Sara Lewis yn mynd i'r afael â gwastraff yng Nghaerffili

Published: 6 Mar 2019

Y cyntaf mewn cyfres o erthyglau sy'n proffilio unigolion sy'n ysbrydoli eu cymunedau lleol i leihau gwastraff yng Nghymru

Mae Sara Lewis, gwirfoddolwr gyda Terracycle, wedi codi dros £15,000 ar gyfer grwpiau ac ysgolion yng Nghaerffili. Cawsom sgwrs gyda Sara, sy'n fam i chwech, am ei brwdfrydedd ynghylch ailgylchu.

"Dysgais am Terracycle wyth mlynedd yn ôl, a meddyliais, 'Ew! Dyna ffordd wych o ailgylchu pethau fel pocedi bwyd babi a hen binnau ysgrifennu'! Cefais fy nysgu gan fy rhieni i wneud y gorau o bethau, ac rwy'n ceisio annog fy mhlant innau i wneud yr un fath.

"Mae fy mhlant a rhai o fy ffrindiau yn meddwl bod yr hyn rwy'n ei wneud ychydig yn wirion, ond rwy'n cael boddhad o wybod bod yr eitemau rwy'n annog eraill i'w hailgylchu yn cael bywyd newydd yn lle mynd i'r safle tirlenwi.

"Mae casglu eitemau i Terracycle yn ffordd wych o godi arian ar gyfer grwpiau, ysgolion ac elusennau. Hyd yma, rwyf wedi casglu dros £15,000 ac wedi anfon dros 1,000,000 o eitemau i gael eu hailgylchu.

"Dechreuais gasglu eitemau i'w hailgylchu yn ysgol fy mhlant ac rwyf bellach yn casglu ar gyfer dros 14 o grwpiau, gan gynnwys ysgolion, grwpiau geidiaid a grwpiau sgowtiaid. Yr unig gost yw tâp brown a fy amser fy hun.

"Mae Terracycle yn cynnal cystadlaethau ailgylchu, sy'n fy sbarduno i ddal ati! Mae un o'm grwpiau, Ysgol y Castell, newydd ddod yn bedwerydd drwy'r Deyrnas Unedig am ailgylchu papurau bisgedi - rydym wedi ennill y gystadleuaeth ddwywaith o'r blaen!

"Ers y rhaglen ddogfen Blue Planet 2 yn 2017, rwyf wedi gweld cynnydd graddol yn nifer yr eitemau ailgylchu sy'n cael eu gollwng yn fy mhwyntiau ailgylchu o gwmpas Caerffili. Fis Rhagfyr diwethaf, cyhoeddodd Walkers Crisps y byddai'n gweithio mewn partneriaeth â Terracycle UK i gynnig cynllun ailgylchu papurau creision am ddim. Erbyn hyn, mae llawer mwy o bobl yn ailgylchu eu papurau bisgedi a chreision.

"Arferai gymryd tua phum awr yr wythnos imi gasglu a threfnu'r eitemau. Bellach, mae'n cymryd o leiaf 10 awr yr wythnos, a mwy na hynny fel arfer.

"Rwy'n postio negeseuon yn aml ar fy nhudalen ailgylchu, sef 'Ailgylchu/recycling in Caerphilly', mewn grwpiau eraill ac ar dudalennau eraill ar y cyfryngau cymdeithasol, naill ai'n annog pobl i ailgylchu fwy a'u hysbysu am y gwahanol opsiynau neu'n rhannu erthyglau perthnasol fel y gall eraill elwa.

"Dros y blynyddoedd, rwyf wedi gwella fy ngwybodaeth o'r hyn y gellir ei ailgylchu ac wedi gwneud llawer o ffrindiau yn lleol ac o rannau eraill o'r Deyrnas Unedig. Rwyf hefyd wedi mynd i gwrdd ag ailgylchwyr mewn gwahanol rannau o'r wlad.

"Mae casglu gyda Terracycle wedi bod yn ffordd wych o gwrdd â phobl yn ogystal â helpu'r blaned!"

 

Ydych chi'n gwybod am unrhyw un sy'n ysbrydoli pobl eraill i ailgylchu a lleihau ein gwastraff? Enwebwch eich arwr gwastraff

 

Share this page