Maniffesto'r Ceidwadwyr Cymreig - ein hymateb

Published: 23 Apr 2021

Mae etholiad y Senedd ar 6 Mai 2021. Byddwn yn cyhoeddi blogiau yn gwneud sylwadau ar faniffestos Plaid Werdd Cymru, Plaid Cymru, Llafur Cymru, y Ceidwadwyr Cymreig a Democratiaid Rhyddfrydol Cymru ar ôl iddynt gael eu rhyddhau, yn ogystal â blog yn crynhoi ymrwymiadau'r pleidiau ar ôl i bob un gael ei gyhoeddi.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Gan Bleddyn Lake
Rheolwr Ymgyrchoedd a Datblygu
​Cyfeillion y Ddaear Cymru

Mae maniffesto’r Ceidwadwyr Cymreig, Awn ati i adeiladu Cymru Well, yn canolbwyntio ar ailadeiladu o’r pandemig, ac yn benodol adferiad economaidd. Mae’r maniffesto’n frith o bolisïau ‘gwyrdd’ ac amgylcheddol, ond er hyn prin iawn yw’r sôn ynddo am yr argyfwng hinsawdd ac nid yw’n ymddangos fel blaenoriaeth yn y ddogfen.

Fodd bynnag, mae eu cynllun adfer o’r pandemig yn ymrwymo i sbarduno’r economi ac ailadeiladu ar gyfer dyfodol cryfach, mwy cyfartal a gwyrddach, gan gynnwys 15,000 o swyddi gwyrdd. Ac mae’n galonogol gweld bod cefnogi ynni adnewyddadwy wrth wraidd eu cynigion, gyda’r dyhead o drawsnewid economi Cymru i fod yn ganolbwynt byd-eang o’r economi werdd. Ac maent yn ymrwymiad unwaith eto i sicrhau bod Cymru’n sero net erbyn 2050.

Yn eu prif adran ar yr amgylchedd, sy’n dwyn y teitl Dychwelyd yn wyrddach, ceir cynigion i wahardd plastigau untro a chyflwyno cynllun dychwelyd â blaendal, plannu tua 8 miliwn o goed bob blwyddyn, annog y sector cyhoeddus i Brynu Cynnyrch Cymreig, Cronfa Bywyd Gwyllt o £20 miliwn, a mesurau i leihau’r risg o lifogydd gan gynnwys atal datblygiadau anghyfrifol mewn ardaloedd o risg uchel o lifogydd.

Mae’n galonogol hefyd gweld ymrwymiad cryf i Ddeddf Aer Glân, a thalebau ar gyfer effeithlonrwydd ynni cartref, gyda £10,000 ar gyfer aelwydydd ar incwm isel - gyda’r ddau fesur yn cynnig buddion cymdeithasol ac amgylcheddol cryf. Ar ynni, ceir ymrwymiad ar gyfer canolfan arloesol newydd o ragoriaeth ac ymchwil ar storio a chludo ynni, cronfa £150 miliwn i’w fuddsoddi mewn ynni morol ac astudiaeth ddichonoldeb ar ynni llanwol. I’r gwrthwyneb mae sôn am wneud gogledd Cymru yn hwb yn y DU ar gyfer Adweithyddion Modiwlar (adweithyddion niwclear). Nid yw gyrru ymlaen gyda chenhedlaeth newydd o adweithyddion niwclear, waeth beth yw eu maint, yn rhywbeth y dylem fod yn ei ystyried.

Ceir cynigion radical hefyd ar lywodraethiant amgylcheddol - i gael gwared ar Gyfoeth Naturiol Cymru a rhannu’r cyfrifoldeb rhwng dau sefydliad ar wahân: un masnachol a’r llall yn un rheoleiddiol. Yn ogystal, ceir cynnig i sefydlu Swyddfa Annibynnol ar gyfer Diogelwch Amgylcheddol a Newid Hinsawdd yng Nghymru i sicrhau bod cyrff cyhoeddus yng Nghymru’n atebol. Yn sicr gadawyd bwlch llywodraethiant gan Brexit sydd angen ei lenwi ar frys, ond byddai’n fuddiol cael rhagor o fanylder ar sut y byddai’r cyrff hyn yn cydweithio a pha bwerau fyddai ganddynt. 

Fodd bynnag, byddai’r holl bolisïau amgylcheddol hyn yn cael eu tanseilio gan y ffocws ar adeiladu ffyrdd, yn enwedig tri phrosiect mawr dinistriol ffordd liniaru’r M4, llwybr coch yr A55 a’r A40 yn Sir Benfro. Oes, mae yna gynigion ar gyfer gwefru ceir trydan ac ar gyfer seilwaith rheilffyrdd yn ogystal â metro gogledd Cymru. Y broblem yw y byddai cyfanswm y buddsoddiad o adeiladu ffyrdd newydd llawer yn uwch na’r cyllidebau ar gyfer gwaith amgylcheddol, a phob buddsoddiad arall, ac yn gam yn ôl o’r symudiadau diweddar i alluogi pobl i wneud llai o ddefnydd o’u ceir a chael mynediad at drafnidiaeth gyhoeddus ac opsiynau teithio llesol. Mae’r dull darfodedig hwn yn anghyson â’r bwriad o gyrraedd sero net yng Nghymru o ran y niwed amgylcheddol a’r cynnydd mewn traffig.  

Yn gyffredinol mae yna rai polisïau amgylcheddol da yn y ddogfen hon, yn enwedig ar ddatgarboneiddio ein hynni, ond prin iawn yw’r gydnabyddiaeth o’r argyfwng hinsawdd a dim digon o sylw tuag at weithredu ar yr hinsawdd drwyddi draw. A byddai’r gweithredoedd cadarnhaol yn cael eu tanseilio gan y cynlluniau adeiladu ffyrdd. 

 

Share this page