Maniffesto Plaid Werdd Cymru - ein hymateb

Published: 14 Apr 2021

Mae etholiad y Senedd ar 6 Mai 2021. Byddwn yn cyhoeddi blogiau yn gwneud sylwadau ar faniffestos Plaid Werdd Cymru, Plaid Cymru, Llafur Cymru, y Ceidwadwyr Cymreig a Democratiaid Rhyddfrydol Cymru ar ôl iddynt gael eu rhyddhau, yn ogystal â blog yn crynhoi ymrwymiadau'r pleidiau ar ôl i bob un gael ei gyhoeddi.

Gan Haf Elgar
Cyfarwyddwr, Cyfeillion y Ddaear Cymru

Mae maniffesto 'Trawsnewid Cymru' Plaid Werdd Cymru yn faniffesto lle mae'r argyfyngau hinsawdd a natur yn cael blaenoriaeth, gyda neges gref drwyddi draw am gydraddoldeb, adferiad amgylcheddol a chymdeithasol.  

Mae ganddo fformat diddorol, yn rhannu cynigion yn bedair thema eang: yr amgylchedd, gwaith, cymuned a llywodraeth, yn hytrach na meysydd polisi traddodiadol, sy'n caniatáu ar gyfer meddwl yn gydgysylltiedig ac yn ffordd dda o osgoi'r seilos a'r ymrwymiadau gwrthwynebol a all ddigwydd ym maniffestos pleidiau.  

Mae hefyd yn cynnwys gweledigaethau cadarnhaol ynglŷn â beth fyddai'r newidiadau hyn yn ei olygu i ardaloedd allweddol gwahanol o gymdeithas Cymru megis y cymoedd, ardaloedd gwledig ac arfordirol, ac ardaloedd trefol, sy'n dangos dealltwriaeth ac ymwybyddiaeth glir o effeithiau gwahanol newid ar yr ardaloedd hyn sy'n aml yn cael eu hesgeuluso, ac yn canolbwyntio ar yr agweddau cadarnhaol ar lle maent yn dymuno'i gyrraedd a pham y byddai hyn o fudd i'r cymunedau hynny.   

Ymhlith polisïau uchelgeisiol mae Cymru i gyrraedd y targed sero net erbyn 2030, Cronfa Trawsnewidiad Gwyrdd i Gymru a all gyflwyno bondiau, a Chomisiynydd ar gyfer Bioamrywiaeth ac Amddiffyn Anifeiliaid. Mae ymrwymiad cryf hefyd i economi llesiant a symudiad oddi wrth GDP, ac ymrwymiad na ddylai unrhyw arian cyhoeddus gael ei wario ar gwmnïau carbon uchel, sy'n ddinistriol i natur.   

Ac mae'n dda gweld ymrwymiad eto i gynnal statws Cymru yn Rhydd o GM, yn erbyn ffordd osgoi M4 sydd wedi'i chanslo ac o blaid dewisiadau eraill, a galwad am ddadfuddsoddi cronfeydd awdurdodau lleol mewn tanwyddau ffosil. Byddai cynigon yn cryfhau cyfranogiad pobl yn y broses ddemocrataidd hefyd, gyda phrosesau cyfranogol newydd a mwy o ddweud yn y system gynllunio.  

Mae hefyd yn ddiddorol gweld y byddent yn eirioli dros dreth allyriadau carbon, a all fod yn offeryn defnyddiol ar gyfer lleihau allyriadau, ond byddem eisiau sicrhau ei fod yn fesur blaengar ac effeithiol nad yw'n faich annheg ar grwpiau bregus neu'n arwain at oblygiadau annisgwyl.  

Fodd bynnag, mae diffyg manylion ymrwymiadau a thargedau yn y maniffesto. Er bod ychydig iawn y byddem yn anghytuno ag ef yn nhermau gweithredu dros yr hinsawdd, a phwyslais i'w groesawu ar raddfa'r newid sy'n ofynnol, yn anaml mae'n mynegi pa mor gyflym sydd angen i ni weithredu ar bolisïau penodol neu ba raddfa sy'n ofynnol - er enghraifft o ran adnewyddu tai ac effeithlonrwydd ynni, ynni adnewyddadwy, dim gwastraff neu greu coetiroedd. Mae'r targed hynod uchelgeisiol o Gymru sero net erbyn 2030, sy'n llwybr llawer cyflymach na'r hyn a argymhellir gan arbenigwyr megis Canolfan Tyndall hyd yn oed, yn bell o fod yn gyrhaeddiadwy â'r polisïau a gynigir.  

Yn ogystal, ychydig iawn o fanylion sydd am feysydd cyfiawnder hinsawdd allweddol megis trafnidiaeth a llygredd aer.

Mae'n faniffesto cymharol fyr sy'n canolbwyntio ar greu gweledigaeth a bod yn glir ynglŷn â'u blaenoriaethau - dogfen lefel uchel yn hytrach na chynllun ar gyfer llywodraeth. Ond mae'n gychwyn addawol, a chyn belled ag y mae'n mynd, mae'n gadarnhaol a chryf ynglŷn â thrawsnewid Cymru mewn modd sy'n blaenoriaethu'r argyfyngau hinsawdd a natur ar draws meysydd polisi.  


 

Share this page