn ystod y degawd nesaf. Mae arwyddocâd pwysig i hyn o ran rhoi lle i dynnu'n ôl a newid y nod, ond mae'n gydnabyddiaeth realistig na ellir cyflawni uchelgais o'r fath heb bwerau, blaenoriaethu ac ewyllys wleidyddol.  

Er bod yma lawer o ymrwymiadau da, mae hefyd lle i wella, yn ein barn ni. Yn anffodus nid yw'r maniffesto hwn yn cynnwys unrhyw sylw yn erbyn cnydau GM, pŵer niwclear, na ar leihau ôl troed byd-eang Cymru. Mae hefyd yn cefnogi parhau â'r gwasanaeth awyr mewnol yng Nghymru ar yr union adeg y mae angen lleihau ar deithio mewn awyrennau, yn enwedig pan fo opsiynau trafnidiaeth eraill ar gael. Dylid dwyn ymlaen y dyddiad targed o 2050 ar gyfer adfer bioamrywiaeth yng Nghymru i gyd-fynd â'r targedau 2035 ar gyfer datgarboneiddio.   

Ar y cyfan, mae hwn yn faniffesto creadigol ac arloesol. Er enghraifft, Gweinyddiaeth y Dyfodol o fewn y llywodraeth, yr awydd i greu 'cymdogaethau 20 munud' a phwyslais ar wasanaethau lleol, cefnogi defnyddio beiciau e-cargo a chynyddu'r capasiti storio trydan yng Nghymru. Mae'r syniadau a'r ymrwymiadau yn y ddogfen hon yn sicr yn gyfraniad diddorol i'r drafodaeth yn etholiadau'r Senedd.  

Share this page