Pam y dylai archfarchnadoedd roi drysau ar eu hoergelloedd?

Published: 10 Nov 2020

Photo of Joe Cooke

Gan Joe Cooke
Gwirfoddolwr gyda Chyfeillion y Ddaear Cymru

Gallai archfarchnadoedd arbed digon o ynni i bweru 730,000 o gartrefi pe baent yn rhoi drysau ar eu hoergelloedd. Mae gwirfoddolwr Cyfeillion y Ddaear Cymru, Joe Cooke, yn annog archfarchnadoedd yng Nghymru i ddilyn arweiniad eu cymheiriaid yn Ffrainc, ac ymuno'n wirfoddol i wneud y newid pwysig hwn er budd ein planed.

Yn y gorffennol, mae archfarchnadoedd wedi datgan dyhead i leihau eu heffaith ar yr amgylchedd. Yn ystod y pandemig coronafeirws, maent wedi dangos pa mor sydyn y gallant addasu i sefyllfa.

Ond nid oes yna ddrysau ar oergelloedd mewn archfarchnadoedd, er gwaethaf 10 mlynedd neu fwy o gefnogaeth i'r newid hwn.

Trwy gymryd y cam hwn, gallai archfarchnadoedd arbed swm sylweddol o arian ac ynni. Gallai'r gostyngiad syfrdanol hwn yn eu hôl troed carbon fynd yn bell o ran helpu'r DU i ddod yn garbon niwtral ac i leihau effeithiau newid yn yr hinsawdd. Rydym yn eu hannog i gymryd y cam hwn nawr, er lles ein planed a chenedlaethau'r dyfodol.  

 

Beth yw'r broblem?

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Llun gan NeONBRAND ar Unsplash

Heb ddrysau ar oergelloedd, mae llawer o'r ynni sydd ei angen i gadw bwyd yn oer, yn dianc. Ydych chi erioed wedi sylwi ei bod hi bob amser yn eithriadol o oer mewn archfarchnad?

Yn ôl yr erthygl bapur newydd hon o 2013, mae'r archfarchnadoedd mwyaf yn Llundain yn oerach na'r Arctig!

 

Faint o ynni sy'n cael ei wastraffu?

 

Mae archfarchnadoedd y DU yn defnyddio 1.5 miliwn cilowat-awr (kWh) o ynni, ac mae 60-70% ohono'n cael ei ddefnyddio gan oergelloedd a rhewgelloedd.

Yn ogystal, mae The Times yn awgrymu bod oergelloedd mewn archfarchnadoedd yn defnyddio 1% o gyflenwad pŵer y DU bob blwyddyn. I roi hyn mewn persbectif, mae un oergell 2.5 metr heb ddrws yn rhyddhau 7 tunnell o CO2 bob blwyddyn. 

Amcangyfrifir bod unrhyw gartref nodweddiadol yn y DU yn defnyddio 4000kWh o ynni bob blwyddyn, felly mae'r ynni sy'n cael ei arbed trwy osod drws ar un oergell yn ddigon i bweru un cartref am flwyddyn gron gyfan!

Os cymerwn fod gan bob un o'r 6,000 o archfarchnadoedd yn y DU 80 metr o le ar gyfer oergelloedd, ac mae gan bob un o'r 50,000 o siopau cyfleustra 5 metr, gallai hynny arbed 2.04 miliwn tunnell o CO2 bob blwyddyn. Mae hynny'n gyfwerth â faint o CO2 sy'n cael ei ryddhau i bweru 730,000 o gartrefi am flwyddyn!

 

Uwch nwyon tŷ gwydr

Mae llawer o oergelloedd mewn archfarchnadoedd hefyd yn rhyddhau nwyon oeri o'r enw Hydrofflwrogarbonau (HFCs). Mae nwyon HFC yn 'uwch nwyon tŷ gwydr', sy'n golygu eu bod yn dal mil gwaith yn fwy o wres na Charbon Deuocsid.

Er bod yr UE wedi gwahardd defnyddio HFCs mewn oergelloedd, maen nhw'n dal i gael eu defnyddio.  Mae cwmnïau archfarchnad mawr yn y DU wedi cytuno i gael gwared ar y defnydd o HFCs yn raddol, ond mae un gadwyn o archfarchnadoedd yn y DU yn aros tan 2030 i roi'r gorau i'w defnyddio'n gyfan gwbl. Petai yna ddrws ar yr oergell, byddai angen llai o nwy HFC i gadw'r bwyd yn oer.

Ac wrth gwrs, po leiaf o nwy HFC sy'n cael ei ryddhau, po leiaf o gynhesu byd-eang fydd yna.  Sef yr hyn y mae pob un ohonom eisiau ei weld.

 

Beth mae'r archfarchnadoedd yn ei ddweud?

 

Ymatebodd y rhan fwyaf o'r manwerthwyr mawr yng Nghymru i ddeiseb y llynedd gan roi eu hochr nhw o'r ddadl. Er ei bod yn galonogol cael darllen eu bod wedi lleihau eu hôl troed carbon, nid ydynt yn cyfeirio at y mater o ddrysau oergell. Mae'n ymddangos, er gwaethaf yr uchelgais i fod yn garbon niwtral cyn gynted â phosibl, nid yw'n rhywbeth y mae archfarchnadoedd yn barod i ymrwymo iddo. Ond, pam?

Mae rhai archfarchnadoedd wedi dweud y bydd pobl yn llai tebygol o brynu’n fyrbwyll os oes yna ddrysau ar oergelloedd.

.

Biliau is, llai o wastraff bwyd

Mae archfarchnadoedd yn poeni y byddai rhoi drysau ar oergelloedd yn effeithio ar werthiannau.

Nid yw'n sicr y bydd hyn yn digwydd ond os bydd, gobeithio y bydd y gostyngiad mewn prynu byrbwyll yn cael ei wrthbwyso gan filiau ynni is. Er enghraifft, rhoddodd archfarchnadoedd Co-op ddrysau ar eu hoergelloedd yn 2012 ac adrodd £50 miliwn o arbedion y flwyddyn. A bydd y cwmnïau mwy yn arbed hyd yn oed mwy.

Mae'r newidiadau a wnaed yn ystod y pandemig wedi dangos gallu cwsmeriaid i addasu i amodau gwahanol.  Gwnaeth pawb addasu a gallwn wneud yr un peth gyda hyn. Byddwn yn agor y drws ac yn estyn ein hoff nwyddau. Wedi'r cyfan, byddwn i'n hapus i wneud llawer mwy na hynny i gael gafael ar fy hoff gwrw oer!

A ph'run bynnag, mae prynu byrbwyll yn aml yn arwain at wastraff bwyd, gan ein bod yn prynu pethau nad ydym eu hangen mewn gwirionedd. Felly, mae gan ddrysau ar oergelloedd y fantais ychwanegol o leihau gwastraff bwyd. O ganlyniad, bydd angen i archfarchnadoedd addasu eto trwy brynu a chynhyrchu llai o nwyddau, gan arbed rhagor o arian. Ac, wrth gwrs, mae ein hagwedd wastraffus yn gwneud niwed i'r blaned hefyd. 

Wrth gwrs dylai archfarchnadoedd gael eu canmol am eu gwaith yn cael gwared ar fagiau plastig yn raddol. Fodd bynnag, yn 2010 darganfu’r Asiantaeth Ymchwilio Amgylcheddol bod allyriadau o oergelloedd yn cael mwy o effaith amgylcheddol na bagiau plastig. Rhestrir y ffeithiau uchod ac maent wedi'u cynnwys mewn sawl blogdeiseb, ac erthygl newyddion. Mae'n amser i weithredu.

 

Ai technoleg yw'r ateb?

Mae llywodraeth y DU wedi cyfeirio at y ffaith bod yna fwy a mwy o dechnolegau amgen i gynyddu effeithlonrwydd oeri bwyd. Yn 2019 ymrwymodd Tesco i fabwysiadu technoleg Aerofoil yn ei siopau yn y DU ac Iwerddon. Mae'r cwmni wedi nodi y bydd hyn yn arwain at ostyngiad o 15% mewn defnydd ynni. Mae'r dechnoleg hon yn gorfodi aer oer tuag at flaen yr oergell gan ddefnyddio erodynameg.

Mae hyn yn sicrhau bod llai o aer oer yn dianc i weddill yr archfarchnad, gan gynyddu effeithlonrwydd ynni. Adroddodd Electronic Specifier bod gan y datrysiad hwn y potensial i arbed hyd at 25% o ynni i archfarchnadoedd.

Petai pob archfarchnad yn cael ei gorfodi i fabwysiadu'r dechnoleg hon, gallai'r ynni sy'n cael ei arbed fod yn aruthrol. Fodd bynnag, datrysiad symlach, mwy cost effeithiol, mwy effeithiol ac effeithlon fyddai ychwanegu drws. 

 

Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei ddweud?

Ym mis Tachwedd 2019, Ymatebodd Llywodraeth Cymru i ddeiseb, gan nodi nad oes ganddi’r pwerau i “gymryd camau ystyrlon pellach”.

Byddem yn eu hannog i ofyn am y pwerau angenrheidiol gan lywodraeth y DU neu ddefnyddio'r pwerau sydd ganddynt i gymell newid. Fodd bynnag, ni ddylai bod angen polisi gan y llywodraeth i wneud i newid ddigwydd.

 

Rydym yn annog archfarchnadoedd i newid yn wirfoddol

A yw hyn wedi digwydd mewn lleoedd eraill? Do, yn Ffrainc bu i archfarchnadoedd gytuno i wneud y newid hwn yn wirfoddol yn 2012. Bydd gan dri chwarter o 450 milltir o oergelloedd Ffrainc ddrysau erbyn eleni. Ar ôl bron i 8 mlynedd o ymgyrchu a llawer o sylw gan y cyfryngau, nid oes dim wedi newid yma yn y DU.

Felly, mae gan archfarchnadoedd yng Nghymru gyfle i ddod yn un o'r gwledydd cyntaf i wneud y newid hwn. 

Cafodd y ddwy ddelwedd eu cymryd o'r wefan https://unsplash.com/

 

Share this page