Sut gall chwarae ddod yn hygyrch ac yn gynaliadwy?

Published: 22 Apr 2024

Bleddyn Lake

Bleddyn Lake, Rheolwr Ymgyrchoedd a Datblygu
Cyfeillion y Ddaear Cymru

Sut allwn ni arbed ychydig o arian, lleihau nifer y teganau sy'n llenwi ein cartrefi, lleihau nifer y teganau sy'n mynd i safleoedd tirlenwi a gostwng ein hallyriadau hinsawdd, hyd yn oed os bydd hynny mewn ffordd fach yn unig.
Image taken from above of young child on a white carpet surrounding by toys
Llun gan Yuri Shirota ar Unsplash

 

Beth am Chwarae?

Mae gan y bardd a'r awdur Americanaidd, Diane Ackerman, ddywediad da - "Chwarae yw hoff ffordd yr ymennydd o ddysgu".

Fel y gŵyr pob rhiant neu ofalwr, mae teganau yn ddrud iawn hefyd! Gall hyd yn oed rhai sy'n costio cryn dipyn gael eu symud yn gyflym iawn i'r pentwr 'dwi wedi diflasu arno' gan dreulio'r blynyddoedd nesaf yn casglu llwch nes y byddan nhw efallai'n cael eu defnyddio eto gan blentyn arall neu eu gwerthu mewn sêl cist car neu eu rhoi i elusen. Ond, bydd llawer iawn mwy yn cael eu rhoi yn y bin ar ryw adeg neu’i gilydd.

Ac mae'r ‘geriach plastig' yn creu poendod. Faint o olew sydd wedi cael ei ddefnyddio i gynhyrchu'r plastig sy'n gwneud y stwff sy'n cael ei ddefnyddio am ychydig wythnosau ac yna'n cael ei anghofio amdano? Faint o deganau sy'n darfod mewn safleoedd tirlenwi? Faint sydd wedi mynd i beiriannau llosgi?

Oni fyddai'n braf pe gallem arbed ychydig o arian, lleihau nifer y teganau rydyn ni'n eu prynu a faint o deganau sy'n mynd i safleoedd tirlenwi ac, ar yr un pryd, helpu i leihau, hyd yn oed mewn ffordd fach, rhai allyriadau hinsawdd.

Wele’r Llyfrgelloedd Teganau!

Nid yw’n gysyniad newydd mewn unrhyw fodd, ond yn anffodus braidd, maent dal yn eithaf prin.


Beth yw Llyfrgell Teganau?

Mae'n gwneud yr hyn y mae'n ei ddweud ar y tun mewn gwirionedd: mae'n llyfrgell ar gyfer teganau yn hytrach na llyfrau. Nid yw'n newydd o gwbl. Yn wir, sefydlodd Jill Norris y cyntaf o'i fath yn y DU yn Enfield (gogledd Llundain) ym 1967. Ac mae eu hanes yn mynd yn ôl llawer pellach. Sefydlwyd yr un cyntaf erioed yn LA yn 1935. Dechreuodd y syniad ar ei gyfer y flwyddyn flaenorol yn ystod y Dirwasgiad Mawr.

Gall llyfrgell deganau roi amrywiaeth o deganau, posau, gemau ac ati i deuluoedd lleol eu benthyca neu eu llogi am ffi fach iawn.

Buddion

Gall llyfrgelloedd teganau

  • rhoi mynediad i blant i deganau na fyddent fel arall yn dod ar eu traws oherwydd cost neu hyd yn oed oherwydd nad oes lle iddynt yn y cartref.
     
  • arbed llawer o arian i deuluoedd drwy eu galluogi i fenthyg teganau bob wythnos yn hytrach na'u prynu. Yn amlwg, mae croeso arbennig i hyn yn yr amseroedd hyn lle mae costau byw wedi mynd drwy'r to.
     
  • helpu i danio dychymyg plentyn! Gall amrywiaeth eang o deganau eu galluogi i gael ystod ehangach o brofiadau chwarae sy'n cyfrannu at eu datblygiad.
     
  • gweithredu fel canolbwynt cymunedol, gan ddod â rhieni a gofalwyr plant ifanc at ei gilydd. Mae rhai llyfrgelloedd teganau yn cael eu cynnal mewn mannau cymunedol presennol lle mae’n bosib i rieni gael paned a sgwrs â rhieni eraill. Gall hyn helpu i greu cyfeillgarwch parhaol a chysylltiadau cymunedol.
     
  • helpu i atal annibendod! Wrth i blant weithio eu ffordd trwy deganau mwy a mwy, gemau, posau ac ati, gall cartrefi fynd yn fwy a mwy anniben. Gall benthyca neu logi rhai teganau helpu i leihau rhywfaint o'r annibendod hwn yn barhaus. Rhywbeth y bydd pob rhiant yn ei groesawu!
     
  • Ac wrth gwrs, maen nhw hefyd yn helpu (hyd yn oed os mai dim ond mewn ffordd gymharol fach yn unig) i leihau ein defnydd o blastig, lleihau faint o bethau sy'n mynd i safleoedd tirlenwi a lleihau rhai allyriadau hinsawdd.

 

Teganau a phlastig

Er mwyn rhoi hyn mewn cyd-destun, ledled y byd, rydym ar hyn o bryd yn cynhyrchu mwy na 350 miliwn tunnell fetrig o wastraff plastig bob blwyddyn. Ac os na fyddwn yn mynd i'r afael â hyn, rhagwelir y bydd yn treblu erbyn 2060, i swm syfrdanol o un biliwn tunnell fetrig.   

Gyda'r rhan fwyaf o blastig yn cael ei wneud o olew, amcangyfrifir y gallai plastig, oni bai ein bod yn gwneud rhywbeth amdano, erbyn 2050, gyfrif am oddeutu 20% o'r holl ddefnydd o olew yn fyd-eang.   

Wrth gwrs, ni fydd llyfrgelloedd teganau yn mynd i'r afael â'r broblem yn llwyr, ond mae ganddynt ran i'w chwarae a gan eu bod hefyd yn dda i'n waledi ac i gymunedau, maent yn sicr yn haeddu lle yn economi gylchol Cymru.


Beth fydden ni'n hoffi ei weld yng Nghymru?

Mae gan Lywodraeth Cymru lawer o fentrau i gefnogi'r 'economi gylchol'.

Yn y bôn, mae economi gylchol yn ceisio cyrraedd y pwynt lle mae popeth naill ai ddim yn cael ei gynhyrchu yn y lle cyntaf, neu os ydyw, yn cael ei wneud mewn ffordd y gellir ei atgyweirio, ei ailddefnyddio, ei hailgylchu, ei gompostio ac ati fel nad oes unrhyw beth yn cael ei daflu allan.

Mae cynlluniau fel Caffi Atgyweirio Cymru neu Benthyg Cymru(Llyfrgell Pethau) yn enghreifftiau gwych o sut y gallwn leihau faint o bethau rydym yn eu defnyddio a'u taflu i ffwrdd, ac mae ganddynt y fantais ychwanegol o arbed arian i deuluoedd a chymunedau. Sefyllfa ble mae pawb ar eu hennill go iawn.

Er mwyn i Gymru ddod yn genedl ddiwastraff go iawn, bydd angen i fentrau eraill gael eu cyflwyno hefyd. Ni fedrwn roi’r gorau i’n hymdrechion a meddwl bod popeth y gellir ei wneud, wedi'i wneud. Nid yw hynny’n wir.

O ran yr economi rannu, gall pethau fel llyfrgelloedd cewynnau, paent cymunedol a  chynlluniau ailgylchu pren a llyfrgelloedd teganau helpu.  

Fel y soniwyd uchod, mae gan lyfrgelloedd teganau eu rhan i'w chwarae wrth leihau gwastraff, lleihau'r defnydd o blastig, lleihau allyriadau hinsawdd, a hefyd arbed arian i rieni a theuluoedd.

Mae gan Lywodraeth Cymru eisoes ffocws ar 'hawl i chwarae' plentyn, a chyda nifer o argymhellion a chynigion newydd yn codi o adolygiad, rydym yn gobeithio y bydd Llyfrgelloedd Teganau yn mynnu eu lle yng Nghymru yn awr.  

Hoffem weld Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda'r holl grwpiau perthnasol yng Nghymru i gyflwyno rhwydwaith cenedlaethol o lyfrgelloedd teganau.

Llofnodwch ein deiseb

Rydym yn lansio deiseb ar wefan y Senedd yn galw ar Lywodraeth Cymru i wneud hyn yn union, i gyflwyno rhwydwaith cenedlaethol o lyfrgelloedd teganau. Byddwn yn rhoi dolen i'r ddeiseb yma pan fydd ar gael.Llofnodwch ein deiseb yma

 

Share this page